Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

druain

druain

Roedd y dynion druain at eu canol yn y môr yn disgwyl am long i'w hachub o Ffrainc.

Daeth mintai gymysg ohonynt i dueddau Caer ac ni wyddai'r Cymry druain sut yn y byd i'w hatal.

â'u gynau ar eu hysgwyddau, a'u knapsacks ar eu cefnau, yn cynnwys eu pob peth hwy, druain!

'Doedd gan Ymddiriedolwyr 'Coffa' druain ddim gobaith i ddenu buddsoddwyr yn eu hachos nhw.

Roedd edrych ar yr hen flag yn chwifio yn rhubanau yn y gwynt o flaen y fyddin - edrych yn wynebau melynion llosgedig y bechgyn, druain!

Felly, yn ystod y saith mlynedd ar hugain yr oedd yr esgobion druain mewn cryn benbleth oherwydd yr awelon croes a oedd yn chwythu arnynt.

Ni wyddai'r trefnyddion druain beth yn y byd i'w wneud gan fod costau'r daith yn cynyddu'n arswydus o ddydd i ddydd.

Druain ohonynt.