Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drwm

drwm

Ac y mae gan waith yr Arglwydd ei drwm a'i ysgafn, ac os oes llwyfannau y mae cyfle i bobl orffwyso wrth y gwaith arnynt, wele maent hwy wedi eu meddiannu eisoes gan rai o gyffelyb fryd.

Ni pharodd y berthynas honno'n hir iawn chwaith ac aeth Dic i yfed yn drwm.

'Paid a becso, fenyw fach - fe fyddai'n sych gorcyn mewn dou funud!' Ond i'w phlesio, ymysgydwodd rhag y diferynion dŵr, stompiodd ei sgidie'n drwm ar y llawr carreg ac aeth drwodd at y tan.

Hwnnw'n bodio'n ofalus, holi, a rhybuddio cyn gwasgu'n drwm mewn mannau arbennig.

mae'r gitars yn drwm ac egnïol ar tiwn yn fachog.

Nid da ganddo na phiwritaniaid na chatholigion a gallai fod yn drwm iawn arnynt.

Mae'r hyn a alwodd Alun Llewelyn-Williams yn "ddiwethafiaeth" yn gorwedd yn drwm arnyn nhw i gyd.

Mae pob papur newydd yn drwm i'w gario o'r siop gyda'r wadan drwchus o daflenni yn hysbysebu pob dim dan haul.

Er ei bod yn aml yn ddychrynllyd o brin ei hadnoddau ac yn gorfod wynebu anawsterau enfawr, llwyddodd i adael ei hôl yn drwm ar fywyd Cymru.

Roedd pobl y wlad wedi cael eu siomi o sylweddoli bod trethi'r Seneddwyr yr un mor drwm a rhai'r Brenin - ond yn waeth na hynny, roedd y Senedd wedi newid cymaint ar ddeddfau'r wlad, yn enwedig ynglyn a'r Eglwys.

Er hynny, roedd yn arbennig o hoff o ddawnsio, ac ysmygai'n drwm.

Arferai fod yn eitha' ffyddlon yng nghapel Ebeneser, neu Gapel Pen, Llanfaethlu, ac arhosai'r plant yn eiddgar am sŵn ei esgidiau hoelion mawr wrth iddo droedio'n drwm i'w sedd yn y blaen.

Hanesydd yr oedd ysgrifenwyr Cymraeg i bwyso'n drwm arno wrth drafod Penri oedd Daniel Neal, gweinidog Eglwys Annibynnol Aldersgate Street, Llundain.

Mae'n amlwg fod dewin yn dwyn bwyd y llys, a hynny ar ôl gwneud i bawb gysgu'n drwm.

'Gawsoch chi hi?' 'Ddim eto -' Honnai rhai mai dyma pam roedd y Priodor mor drwm ei lach ar drefi a byth a hefyd yn rhefru pregethu yn eu herbyn.

Roedd traed Miss Aster yn camu'n drwm wrth fy ochr (roedd ei sgidiau bob amser yn pwyso braidd i'r ochr dde) a syllai yn ei blaen, mewn distawrwydd, fel peilot â'i holl feddwl ar lywio'i long.

Effeithiai hyn yn drwm ar arddull a chynnwys y pregethu.

Mae'r gwledydd mwyaf blaengar bellach yn buddsoddi'n drwm mewn ymchwil wyddonol sylfaenol, fel ernes ar gyfer datblygiadau posib yn y dyfodol.

Yr oedd yr hyn a gyhoeddodd ef cyn hynny yn dal yn gymysglyd o ran cyfeiriad a braidd yn ansicr, ac yn drwm o dan ddylanwad cywair esthetaidd Pater .

O ystyried y nofel fel cyfanwaith y mae'r dystiolaeth yn pwyso'n drwm o blaid safbwynt John Gwilym Jones.

Roedd o'n syndod mawr i mi na allai Anti Jini glywed pob gair yn glir fel cloch hefyd, er ei bod hi wedi mynd yn drwm iawn ei chlyw yn ddiweddar.

Ar ôl yr ymchwydd yna, lle'r oedd yn amlwg yn drwm dan ddylanwad y pulpud, mae ei adroddaidau o ymweliad ag un o feysydd yr ymladd yn llawer nes at newyddiaduraeth fodern .

Mae'r dehongliad hwn yn sicr yn cyd-fynd â chymeriad yr afon (yn enwedig felly ei rhan isaf) pan fydd hi wedi bod yn bwrw'n drwm.

Digon yw dweud fod llawer ohonynt yn ffigurau cenedlaethol ac wedi gadael eu hol yn drwm ar lawer agwedd ar ein bywyd.

Fe fyddai gweddill y trafod â mi fy hun ac â newyddiadurwyr eraill yn digwydd mewn dinas lle roedd mil o blant yn marw bob wythnos, lle'r oedd plant deg oed yn llusgo gynnau rhydlyd drwy'r llwch am eu bod yn rhy drwm i'w cario.

Roedd y waliau gwydr a'r to yn drwm gan ager a thasgai diferion mawr o leithder i lawr ar ben y planhigion.

Ni allai lai nag ymagweddu - yn y lle cyntaf, fodd bynnag - fel nofelydd Victoraidd, llenor a oedd yn drwm dan ddylanwad dulliau ffasiynol nofelydda yn yr oes honno.

Wrth gwrs, mae lens o'r maint hwn yn drwm iawn, ac yn plygu dan ei bwysau.

Un noson, ar ol llaetho'n o drwm ar ffroth ffrwyth yr heiddan yn y Spite Inn, ni bu deuawd hapusach yn mynd am eu cartra na Rondol a Begw.

Cyfeiria Gwyn A.Williams at anghydffurfwyr radicalaidd gogledd Morgannwg yn niwedd y ddeunawfed ganrif a ddylanwadodd mor drwm ar hanes cynnar Merthyr Tudful.

Tua chanol nos, a'r gelyn yn cysgu'n drwm yn y dyffryn isod, rhoes Gideon arwydd a thorrodd pob gŵr ei biser a dechrau chwifio'r ffagl dân a bloeddio pob un ei utgorn nes i'r dyffryn grynu.

Bu'r cwestiynau hynny'n pwyso'n drwm arnaf wrth imi ddal i gnoi.

Ac wedi'r cwbwl, roedd dylanwad Fenis ar Sisili yn drwm.

Mae gwynt y Dwyrain þ hen wynt go iawn þ yn deifio pawb a phopeth a dechreuodd fwrw eira'n drwm ganol y bore ac mae wrthi o hyd.

'Roedd Tyndale yn hyddysg yn ieithoedd gwreiddiol y Beibl, ond mae'n amlwg fod ei fersiwn o'r Testament Newydd yn ddyledus i fersiwn Erasmus a'i fod yn gyffredinol yn drwm dan ddylanwad fersiwn Luther.

Mi wna'i ngorau i gysgu heno,' meddyliodd, hwyrach y medraf ddianc oddi yma fory i chwilio am blisman yn rhywle.' O fewn dim 'roedd yn y gwely ac er ei holl bryder 'roedd Glyn Owen yn cysgu'n drwm.

Ond mae'r meini mor drwm fel na all neb eu symud nhw ac maen nhw'n gwarchod y trysor yn effeithiol dros ben.

Byddai'r dirwyon yn y llysoedd yn drwm, ac o wrthod eu talu byddai'r canlyniadau'n gostus, er nad yn fwy costus nag ymladd etholiadau seneddol diamcan.

Ond dyma'r eira'n dechrau dod yn blu bach yma ac acw ac ymhen rhyw awr brasaodd a bu rhaid gadael tân braf a llyfr blasus a'r boliaid cinio'n pwyso'n drwm.

Mi fuo'n drwm arnoch chi'r tro yma, yn do?

Gwynn Jones, ac awdl a oedd hefyd yn drwm dan ddylanwad Gwynn Jones yn gyffredinol.

Oherwydd ei fod yn drwm ei glyw byddai'r mwyaf beiddgar yn ein plith yn manteisio ar y ffaith honno er mwyn difyrru ein cyfoedion mwy llywaeth - ond roedd yn hanfodol gwneud yn siwr eich bod yn eistedd yng nghefn y dosbarth cyn cymryd cam mor ddewr a herfeiddiol!

Eisteddodd Nain i lawr gan ochneidio'n drwm a dechrau beichio crio.

Ar ôl amddiffyn teitl pwysau uwch-ganol y WBO am yr wythfed gwaith nos Sadwrn, fe allai Joe Calzaghe fod ar drothwy'i ornest fwya erioed - gyda Roy Jones Junior, pencampwr byd y pwysau is-drwm.

Mi ddudodd hi y basa'n rhaid i ni gyd gymryd twrn ar ei chario hi - un bob ochr, am ei bod hi'n drwm, a Defi John a Jim fuo raid neud gynta.

Fel ei mam, Huana, yr oedd Gwenhwyfar yn dlws a llywethau'i gwallt du yn disgyn yn drwm dros ei hysgwyddau a'r ddau lygad fel dwy eirinen yn las tywyll uwch dwy foch goch.

Gwelodd fod un ddraig wedi cael ei rhwygo yn ei hanner ac anadlai'r llall yn drwm gan grafangu'r tir oedd dan bwll o waed poeth.

Fel arfer, mae ceidwaid ar ddrysau'r clybiau hyn a phris go drwm i'w dalu i fynd i mewn.

Roedd y posibiliadau o gael hyd i waith yn dylanwadu'n drwm ar batrwm traddodiadol oedran plant yn aros yn yr ysgol.

Cododd yr ysbryd fi a'm cario ymaith; ac yr oeddwn yn mynd yn gynhyrfus fy ysbryd, a llaw yr ARGLWYDD yn drwm arnaf.

Rhoes ei stamp yn drwm ar y cylchgrawn mewn dwy ffordd, trwy fynnu cyfraniadau cymharol fyr, bywiog, graenus (cywirai a chwtogai'n gall), a thrwy ddenu awduron ifainc i gyhoeddi ynddo.

Ond mae cadeiriau peiriannol hefyd yn drwm, yn anodd eu cludo, yn ddrud ac mae angen ail-gyflenwi'r batris yn gyson.

Dyma un o feirdd pwysicaf y dyfodol yn ymddangos ar y llwyfan eisteddfodol, ac yn llunio awdl ragorol a oedd yn drwm o dan ddylanwad athroniaeth Thomas Aquinas.

Yr oedd dylanwad y Bwrdd Presbyteraidd yn Llundain yn o drwm ar Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin, a phenodwyd saith o estroniaid yno o bryd i'w gilydd.

Awdl ar fesur 'Madog' T. Gwynn Jones, ac awdl a oedd hefyd yn drwm dan ddylanwad Gwynn Jones yn gyffredinol.

Amcangyfrifir mai'r diwydiant Technoleg Wybodaeth fydd defnyddiwr trymaf ynni erbyn troad y ganrif, gan oddiweddyd y diwydiannau traddodiadol drwm a gysylltir yn arferol â defnydd uchel ar ynni.

'Mae'r pwyse arnyn nhw yn y Cynghrair yn drwm oherwydd mae angen iddyn nhw ennill bron bob gêm os ydyn nhw'n moyn aros yn yr Ail Adran.

Gwyddom hefyd fod yn rhaid i eisteddfodau lleol bwyso yn drwm ar ffynnonellau cyhoeddus am gymorth ariannol i gynnal eu gwyliau blynyddol.

Yr oedd cysgod y rhyfel yn drwm arnom.

Ymysg yr enillwyr o Benmynydd oedd Dilwyn Owen a Dylan Jones am Baratoi Oen at gylch sioe; Arwel Jones a Medwyn Roberts am wneud crempog (a'i thaflu!!); Paul Parry ac Ann Williams am addurno drwm olew, Arwel Jones ac Aled Pennant am wneud cenel i gi, ac unwaith eto eleni, eu tim dawnsio gwerin.

Aeth yn syth at y drws a churodd yn drwm ar y paneli derw.

Credaf i hyn ddylanwadu'n drwm, efallai'n drymach na dim arall, ar y Blaid, ac ar Undeb Cymru Fydd ac i Gwynfor genhadu'n egni%ol dros fudiad ar yr un llinellau yng Nghymru.

Pwysai'n ddymunol o drwm.

Aeth pethau ar chwâl wrth i Stan yfed yn drwm ac i Sylvia gael affêr gyda Wayne Harries.

Eithriad yn ei waith yw'r darlun dyfrliw o Borth Padrig lle mae dylanwad arddull bosteraidd y dauddegau yn rhoi inni gynllun cryf sy'n drwm gan flas cyfnod.

Ar ben y cyfan, roedd hi wedi bwrw glaw man yn drwm a chyson gan ychwanegu at eu diflastod, a nawr roedd yr oediad hwn yn coroni'r cyfan.

Un o'i fuddugoliaethau mwyaf cofiadwy efallai oedd honno dros Willie Pastrano a ddaeth wedi hynny'n bencampwr pwysau go drwm y byd.

Mewn siop Smiths ddydd Sadwrn clywais un fam yn dweud wrth un arall fod ei phlant hi yn cwyno fod y Potter diweddaraf mor drwm ei fod yn eu blino nhw wrth ddarllen.

Roedd y cleddyf mor drwm nes bod raid iddo ddefnyddio'i holl nerth i'w ddal...

'Mae nifer helaeth o broblemau iechyd, yn amrywio o'r clefyd siwgwr i glefyd y galon, yn gysylltiedig â bod yn rhy drwm.

Drannoeth, wedi i'r perygl gilio, aeth yr hen ŵr am dro at y ffynnon unwaith eto, gan ddal i bwyso'n drwm ar ei bastwn.

'Nawr, nawr, paid â gadael i'r gwir dy boeni di.' Cododd Dilwyn un o'i ddyrnau ond disgynnodd llaw Ifan yn drwm ar ei fraich a'i rwystro.

roedd y car wedi gwneud hyn o 'r blaen fwy nag unwaith ac wedi ailgychwyn ar ôl sbel fach ac ychydig o droedio go drwm ar y sbardun.

Yr oedd felly'n perthyn i genhedlaeth a fagodd nifer fawr o ddynion a ddylanwadodd yn drwm ar feddwl, moesau a diwylliant Cymru.

Yr oedd deunydd da yn Phil, a dylanwadodd y nerthoedd hyn yn drwm arno er da a drwg.

Trodd amryw yn chwerw, a bu'r orfodaeth a osodwyd arnynt i fyw cyhyd ar wahân i'w teuluoedd yn faich gorthrymus rhy drwm i'w gario.