Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drych

drych

Ddim yn ddrwg, ddim yn ddrwg o gwbwl, ebe'r drych.

Fel yr oedd hi, bu ond y dim iddi fynd i gefn rhyw fws wrth weiddi ar ei meibion yn y drych yn hytrach nag edrych ar y ffordd.

Er enghraifft, torri drych.

Yn awr, agorwch y llenni a syllwch i mewn i'r drych eto.

Mae goleuni'n tasgu'n ol o'r drych ac yn mynd drwy'r gannwyll.

Fe'i hedmygodd ei hun yn y drych.

Mae'r drych cyntaf, yr un sy'n casglu'r goleuni, yn gallu bod ar waelod y telesgop ac felly'n haws ei gynnal o'r cefn.

Yn ogystal â'r caledi, fe ddangosodd ddirywiad y Gymraeg a'r troi at Saesneg - darlun-mewn-drych o waith John Owen heddiw.

Disgrifiad yr awdur o'r Drych yw 'chwip o lyfr hanes', a dengys gymaint oedd y llyfr wedi dylanwadu ar genedlaethau, yn wir am ganrif a hanner.

Ond nid oherwydd y bygythiad, yn gymaint ag oherwydd cyfoeth operatig y llais yr ufuddhaodd hi yn y bôn, a chyn agor y drws, trodd ei phen i roi cip arni ei hun yn y drych ar y silff ben tân.

Trwy hyn, mae'r nofel yn codi drych i wyneb y ddarllenwr.

Edrychais yn y drych i'r ochr chwith a gwelais Now yn cerdded ar y ffordd!

'Owain bach,' meddai hi wedyn, gan roi gwên fawr ffals ar ei mab hynaf yn y drych.

Ewch i ystafell dywyll a syllwch arnoch eich hun mewn drych.

Ac mi wyddai pawb fod drych myglyd yn adlewyrchu llun yn llawer mwy ffafriol; onid dyna oedd cyfrinach rhai o'r ffotograffyddion a'r sêr mwyaf enwog?

Pan oedd e'n barod i gychwyn, edrychodd arno ei hun yn y drych.

Amneidiodd y ddau ben bach yn y drych.

Yn groes i holl gynghorion y swyddogion lles a diogelwch ar y teledu roedd wedi gosod y drych yn fwriadol yn y man hwnnw fel bod pob cwmwl o fwg-taro yn melynu'r gwydr.

Methiant fu ei ymdrech i gael gwared â'r dagell o dan ei ên er ei fod yn dal i ymestyn gewynnau ei wddw yn y drych bob nos a bore.

Cyn iddo gyrraedd gartref roedd yr amheuon wedi cilio ac wrth fynd i'w wely'r noson honno edrychodd ar ei gorff yn y drych.

Yr hyn sy'n gyffredin ynddyn nhw yw mai byd swreal, yn ei hanfod, yn hytrach na drych o'r byd real, yw'r byd y mae'r awdur yn ei greu i ni.

Torri 'ngwallt i heb yngan gair, dim ond gwenu a chrechwenu'n y drych wrth ddefnyddio'r siswrn obeutu 'nghluste i, ac esgus holi'n ddifrifol pa liw oedd 'y ngwaed i; gwaed 'nigar' - fel tasa fe'n gweud 'gŵr bonheddig' neu 'Gymro' neu 'Sais'.

Dyna lyfr bach William Owen 'Sefnyn', Y Drych Bradwriaethol, sef Hanes Brad y Cyllyll Hirion.

Edrychodd Dilwyn arno'i hun yn y drych.

Yn y drych, gwelodd ddau wyneb bach yn syllu ar i fyny a'r dagrau'n prysur sychu ar eu bochau.

Roedden nhw wedi bod yn edrych arnyn nhw eu hunain mewn drych ystumio!

Yr un modd yr oedd Robert Jones, Rhos-lan, yn Drych yr Amseroedd yn barod ddigon i roi lle i'r Piwritaniaid ymhlith arloeswyr Methodistiaeth Gwynedd.

Gwnaeth y drych yn y gornel i'r ddau ohonyn nhw edrych fel doliau clwt.

Daeth y drych-ddelwedd i fod yn bwysicach na'r realaeth; y teyrn ar ddelw Duw a helaethodd fframwaith cymhleth y llys.