Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drychinebus

drychinebus

Bu'n rhaid iddynt ffoi oherwydd y sefyllfa drychinebus sy'n bodoli yn Zaire, lle'r oeddynt wedi cyflawni gwaith gwych am flynyddoedd.

Yr ail am y Gadair yn y gystadleuaeth drychinebus hon oedd J. Machreth Rees, sef Prifarddbuddugol y Gadair ym 1904.

Bydd y tîm dan 21 oed yn chwarae'n erbyn yr Wcrain y prynhawn yma, ac yn gobeithio rhoi terfyn ar eu record drychinebus o golli'n ddiweddar.

Ond cofiwn ferch o Bulgaria ddwy flynedd yn ôl yn canu'n ysgubol ar yr ail noson ac yn methu'n drychinebus ar y noson fawr.

Bydd Barnet, sy'n ugeinfed yn y drydedd adran, yn dod i Barc Ninian heno gan wybod bod eu record nhw oddi cartre yn drychinebus.

Ambell flwyddyn yr ydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael stoncar o goeden syn edrych fel pe byddai wedi gallu byw tan yr haf! Y llynedd, wedyn, yr oedd hi'n geoden drychinebus gyda nodwyddi yn cwympo ym mhob man.

Ond roedd ei arweinyddiaeth yn drychinebus o'r cychwyn cyntaf.

Gwaetha'r modd - iddo ef - roedd ei arweinyddiaeth yn drychinebus o'r dechrau.

Roedd Brentford yn drychinebus.

'Roedd yn sefyllfa drychinebus - gweld yr holl bobl 'ma'n cyrraedd a'r unig eiddo oedd ganddyn nhw oedd beth oedden nhw'n oedd beth oedden nhw'n medru ei gario.

Diau fod Saunders Lewis yn ystyried y ganrif ddiwethaf, a'i chymryd yn ei chrynswth, fel canrif drychinebus yn ein hanes (er nad yw'n condemnio pob unigolyn a phob mudiad, wrth gwrs).