Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dw+ad

dw+ad

"Ydach chi'n dwad yr un ffordd â mi?" gofynnais.

Ydy hithau'n dwad Ddolwyddelan?" "Ydy, yn ôl pob sôn." "A'r un mor barod i frwydro?" "Ia, ddyliwn." "Gwytnwch a rhuddin hil Rhodri ac Owain Gwynedd o Benychain ym mêr yr esgyrn." Yna sibrydodd Elystan o dan ei anadl rhag i'r ddeuddyn arall ei glywed, "Os byth y bydd angen Ysgrifydd arni i ysgrifennu drosti mewn llythrennau cain, fe ŵyr hi at bwy i droi.

blyb ac mi ddaw'r hen gath i lawr fel bwlet a heibio fi i'r tŷ.' Mae rhyw dueddiad ynof i anobeithio pan na fydd pethau yn dwad yn rhwydd, a daw Robin Tŷ Mawr i'm meddwl.

"Naddo," atebodd y ffarmwr yn araf, "ond pan fyddwch chi'n dwad y ffordd yma eto caewch y blwmin giat 'na ar ych ôl.

'Rydan ni wedi dwad i'r bae anghywir,' meddai'r capten, a hyder dyn a wyddai ei fod yn iawn fel mêl yn ei lais.

Am ddeg, gan dy fod di'n gorfod dwad bob cam o Lechfaen.' 'O'r gora, Mr Richards.

mi faswn i wedi rhoi rwbath am iddyn nhw gael dwad efo fi.

Dim ond rhyw ddyrnad o'r rhai o'r tu allan sy'n cael dwad, - ond mae 'na ddigon o berfformwyr i gynnal cyfarfod cyhoeddus.

NODIADAU DYN DWAD - 'Ryff-geid' Golwg i fro'r Steddfod

Cerddodd yn araf tuag ataf "Pam na fasech chi'n dwad i eistedd efo mi yn y sedd flaen?" "'Roedd yn well gen i fod o'r golwg.

Fel y gwyddost ti, mae 'na bapur arall yn y dre' 'ma, ond maen nhw wedi methu dwad â fo allan wsnos yma - pibell wedi byrstio yno a'r dwr wedi difetha'u papur nhw.

'Am hen sŵn annifyr peiriannau, ogla drwg yn dwad o'r ffatri, y blerwch .

"Samon ydi'n henw ni ar Roberts," meddai, "am ei fod o'n dwad o Nant Bach, lle da am samons." Roedd rhywbeth yn nhôn ei lais yn dweud wrthyf na theimlai'n garedig at yr athro, a soniais am y gurfa a gawsai'r bore hwnnw.

"Mi ddois i'n gynnar, a wyddwn i ddim yn iawn lle i fynd, ond 'roeddwn i wedi arfer dwad i fan 'ma at Gwyn Gallwn deimlo rhyw ias yn cerdded y ddau wrth i mi sôn am y marw.

Rhaid i chi dwad yma pob dydd am wsnoth.' A phenderfynodd fwrw iddi yn y fan a'r lle.

'Rwan 'ta, Owain, beth am ganu "Dacw Mam yn Dwad" i Guto i basio'r amser nes inni gyrraedd y caffi?' Roedden nhw wedi canu 'Dacw Mam yn Dwad' dair gwaith a 'Mi welais Jac-y-Do' ddwywaith pan welodd Carol yr arwydd oedd yn datgan fod y gwasanaethau nesaf ymhen deunaw milltir.

"Wel, dyna wynebgaled, yn dwad yma a ninne ddim yma, a chwalu popeth fel hyn.

Mae acw wydd, o oedran ansicr, wedi dwad acw o'r Fferam - Huw Huws wedi cael ei daro'n sydyn gan ffit o gariad brawdol, ac fel rhoddwr y wledd mae o'n un o'r gwahoddedigion.

Fe ddwedodd y bise fe'n dwad lan marc wyth o'r gloch ma i ni gal siarad mwy obiti'r peth.'

Finna'r adeg honno'n ddigon gwirion i goelio dy lol di, Morys, ac yn ddigon diniwed i gredu fod dagrau'r hen Ifan 'na'n dwad o grombil ei fol.

Gwelwch dystiolaeth o nerth y lefiathan wrth gerdded i fyny at geg y cwm, yn bonciau o gerrig, powlenni mawnoglyd rhyngddynt a marian terfynnol o gerrig dwad, graean a phridd o'r tu cefn i'r hwn y crewyd y llyn bas.

Ond doedd dim yn dwad ohono!

Mi fydda nhw mae'n debyg yn mynnu cael peth o'u ffordd eu hun - dwad a'r gitar yn lle'r organ, pethau fel hyn.

Bachgen dwad oeddwn i, a Bowen Bach oedd fy llysenw.

Mae fy nhad ar streic ac ychydig iawn o arian sy'n dwad i'r tŷ rwan.

'Pam wedd e'n dwad ar gered ffor hyn?'

''Os 'na'm dŵf yn dwad o'f tap.

Yr oedd yn byw yn Chapel Street yr adeg honno, ac fe gadwai "Bopty mawr" lle y byddai gwragedd Pentraeth yn dwad i grasu bara ac arferai llawer gael eu bara yn rheolaidd yno.

A wedyn dwad yn ôl i'r cnebrwng.' Yn ei ffordd ryfedd ei hunan, roedd y meddyg wedi cyhoeddi'r ddedfryd derfynol ar gyflwr Mam.

'Ond Dada -' 'Wel ma fe'n dwad ma heno, ta beth.

Ac hefo llinyn bôl y clymodd Ifor rhyw hen ddôr ar dalcan y sied, gan ddisgw'l y byddai%r saer coed yn dwad yn ei ôl i roi drws yno rhywbryd yn y dyfodol.

'Ond doedd o'n dda dwad?

Ond y ganolfan naturiol yn Aberdaron oedd yr Eglwys am ei bod hi mor hen ac yn adeilad sylweddol, a symudiad naturiol oedd i gau'r Capeli a dwad ynghyd yn yr Eglwys.

'Dydy'f fuwch byth wedi dwad a llo, Mr Huws' ychwanegodd Malcym yn sylwgar.

Dyma fo'n dwad eto.

Mae yntau'n fan hyn yn crio isio cael dwad i'r tŷ.

dim ond iddo fo gael dwad i'r tŷ, dim ond am dipyn bach ...

Ne' beidio â lluchio cerrig o gwbl.' 'Wedi dwad â'r hwch at y bae 'rydw i, Miss Willias.' 'Be, ganol nos?' 'Roedd hi 'di mynd yn llwydnos pan sylweddolis i 'i bod hi'n dechra' anesmwytho.' ''Wela' i.

"Dwad i mi," ebr efô yn codi ei ben yn sydyn.

"Biti 'na fasa chi wedi dwad ymlaen i gyfarfod Deilwen," sibrydai Menna, 'Does dim byd yn ffroenuchel ynddi, a mae hi'n meddwl y byd o gael actio yma." "Beth am Lewis Olifer?

Na chewch chewch chi ddim dwad i'r tŷ ar ôl ichi dynnu'r lle ma'n gareiau y tro dwytha.

Fydd arthreitus ddim yn medru cadw pobl ddieithr allan wedyn ac mae yna dwnel newydd ac ati er mwyn i'r Romans fedru dwad yn eu holau reit handi.

'Hy, dwi'n ei gofio fo'n dwad yma i chwilota am waith ar ôl crafu drwy'i din i ennill gradd yn Aber.

"Mae o'n tynnu pobol, beth bynnag," meddwn "Gobeithio y dôn nhw i weld y perfformiad." "O, mi fydd 'na rai yn bodloni ar ei weld o'n mynd a dwad, 'run fath a'r tywysog yng Ngholeg Aberystwyth." Mae 'ma gar yn troi i mewn i lôn yr ysgol; ia, fo ydi o, mae'r gofalwr yn agor y giât." Yr oedd y cynnwrf yn dechrau cydio ynof finnau.

ond er gwaetha'r adnoddau 'roedd y ferfa yn dwad i siâp.

Mae'n dda gen i ych bod chi wedi dwad.

"Ti'n sylweddoli dwad, gwaith cofio sy' 'na, camras, goleuada, meicraffons, a chei di ddim deud dy lein yn rhywla, rhywla sdi, rhaid i chdi ddeud dy linellau yn yr un lle bob tro, neu mi fydd y cyfarwyddwr.