Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwbwl

dwbwl

Er bod Manchester United wedi methu ennill y dwbwl eleni, mae un o aelod o'r tîm wedi llwyddo i sicrhau dwbwl.

Diddorol oedd darllen mair anrheg priodas i Madonna a Guy Ritchie gan y Parchedig Susan Brown, syn eu priodi yr wythnos hon, yw pecyn papur ty bach dwbwl.

Felly, mae yma ddathlu dwbwl.

Ddim yn unig hynny: 'ryn ni'n rhannu'r un gwely dwbwl hefyd.' 'Cadwn ni'r ffenestr yn agored.' 'Sut?' 'Paid â hidio am y peth.

Erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf o garafanau yn dod gyda ffenestri dwbwl, ac os nad oes gwresogydd ynddi, mater bach a chymharol rad yw cael gosod cyfarpar felly.

Paratoi amserlen o ddyddiadau cyhoeddi hyd at ddiwedd 1996 i sicrhau deg rhifyn y flwyddyn (dau ohonynt yn rifynnau dwbwl). Er ein bod ychydig ar ei hôl hi, byddwn wedi dal i fyny erbyn cyhoeddi'r rhifyn nesaf.

A sicrhau'r dwbwl ar ôl curo Abertawe 1 - 0 ar y Cae Râs 'nôl ym mis Hydref.

Wrth i ni danysgrifio i'r is-normal a derbyn safonau dwbwl, wrth i ni ddweud celwydd a thwyllo'n agored, wrth i ni amddiffyn anghyfiawnder a gormes, yr ydym yn gwagio ein hysgolion, difrïo ein hysbytai, llenwi ein boliau â newyn a dewis cael ein gwneud yn gaethweision i rai sy'n arddel safonau uwch, sy'n geiswyr y gwirionedd, sy'n anrhydeddu cyfiawnder, rhyddid a gwaith caled.

Bu farw George Armstrong - un o sêr tîm Arsenal a enillodd y dwbwl yn 1971.

Oherwydd ei bod wedi mynd heibio i'r wâl am oddeutu ugain llath cyn dod yn ei hôl drachefn ar yr un trywydd, y mae wedi gadael dwbwl ei thrywydd arferol ar y darn hwnnw o dir a bydd y gelyn yn cael ei gamarwain i dybio ei fod ar ei gwarthaf ac ar fin ei goddiweddyd.

Nid oedd cymaint â hynny o enwau glowyr yno, nid oedd neb o deulu Nant y Gro, dim un o deulu'r Culheol ac Oakvilla a Thre'r Gât, ond roedd yna enwau dwbwl baril, enwau gyda Syr ac Arglwydd o'u blaen ac ni chollodd yr un o weision y Powell-Dyffryn, a'r Amalgamated Anthracite gyfle i fod yn aelod o'r Byrddau rheoli.