Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwfn

dwfn

'Ty Ddewi,' "Mae eigion golygon glas/ Ac o'u mewn y gymwynas" a 'Gwanwyn', "Chwychwi sydd a'r llygaid dwfn, a'u gwib trwy'r golau i rin eich gilydd").

Yr oedd y cwbl yma'n creu ofn a chasineb dwfn ac yr oedd Penri druan cyn bo hir i gael blas y ffisyg chwerw hwn a ddistyllodd Whitgift i buro'r Eglwys o'r gwenwyn Piwritanaidd.

Mewn telyneg megis 'Cysgodion yr Hwyr' y mae yntau, yng nghanol erchyllterau rhyfel, yn mynegi ei hiraeth dwfn am heddwch a thangnefedd, a gwynfyd natur ardal ei faboed.

Yna, ymhen rhyw ugain llath, lledodd y sianel yn ddwr llonydd, dwfn o flaen ceg yr ogof.

Clywodd nhw'n dechrau gweiddi mewn lleisiau cras a dwfn a stampio'u traed ar lawr.

Nodweddid ef trwy gydol ei oes gan ymdeimlad dwfn a deallus tuag at iaith a llên Cymru.

Roedd y cynefindra'n deillio o ddylanwad dwfn cenhadaeth Presbyteriaid Cymru ar bobol y tir hwn yn y ganrif ddwetha a hanner cynta'r ganrif hon.

Mae siarad ag Eryl Ellis am eiwaith yn sicr yn cynnig cipolwg ar fyd artistig, deallusol cynhyrchu theatr; cawn yr argraff ei fod ar fin ehangu ar y theori%au dwfn, abstract, a syniadau a iaith gymhleth, aruchel yr athronwyr celfyddydol.

Fu+m i ddim allan i'r dwfn." "Beth petai'r cramp wedi cydio'n eich cymalau chi?" "Dydw i erioed wedi dioddef o'r cramp." "Mae tro cynta i bawb.

Ar un wedd y mae hon yn rhoi camargraff inni, am ei bod yn llawer mwy personol na chrynswth gwaith y clerwr, ond eto i gyd y mae'n gwbl nodweddiadol o'i waith o ran ei hanfod, am fod tynerwch dynol o fewn y teulu yn wedd ar fywyd a bwysleisir yn arbennig yn ei gerddi mawl, ac am fod ei arddull seml ar ei mwyaf effeithiol yma yn cyfleu argraff o deimlad dwfn a diffuant.

Arswydus yw'r darlun ym mhaladr yr ail englyn, a'r ansoddair 'ddi-derfysg' yn arbennig o nerthol pan gofir mai terfysg a fwriodd y llanciau i'r dwfn.

Ymlaciodd hithau yn ei erbyn, a theimlo'i haelodau'n ymollwng fesul un wrth i'w anadlu dwfn arafu, a throi'n chwyrnu rheolaidd isel.

hoelient eu llygaid ar gorff eiddil ffred ac ar ruthr cynddeiriog yr afon lle suddai pen pellaf y gangen, dim ond hyd braich oddi wrth long ffred, i drobwll dwfn.

Ond bu rhai eraill o'i gyfoeswyr yn dangos diddordeb dwfn yn y gorffennol - boed hwn yn orffennol chwedlonol a rhamantaidd fel yr un yr ymhyfrydai T Gwynn Jones ynddo, neu yn orffennol hanesyddol, gwareiddiedig ac aristocrataidd fel eiddo Saunders Lewis, neu yn orffennol Cristnogol fel yr un a ymddengys yng ngwaith Gwenallt.

Dewiswyd safle mewn dwr dwfn (Swnt Blasket, Iwerddon) gan y byddai hyn yn lleihau effeithiau cerrynt ac ymyrraeth gan rai'n chwilio am ddarnau i'w cadw.

Yn union i'r gorllewin o Langefni, llifa'r afon am filltir neu ddwy drwy lwybr dwfn a throellog.

Yr oedd y ffaith mai yng Nghaernarfon y gweithiai ei hysgrifennydd a'i phrif drefnydd yn adlewyrchu dechreuadau'r Blaid fel mudiad yn y dref a'r fro honno a'r gwreiddiau dwfn a oedd ganddi yng Ngwynedd.

Roedd yr afon yn rhuthro'n wyllt dros y cerrig ac yna'n arafu a throi mewn pwll dwfn.

Deffrodd yr ymgyrch deimladau dwfn trwy Gymru oll, lawn cymaint yn yr ardaloedd diwydiannol ag yn y Gymru wledig.

Chwiliwn am y llecynnau tawel a gweddigar i adeiladu llong bywyd, ac yna fentro i'r dwfn.

Mae ynof ragwybod dwfn hefyd na bydd dy dad yn hir eto.

Fe winciech ar y llygad dwfn tawel yn eich ymyl gan feddwl, 'Lawr ag ef 'nghariad.

Meddai Branwen Niclas, 'Mewn man o arwyddocad hanesyddol dwfn, byddwn yn cyflwyno ein gofynion i gynrychiolydd y Cynulliad Cenedlaethol.

Fe arferid edrych arni fel cyfrwng diddanwch munud awr yn unig, ond gan fod teledu'n cynnig y diddanwch hwnnw bellachd wedi mynd heibio er pan enillo, gall y nofel fentro plymio i'r dwfn a dehongli pethau yn ogystal ag adrodd stori.

Yr oedd yna rai â'u teyrngarwch i'r mudiad mor ddwys a dwfn fel na fedrent hystyried y mater yn oeraidd, ac yn wyneb digwyddiad fel Tryweryn, yr oedd yna wanobaith llwyr, ac angen emosiynol clir am drobwynt dramatig.

Gwelais bob gwedd a lliw ar y Foel Famau a'i thŵr, am rai blynyddoedd ar ol hyn: clywais ambell hwyrnos sŵn dwfn mud o'r tu cefn iddo, y dywedid mai atsain ydoedd o ddrycin pell ar y Werydd.

Fodd bynnag, mae'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg a'n cymunedau ar drothwy'r Mileniwm nesaf yn un dwfn yn sgil gostyngiad parhaus yng nghanran siaradwyr Cymraeg ein cymunedau.

Nid y gweddau ymarferol 'cymwysedig' i'r materion hyn ond yr un ddamcaniaethol 'bur', a'r hyn a gofiaf hyd heddiw yw maint ei wybodaeth a'i ddiddordeb dwfn iawn yn hyn i gyd.

Y naill oedd bod y golomen yn mynegi'n ddiriaethol ddyhead dwfn a fuasai yn fy enaid am amser maith i helpu gwaith y Weinidogaeth Iacha/ u yng Nghymru.

Gwelem Mekong o'r awyren fel llinell arian yn llifo drwy'r wlad; mewn rhai mannau mae'n dair milltir o led ac yn ddigon dwfn i longau o'r môr mawr i hwylio i fyny cyn belled â Phnom-Pen .

Nid yw hi'n bwysig gwybod pa ferch yn union a roes fod i 'Dwy Gerdd', ond mae'n amlwg iddi gyffroi ymateb dwfn yn y bardd, canys ei ffordd ef o ymgysuro rhag atgno yw deunydd y cerddi.

Clywais i fy hun, fwy nag unwaith, bobl yn cyfeirio ato fel 'y dewin Sam Jones.' Ys gwn i a oes arnom ni'r Cymry ryw angen seicolegol dwfn am fod o'r fath yn ein plith.

Roedd catharsis y noson flaenorol wedi gadael ei ôl, fodd bynnag; cleisiau glasddu a chlwyfau dwfn ar ei ddyrnau a'i goesau, ond eisoes roedd ei system fetabolig gyflym yn gweithio'n ddiwyd i ddileu'r rhain.

'E gyfyd hen atgofion T amlhall dwfn friwiau'r fron

Dyma destun yr ydym yn edrych yn ôl dros ugain mlynedd ato, a hynny gyda gorfoledd yn ein henaid, a hiraeth dwfn am weld eto yn fuan gyffelyb amser i hwnnw.

Mae'r portread yn gwneud tegwch, fel y dylai, ag arbenigrwydd ei waith fel pregethwr a gweinidog ac fe'i gwna'n amlwg iawn ein bod yn delio â dyn o dduwioldeb dwfn a didwyll.

Er yn Roegwr o'r Groegwyr ei hunan, y mae'n mynegi yn ei gerddi ddyhead dwfn am weld heddwch rhwng gwlad a gwlad a brawdgarwch rhwng dyn a dyn.