"Mae Sinai yn feichiog eto yn ôl pob sôn," a daliodd ei law allan i dderbyn ei gil-dwrn.
Wedi llwyddo i gyrraedd man dewisol rhoddodd un morgrugyn bigiad da i ddathlu ei fuddugoliaeth a dyna'r eiliad y gollyngodd Odo lond dwrn o dai yn strim-stram-strellach ar hyd y rhos.
Wedi clywed hanesion gan gyfeillion yn Amman, fe aeth llond dwrn ohonom at y ffin honno rhwng Gwlad Iorddonen fel y mae - ar y lan orllewinol a gipiwyd oddi arni gan Israel.
Roedd nifer o'i noddwyr yn aros amdani ar waelod y twr gyda'u hanadl yn eu dwrn ond mi gyrhaeddodd y curad dewr yn ddiogel ar y llawr wedi codi swm sylweddol o arian.
Gafaelodd yn benderfynol yn y dwrn pres, a'i droi.
Mewn gwirionedd, fe wnâi'r dalwr waith dau ddyn, oblegid nid yn unig yr oedd yn trin y platiau yr ochr arall i'r rowls, ond yr oedd yn rhaid iddo hefyd iro gyddfau'r rowls, a hynny'n gyson trwy gydol ei dwrn gwaith.
Hefo coed a llwyni mewn oed, gellir taenu llond dwrn o swlffad potas o gwmpas pob bonyn tua thair wythnos cyn y mwls.
Agorodd y bocs bron yn ddefodol, ac arllwys y ddau ddarn arian i mewn i'w dwrn chwith.
Gwrthodant gyfrannu tuag ati neu gyfrnnu cil-dwrn tuag ati oblegid mai sefydliad Cymraeg yw hi.
Llond dwrn yn unig a welai Gymru yn erbyn cefndir o athroniaeth Gristnogol am ddyn a chymdeithas.
Cofiaf ei lais yn fy rhegi o'r twllwch am hydoedd hyd nes i mi gael llond bol a chodi yn fy ngwylltineb allan o'm gwely a chroesi llawr pren y babell a lluchio dwrn dirybudd i'w ddannedd i'w ddistewi.
Cafwyd Stephens yn euog o achosi niwed corfforol i Bebb, ar ôl iddo daflu dwrn mewn gêm rhwng Cross Keys a Phenybont.
Cyrhaeddwyd y lan yn hwylus ac fe gludiwyd y casgenni'n llafurus trwy'r wîg hyd nes y daeth pentref di-nod - rhyw lond dwrn o hofeldai ac eglwys i'r golwg.
Dyma sut y deuem i wybod beth sydd yn creu dwrn ac yn agor pob llaw.
Yn eu barn dylsai fod wedi derbyn carden goch neu felen am daflu dwrn.
Yn fuan wedyn cafodd Dik Siw y contract i adeiladu Canolfan Chwaraeon helaeth ar bwys y stesion Dan, a chil-dwrn go dda i Ynot am dynnu llinynnau.