Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwyt

dwyt

Dwyt ti ddim yn deilwng i lyfu'i sgidie hi,' atebodd Dilwyn.

Mi fuo am gyfnod cyn priodi â gwraig weddw ydi hi ar hyn o bryd, a 'dwyt ti'n synnu dim at hynny wedi byw o dan yr un gronglwyd â hi am wsnos - cyn priodi mi fuo'n gwasanaethu hefo rhyw nob a'i wraig - Syr Simon a Ledi Gysta chwedl hitha, ac mae'r rheini wedi troi yn 'i phen byth wedyn.

'A beth bynnag, mae 'na lawer o bethau dwyt ti ddim yn eu gwybod; deffra wnei di!' 'Da 'te,' meddai Robat John.

Ond dyw pobl yr oes hon ddim yn gweld hynny.' 'Dwyt ti erioed wedi dygymod â'r bywyd syml, Jonathan?

"Dwyt ti ddim ffit, rhaid iti gael o leiaf wythnos arall cyn y byddi di'n ddigon da i fynd i'r ysgol." "Nid dyna oeddwn i'n feddwl Mam," atebodd Alun yn dawel.

'Dwyt ti ddim wedi gwisgo dy sgarff a d'anorac,' dwrdiodd Mam, 'Dere, brysia, neu fydd hi ddim gwerth i chi fynd.'

Dwyt ti ddim yn cofio Dad yn ei ddangos i Mam ac yn dweud mai i'r fan honno, lle'r oedd y polîs yn chwilio amdano, yr oedden ni yn dod ar ein gwyliau?'

Dwyt ti ddim mewn safle da i fargeinio â ni.

Rhoi rhyw gyngerdd bach i ddau filwr sy'n unig ac ymhell o'u cartref." Ond cyn ­ Jean Marcel gael cyfle i brotestio, ychwanegodd yn sydyn, "Rwyt ti am i ni gael y bwyd yna sydd wedi ei ddwyn oddi arnon ni'n ôl yn dwyt?"

'O, rwyt ti'n anobeithiol, yn dwyt.

Dwyt ti ddim am awgrymu mai dim ond sioe ddramatig oedd yr holl beth er mwyn tynnu sylw ati hi ei hun, er mwyn gwneud i ni deimlo euogrwydd?

Dwyt ti ddim yn deall.

'Dwyt ti ddim eisio gwneud dim yn ddiweddar.'

Dwyt ti ddim eisiau ymosod arna i, mae'n amlwg," meddai Douglas wrtho.

Yn yr oed yna dwyt ti ddim yn gallu dadansoddi rhyw lawer arnat ti dy hun, jest bod.

Dwyt ti ddim wedi sôn dim yn ddiweddar .

Ga' i 'i adael o yma, ar y silff 'ma, tan ddydd Llun?' 'Dwyt ti ddim isio'r gyfrol ysbrydoledig?' 'Wel ...

'Dwyt ti ddim ymhell ohoni,' meddai, 'ond fe ddarllena' i un arall i ti nawr.'

'Rwyt ti ar ryw berwyl neu'i gilydd yn dwyt?'

'Gwranda! Dwyt ti ddim yn deall. Rydan ni mewn perygl, perygl gwirioneddol."

A tasat ti'n mudo i le fel Bangor, dywad, dwyt ti'n nabod neb bron yn fan'no.

'Dwyt ti'n eneth lwcus.

Mae hi fel trampolîn.' `Wyt ti'n meddwl y cawn ni afael ar drysor yma?' `Cellwair yr wyt ti wrth gwrs.' `Wel - dwyt ti byth yn gwybod - edrych ar y wardrob draw fan na - pwy a yr beth sydd ynddo.' `Yr unig ffordd i ddarganfod hynny yw mynd i edrych!' Gan waeddu a bloeddio neidiodd y giang dros y gwahanol rwystrau i'r fan lle safai hen wardrob yng nghanol pentwr o ddodrefn diraen fel llong ofod a adawyd ar ôl.

Dwyt ti ddim yn gweld, cariad, dyna pam mae'n rhaid i ni drafod y peth yn synhwyrol cyn iddo allu'n gwenwyno ni am byth.

Rhyddhaodd Alun ei hun o freichiau Nia ac meddai wrthi: "Tyrd, mi awn ni i ofyn i dy dad gei di fenthyg y car i fynd â mi i Berth y Felin." "I beth?" "I ddweud wrth Jenkins y twrne nad ydw i am werthu'r fferm." "Dwyt ti ddim ffit i fynd allan a tithau newydd godi o dy wely," meddai ei fam .

Dwyt ti ddim yn cofio'r noson honno yng Nghasnewydd?'