Aeth hi ag ef i'r gegin a gellir dychmygu syndod y gŵr parchus, ac yn wir ei sioc, pan ddangosodd y wraig iddo y gwydr deuben a ddefnyddir i amseru berwi wy - ond un mwy lawer na hynny - yn llawn o lwch llwyd.
Morgais i brynu tū yw'r enghraifft amlycaf yn hanes y rhan fwyaf ohonom, ond hawdd medru dychmygu fod sawl un wedi benthyca arian i brynu car, talu am wyliau neu anfon plant i'r coleg.
Ond anodd dychmygu Rhodri Morgan, Tony Blair neu William Hague yn troi at y dull hwn o ennill pleidleisiau.
Anodd iawn yw dychmygu Schneider mewn dinas heblaw Berlin i ddweud y gwir.
Gadael y traeth yn sydyn am fy mod yn dychmygu bod tonnau'r môr yn adleisio galargan i'r sawl sydd dan faich, ond hwyrach mai o Iwerddon y dôi'r dagrau, am fod y wlad anobeithiol honno mor agos i'r traeth yma.
'A phan gyrhaeddodd Meiledi'r porthladd roedd y newydd, newydd gyrradd, bod 'i gorff o wedi'i gladdu yn yr eigion.' ''Fedra i ond dychmygu maint 'i siom hi, a chydymdeimlo i'r byw.' ''Does dim raid i ti fyta bara gofidia yr un eiliad yn 'chwanag.
A phroblem i mi yw dychmygu pa fodd y gallant ysgwario eu cred a hanes y byd; ac am hynny hefyd yr ydwyf yn credu bod pob ymgais i addysgu'r bobl yn gam pwysig ar y briffordd sy'n arwain at iechydwriaeth yr hil ddynol.
Bid siŵr, buasai'r cyfryw briodoleddau yn fwy trychinebus i ferch efallai, medden nhw; ond hyd yn oed yn achos gwryw, nid ellid dychmygu ei fod ef yn debyg o ennill serch naturiol yr un gymhares addawol.
Fel mam fy hun, fe allwn o leia', geisio dychmygu hynny.
Mi allwch chi ddychmygu rhai pethau, meddai'r archaeolegydd, ond allwch chi ddim dychmygu eu ffordd o feddwl.
'Mae'n anodd dychmygu y gallen nhw fod wedi mynd ymhellach nag a deithion ni heddiw, Syr - ddim mewn cyn lleied o amser.
A ellir dychmygu Crist, a wisgodd y teitl gwleidyddol 'Brenin yr Iddewon', yn ymagweddu fel hyn tuag at yr Ymerodraeth Rufeinig?
Anodd i ni erbyn heddiw ydyw dychmygu'r lle a gymerai'r Saint ym mywyd y bobl.
Ac ni allaf ond dychmygu beth fyddai wedi digwydd petai wedi dod.
Pwy fasa wedi dychmygu ar ddechrau'r tymor y byddai Lerpwl wedi ennill tri chwpan.
Fyddai neb wedi dychmygu'r gallu a'r grym a'r perygl oedd y tu ol i'r sgrin a'r tu mewn i'r bocs pren caboledig, melfedaidd.
Meddyliais bod Bholu wedi cychwyn colli arni - fedrwn i ddim ond dychmygu sut fuasai hi petawn i'n trio gwneud hynny yn Heathrow.
Roedd hi'n anodd dychmygu'r hen wraig honno a edrychai mor Gymreig a thraddodiadol â hen fenyw fach Cydweli, gyda'r siôl frethyn coch, a'r sgert frasddu, yr hen wraig â'i gwar esgyrnog yn grwm wrth iddi blygu'n dawel dros ei thro%ell, a'i phen yn frith dan y cap gwau, anodd oedd dychmygu honno'n deisyfu dyn!
Ni all rhywun ond dychmygu yr ymateb pe byddair cwmni wedi ceisio bod mor glyfar gyda chrefydd Islam.
Arswydus o beth fyddai dychmygu'r gath hon yn cwrso ac yn poenydio Anti Meg cyn, yn y diwedd, ei lladd a'i bwyta.
Roeddwn wedi dychmygu ei amgylchfyd yn wahanol.
Roeddwn wedi disgwyl gweld graddfa fawr o dlodi, ac mae Delhi, mae'n debyg, yn well na sawl lle, ond prin fy mod erioed wedi dychmygu fod unrhyw wlad mor ddychrynllyd lawn.
Yn anffodus, nid wyf yn cofio cael y profiad o weld seren wib ond byddwn yn dychmygu, er mor fyrhoedlog y profiad, y byddai'n gadael ei ôl arnaf.
Go brin y byddwn i wedi dychmygu flwyddyn yn ôl wrth i Olygydd Y Tafod alw fy ngholofn i yn 'Gair o'r Gofod' ar gorn fy llys enw, Rocet, y byddai'r gair o'r gofod yn datblygu i fod yn Air o'r Seibr Ofod.
'Twt lol, Modryb,' meddai he fel pe bai hi'n siarad efo Huw pan oedd o'n dychmygu pethau, 'dim ond sŵn y gwynt.' Trodd ei modryb a'i llywio'n ôl i gyfeiriad ei stafell wely gerfydd ei hysgwyddau.
ond yn ddiweddar daethpwyd o hyd i'w sylfeini a hawdd inni heddiw yw dychmygu pwysigrwydd yr adeiladau hyn.
Mae'n anodd dychmygu Bob Tai'r Felin yn canu Alelwia Ha-Haleliwia oedd hi bob amser iddo ef!
Roedd hi'n hawdd dychmygu mai fel hyn yr oedd dathliadau'r Sofietiaid; mae arferion yn treiddio'n ddwfn.
Anodd i ni heddiw werthfawrogi yn llawn y fath fraint a gwefr ond gallwn ddychmygu - a dychmygu hefyd, o ddarllen y gyfrol hon, effaith hynny ar John Davies a'i debyg.
Ond arswyd y byd = heddiw bu'n rhaid iddo fynd nôl i edrych yr eilwaith i ofalu nad oedd yn dychmygu pethau.
Ond hwyrach mai dychmygu mae Enoc." "Wel, mi gawn weld, toc.
Pan welwn nhw felly'n ymfyddino, a Thalfan yn agosa/ u fel rhyw Urien Rheged i'm cyfarch a'm herio â chawod o regfeydd, hiraethwn am ddihangfa, a dychmygu fy hun yn neidio ar un o'r beiciau a phedlo nerth fy nghoesau nes cyrraedd diogelwch tangnefeddus y dref, y traeth neu'r foryd.
Gallai ei dychmygu'n awr, yn gorwedd yn ddu ar ochr y mynydd yn y fan acw, a niwl fel cap llwyd am ei phen, fel rhyw hen wrach yn gwneud hwyl am ei ben, ac yntau;'n ymbalfalu tuag ati ar foreau tywyll fel hyn, a dim gwaith i ddechrau arno yn oerni'r bore; dim ond mynd o gwmpas a'i ddwylo yn ei boced i fegera.
A fedrech chi ddim dychmygu wyllys odiach.
Mae'n amhosib dychmygu noson olaf heb y ferch hon.
Maen nhw'n dychmygu eu bod nhw'n fleiddiaid neu'n anifeiliaid gwylltion eraill.
Trio dychmygu fel yr oedd hi i fyw yno, i wni%o dillad, i baratoi bwyd.
'Roedd hi'n anodd dychmygu fod y byd arall 'ma, yn hollol wahanol i'n byd ni, mor agos.
Ond os na fydd hynny'n gweithio chwaith, yna fydd gen i ddim dewis ond eistedd yma wrth y bwrdd efo'r sgript o'm mlaen i a thrio ei wneud o felly.' Ac mae'n anodd dychmygu unrhyw artist yn methu â chael ysbrydoliaeth yng nghegin glyd y bwthyn Hans Christian Andersen-aidd hwn, gyda'r gath yn canu grwndi'n ddedwydd ar y silff ffenestr.
Wnaeth o ddim dychmygu am eiliad mai cael hwyl am ei ben yr oedd Bilo a'i fêts.