Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dydi

dydi

Mae'n teimlo ei fod yn dueddiad cyffredinol ym maes gwyddoniaeth: "Dydi'r diwylliant Cymraeg ddim yn ymwybodol o wyddoniaeth rhywsut.

Dydi hi ddim yn anodd rhoi gwedd mor ddi-chwaeth â hon ar waith gohebydd mewn newyn.

"Sut mae Owen?" "Reid dda; mi ges lythyr y bore yma, yn licio i le'n iawn." "Da iawn bod rhywun yn hapus." "Ond cofiwch, 'dydi i gyflog yntau ddim hanner digon, a chysidro'r gost sy wedi bod efo fo." "Nag ydi, mae'n siŵr." "Mae o'n talu chweugian yn yr wsnos am lodging ac yn prynu i fwyd i hun." "Gwared y gwirion!" "Ydi, a mae'r criadur bach yn tri%o anfon rhyw 'chydig adre bob mis." "Chwarae teg iddo fo.

Mi fyddai'n eli i galon unrhyw ddarpar unben.' 'Ond 'dydi o ddim yn stwff i'w ganfasio.

"Dydi adeiladau gwaith yn aml ddim yn addas o gwbwl ar gyfer yr anabl, yn arbennig os ydach chi mewn cadair olwyn," meddai.

Fel y dywedodd un o'r cyd-drefnwyr rhanbarthol, 'Dydi'r crash course diets 'ma'n gwneud dim lles i neb.

A dydi'r ffaith mai Dafydd Wigley neu Ron Davies fyddai'n bennaeth ar y Quangos hynny ddim yn gwarantu y byddai'n ateb y broblem.

Dywed Undeb Rygbi Cymru nad oes dim a all ef ei wneud yn y mater - a dydi hynnyn synnu neb - a phenderfynodd clwb Chris Stephens, Penybont, mai dim ond dirwy yr oedd yn ei haeddu - nid gwaharddiad.

Dydi rhywun ddim isio codi cnecs yn barhaus ar yr aelwyd; rhwbath am heddwch ydi hi fel rheol, yntê?

'Dydi byd gwan ar griadur tlawd ddim yn ddigon..." "Nag ydi.

Dydi'r wal ddim chwaith.

DYDI'R glowr o Gymro ddim wedi cael chwarae teg yn eIn llenyddiaeth.

Dydi ras i ffilmio'r lluniau mwya' trawiadol o ysglyfaeth ddiniwed newyn ddim yn ras braf i'w gwylio.

Dydi carn fy nghoes ('calliper') ddim wedi ffitio'n iawn ers pymtheng mlynedd.

'dydi o ddim tamaid o wahaniaeth genny am y Sofiet.

Rhywsut, dydi eu llwyddiant nhw ddim yn gwneud i mi deimlo'n gyfforddus iawn.

Dydi trafod pam y mae eich tad wedi cysgu efo cariad eich chwaer neu eich mam wedi rhedeg i ffwrdd efo cariad gwraig y dyn drws nesaf yn cyfrannu yr un iod at ansawdd bywyd neb nac yn help o gwbwl i leddfu arteithiau gwirioneddol ymwneud personol rhai pobl ai gilydd.

"Dydi cychwyn yn gyflym yn dda i ddim os ydi hynny'n golygu dy fod ti'n chwythu dy blwc." "Go dda, 'merch i," meddai'r hen ŵr.

Yna'r gŵr yn rhoi ei ben heibio i'r drws, ac yn galw i'r tŷ, "Na, 'dydi hi ddim yn bwrw, 'd â i ddim â sach heddiw." Yna'n taflu hen gôt dros ei war a'i chau â phin sach ac yn troi'r bin at ei ysgwydd.

Y chi oedd hwnnw Mr Jenkins." "Ond dydi hynny'n profi dim.

mi wn i am driciau Medrawd yn iawn, ond dydi o ddim wedi ennill eto.

Fodd bynnag, er y byddai'r wybodaeth yma yn eich helpu i ddeall yr holl opsiynau sydd ar gael, dydi o ddim yn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus rhyngddyn nhw.

Dydi'r fferm ddim ar werth, ewch â'r neges yna i'ch cyfeillion, Mr Jenkins.

* Dydi papurau newydd, cylchgronau, cyfarwyddiaduron ffon a llyfrau cyfeirio ddim bob amser ar gael yn hwylus ar dap neu mewn braille neu brint mawr.

Dydi hi ddim wedi mynd i'r pen eto.

Dydi fy chwaer yng nghyfraith ddim yn credu mewn rhoi siwgwr mewn teisan, ac mi wyddost, neu mi fedri ddychmygu, be' ydi teisan gwsberis hefo dyrnaid o halen ynddi hi yn lle siwgwr.

Felly dydi hi ddim yn syndod o gwbwl fod y mwafrif o'r baeddod yn byw ar ynys Morko oherwydd y ffaith syml fod yma goedwigoedd yn llawn o goed derw sy'n rhoi digonedd o fes i'r baeddod, ond hefyd fod yr arfordir yn lle da i'r anifeiliaid hyn ddod o hyd i bryd o fwyd ymysg yr hesg yno a hefyd wrth ddwyn wyau adar gwylltion sy'n nythu yn llu wrth ochr y mor.

Dydi Dei Bach ddim yn rhy hoff o agwedd Rhodri at wleidyddiaeth.

Ond 'rhoswch: dydi ergyd y ddau ar y graig ddim wedi mynd felly rhaid oedi am amser.

Dydi hyn ar ei ben ei hun ddim yn golygu y gall y person ymuno'n llawn mewn bywyd cymdeithasol, ond gall leihau dibyniaeth ar gymorth personol, a gall hynny yn ei dro arwain at gynnydd mewn rheolaeth.

Ar ben hynny, dydi bws arferol y côr gyda'i thy bach a'i pheiriant coffi ddim ar gael.

"Dydi hynna ddim yn deg p'run bynnag, ychwanegodd, 'mae'r hen Watcyn a minna'n dallt ein gilydd yn bur dda.

Dydi'r ffaith fod gweithiwr gofal ddim yn gyfoed ddim yn golygu nad oes ganddi ran i'w chwarae yn natblygiad defnyddiwr y gwasanaeth o'i hunan-ymwybyddiaeth a'i werthoedd personol.

'Dydi gwraig pob diffynnydd ddim yn 'i gefnogi bob cam o'r ffordd, wyddoch chi.

Er y gall technoleg fod yn werthfawr iawn i gynnig 'breichiau a choesau' newydd i bobl, dydi ail-osod cymalau colledig neu gymalau a nam arnynt ddim ynddo'i hun yn arwain at fyw'n annibynnol.

Dydi adeilad presennol y Cynulliad Cenedlaethol ddim yr harddaf nar mwyaf trawiadol o'r adeiladau syddi yn y cyffiniau.

Achos dydi gyrwyr Ariannin ddim yn arafu wrth newid o un lôn i'r llall.

'Dydi'r Therosina 'ma ddim yn gall, nag ydi?

'Dydw i ddim yn deud nad ydi o'n gwybod rhyw ffeithiau anffafriol am Hogan ond dydi hynny ddim yn helpu'n hachos.

Ond dydi bod yn Gymro da yn rhywle fel Bradford yn dda i ddim.' ' Mae'n cyfaddef nad peth hawdd o gwbl fu bod yn Gymro Cymraeg yn y Brifysgol ym Mangor yn ystod y blynyddoedd diwethaf: " Mae 'na adega' annifyr iawn wedi bod yn y coleg yma, er bod petha'n well dan y drefn newydd.

'Dydi ddim yn reit.

Dydi pethau eraill y mae rhywun yn eu darllen yn y papurau ddim yn awgrymu rhyw ofal mawr och pobol gan y sefydliad hwn.

Cododd ei wrychyn yn arw, ac meddai, "Dydi o ddim wedi dweud wrtha i.

Yn sicr dydi tynnu'n groes a be at cross purposes ddim yr un peth.

'Dydi ysbrydoliaeth ddim yn un o 'nghryfdera i,' sylwodd Paul yn hwyliog.

'Ond 'dydi hi ddim yn iawn yng nghysegr Duw.' Nid oedd John y mab na chapelwr nac eglwyswr, ond 'roedd o'n giamstar ar drin clociau.

Ofn sy' arna'i y bydd hi'n treio croesi'r ffordd yn rhywle." "Dydi hi ddim ffit," meddai Dad, gan ddal i chwifio'r hosan nes roedd pawb o'u cwmpas yn edrych yn rhyfedd arno.

A dydi hi ddim yn gofyn am frên anhygoel i sylweddoli pam.

Er mai celwydd yw sail y stori, dydi o ddim yn gelwydd maleisus ac mae'n amlwg i bawb, ond y stori%wr gwreiddiol, mai celwydd ydyw.

"Dydi o ddim yn deg â'r plant chwaith þ gorfod dod yr holl ffordd yma i gadw golwg arnat ti." "Nac ydi, rwyt ti'n iawn."

"Dydi'r llygaid yna ddim yn edrych yn rhai creulon," meddyliodd Douglas wedyn.

"Dydi awyr las a golygfa brydferth ddim yn llenwi bol neb," atebodd Tom yn chwerw.

Hyd yn oed ym 1995 dydi hynny ddim yn bosib - os rhywbeth mae'n bwysicach fyth.

Ac iddyn nhw, dydi bod yn atebol ddim hanner mor secsi â bod yn unben.

Ac os na ddysgi di Gymraeg iddyn nhw'n fach, dydi hi ddim yn hawdd wedyn.

Ond o'u cymharu a'r perfformiad ei hun dydi'r pedair awr o ymarfer ond megis chwinciad.

Bob Cyf Cyff bellach dwi'n teimlo 'mod i'n crybwyll Golwg a dydi eleni ddim yn eithriad.

Am to be angry with her dydi bod yn flin efo hi ddim yn cael ei gynnig a dydi digio wrth rywun ddim yr un peth o gwbwl.

Yn ail, dydi gwadu baich yr ymgyrhcu dros yr iaith ddim yn dileu y baich hwnnw'n syth.

Ac mi allai hynny fod yn ddigon i'n helpu i wneud apêl.' 'Sgwn i fedrai Closs ein helpu?' 'Dydi'r heddlu ddim yn debyg o wneud hynny os na rown ni rywbeth cadarn iddyn nhw.

Dydi hyd yn oed ein gwleidyddiaeth ni ddim mor gynhwysol ag i olygu fod pob AC yn aelod o fwy nag un blaid ar y tro.

Dydi o ond yn fater o amser nes bydda nhw ar y gêm.

Dydi pobl ddim mor gymdeithasol heddiw.

Dydi Matthew Owen ddim yn sylweddoli fod Aled wedi 'i eni yn artist.

Ond fel pob cyfaill dydi CySill ychwaith ddim yn berffaith.

'Dydi hwn ddim yn ddigon mawr i'w gadw,' meddai, 'gwell i mi dynnu'r bachyn a'i daflu yn “l i'r afon.'

Mewn gwirionedd, dydi o ddim yn cymryd llawer llai o amser na siec.

Dydi o ddim yn rhywbeth syn digwydd i mi yn aml.

'dydi o'n dda o beth ein bod ni'n 'i nabod o a'i siort?'

Ond mi fyddwn i'n dweud wrth fy nghyd-Eglwyswyr, dydi hyn ddim yn deg ar y Capelwyr, ein bod ni yn disgwyl iddyn nhw gau eu llefydd nhw a chlosio ato ni.

Dydi'r stori na'r cymeriadau hynny ddim yn Pearl Harbour.

On'd dydi hi'n ddyrys, dywedwch?

'Dydi teulu Pant lwynog ddim gyda'r mwya cyfeillgar.'

Ac er fod petha wedi gwella yng Nghymru fel ym mhobman, dydi tlodi ddim mor ddiarth i blant Cymru.

Dydi rhai o'r hen bobl ddwad yma'n hidio ffeuen amdanon ni bobl y pentref...'

'Dydi'n dda o beth 'n bod ni'n 'i 'nabod o a'i siort .

Mi hoffwn i fedru gofyn iti ddod acw ond dydi Megan ddim yn rhy dda'r dyddiau hyn, fel gwyddost ti." "Doeddwn i ddim yn disgwl y fath beth." "Fydd hi ddim mor hawdd dod i dy weld ti yn Lloegr ond mi fydda i'n hapusach o wybod dy fod ti'n câl gofal a thitha wedi bod yn cwyno cymaint yn ddiweddar.

Doedd Cyng Ann Hopcyn ddim yn meddwl y bydd yn mynd , a dydi hi ddim yn cofio os ydi hi wedi ateb y gwahoddiad ai peidio.

Amdana i, 'dydi fiw i mi ddeud mai fi bia f'enaid fy hun.

Efallai nad ar raglen Jimmy Springer y mae'r bai i Nancy Campbell-Panitz gael ei lladd - ond dydi hynny ddim yn rheswm dros beidio â bod yn llawdrwm âr teip yma o raglenni teledu.

"Yn sicr dydi'r adroddiad ddim yn ddiduedd, ac mae'r holl beth yn drewi o gêm bropaganda'r diwydiant niwcliar yn ystod blwyddyn yr arolwg ar gyfer adolygiad o'r diwydiant."

Dydi o erioed yn dal yn ei wely?'

Mae'n golygu bod popeth yn cael ei reoli yn lleol er budd pobl leol. Drwy ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith mae'r nod yna yn gyffredin - Deddf Eiddo, system addysg annibynnol, Deddf iaith o werth - felly dydi'n galwadau yn ddim byd newydd.

Efallai y cofiwch chi fod gen innau hawliau, hawliau fyddai'n llai dymunol ichi na dim ddigwyddodd neithiwr." "Dydi hynna ddim yn deg," meddai hi.

A dydi beth sy'n digwydd ar deledu - a rowndabouts - yn ddim byd o'i gymharu â be sy'n digwydd ar y soffa ac ar y ciarpad o'i blaen hi os ydi'r llythyra i'r cylchgrawn merchaid sydd yn syrjeri'r Dr Parry bach del na i'w coelio.

Dydi hi ddim mor hawdd â hyn'na chwaith.

Dydi democratiaeth ddim yn golygu cael yr hawl i anfon Cynog i Gaerdydd yn lle Llundain.

Ond dydi'r rhai sy'n siarad Urmyceg ddim yn mynd i'r rheini rhyw lawer iawn bellach.

Dydi hynny ddim wedi'i benderfynu'n iawn eto.

Rydw i wedi bod draw ddwywaith i chwilio, ond dydi hi ddim ar gyfyl y lle.

Mae mesurau yn cael eu cymryd mewn gwledydd eraill, a dydi'r Gymdeithas ddim yn gofyn am ddim mwy na rheolaeth gymunedol dros dir a thai.

ONd dydi hi ddim yn cyrraedd i'r pwll domen ar ddydd Sadwrn.

A phan mae hynny'n digwydd dydi cymryd y penderfyniadau ddim hanner mor atyniadol iddyn nhw ac yr oedd o.

Mae yna ddigwyddiadau wedi bod lle'r ydan ni wedi rhoi'r camera i lawr - ond, wrth gwrs, dydi hynny ddim yn eich gwneud chi'n ddyn camera newyddion da iawn.

Er nad yw gweithwyr gofal yn gyfoedion, dydi hynny ddim yn golygu nad oes ganddynt ran i'w chwarae wrth i ddefnyddiwr y gwasanaeth ddatblygu ei hunan ymwybyddiaeth a'i werthoedd personol.

"Dydi Rhodri ddim yn plesio chwaith?'

'Dydi o ddim yn gofyn llawer gan y cydwybodol.' Nac ydi.' 'A'r rhai sydd o ddifri, wrth gwrs.

Wyddech chi ei fod o'n aelod o'r sindicet oedd am brynu'r fferm?" "Na wyddwn i, ond dydi hynny'n ddim rhyfeddod i mi.

Dydi o ddim yn lle y byddain ei fynychu yn aml iawn.

Yn aml, dydi llwybr y diwygwyr ddim yn un hawdd wrth iddyn nhw gael eu cyhuddo o fod yn feddal, gwangalon a rhy oddefol o droseddwyr.