Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dydy

dydy

'Dydy o ddim wedi priodi eto," a chwarddodd Elis Robaitsh hen chwerthiniad awgrymog.

Dydy'r Asiantaeth ddim am wneud sylw nes y bydd ei ymchwiliadau wedi dod i ben.

Does dim digon o safleoedd sydd wedi eu bwriadu ar gyfer plant, ac felly dydy plant ddim yn gallu manteisio'n llawn ar y cyfrwng newydd.

Dydy'r dyn sy'n byw yn y plas ddim wedi bod yno'n hir.

'Dydy hi ddim yn edrych yn dda, ond mae nifer o bwyntiau ar gael o hyd,' meddai.

Mae sgrifennu cynghanedd fel gwneud jig-so - un ai mae o'n iawn neu dydy o ddim," meddai'r Prifardd Tudur Dylan Jones.

Dydy o ddim yn ddigon i osgoi disgyn ond mae gobaith o bethau gwell i ddod.

Yr unig beth dydy Moldovan ac Ilie ddim wedi creu digon o argraff yn y blaen.

Dydy hi ddim yn gyfrinach bod y clwb yn ei chael hi'n anodd denu cefnogwyr a'r cyfarwyddwr newydd Geoff Farrell sydd wrth wraidd y syniad.

Dydy ond tair oed a dydy o ddim yn deall.

Y rheswm tu ôl i hyn, yn ôl y Cyngor, oedd gan fod yna lai na 100 o blant yn yr ysgol a dydy eu grant ddim yn ddigon mawr i fedru talu am yr athrawes ychwanegol.

Wedi'r cyfan os oes cydraddoldeb rhwng aelodau, dydy hi ddim yn deg disgwyl i'r aelodau dwyieithog gyfieithu drostyn nhw eu hunain.

Os nad ydi fitamin mewn cwrw neu wisgi dydy chi moi angen o gwbwl.

a dydy'r heddlu...

Dydy'r pry-genwair 'ma ddim isio stîd heddiw.

Dydy canlyniad Cymru, yn colli 3 - 0 yn Portiwgal, ddim yn ymddangos cynddrwg nawr.

Gyda cheir yn hongian wrth ei gilydd gerfydd y tyllau lle'r arferai rhwd fod dydy'r heddlu ddim yn debyg o'ch stopio chi i ofyn oes gennych chi yr hyn sy'n cyfateb i MOT.

Dydy hi ddim yn glir eto beth fydd tynged yr ardal ar ôl cael ei meddiannu am gymaint o amser - nag yn wir beth fydd effaith hyn i gyd ar y broses heddwch yn y Dwyrain Canol yn gyffredinol.

dydy pobol ddim am dalu os nad yw'r job yn cael ei wneud yn iawn...

Dydy'r hylif ei hun ddim yn newydd.

Dydy Stewart ddim yn chwarae i dîm Lloegr yn erbyn Tîm y Noddwr yn Pakistan ar hyn o bryd.

Ond dydy e ddim yn wir..." "Does dim pwrpas siarad.

Felly, dydy hi ddim yn ofnadwy o bell i chi, 'nagydy?

Dydy ymddiheuriad, waeth pa mor swyddogol, fod y fersiwn Eidaleg ddim yn barod eto, ddim yn gwneud y tro; os nad ydy fersiwn pob iaith yn barod, dydy'r dasg o baratoi'r papurau ddim wedi ei chwblhau.

Dydy pysan wedi'i berwi yn dda i ddim mewn pib.

Dydy Stewart ddim wedi ei gyhuddo o dderbyn o drefnu canlyniadau.

Dydy hi ddim yn rhwydd - falle bod hi'n rhwydd iddo fo, ond dwi'n siwr mai crefft yn cuddio crefft ydy hi yn ei hanes o.

fe fydd dawns yno heno, a dydy'r bwyd ddim yn ddrwg chwaith.

A dydy record John Harston ddim mor arbennig yn y crys coch.

A dydy hi ddim!

'Dydy o byth yn sgorio, felly mi fydd o'n cofio'r gôl honna am hir iawn.

Dydy Norwy ddim y tîm mwyaf creadigol - maen nhw chwarae fel Wimbledon - Route 1! Mae blaenwyr tal gyda nhw ond yn anffodus dim chwaraewyr creadigol.

Dydy Henry, sydd yn St Johns, Canada, gyda Charfan Ddatblygu Cymru, yn dweud dim.

Ond dydy'r arwyddion ddim yn galonogol.

Dydy'r anaf i'w bigwrn ddim yn gwella er gwaetha'r driniaeth.

'Dydy'f fuwch byth wedi dwad a llo, Mr Huws' ychwanegodd Malcym yn sylwgar.

Dydy pethau ddim yn dda tua Pharc y Strade ar ôl i Lanelli golli o 65 pwynt i 16 yn erbyn Caerdydd yn rownd 16 olaf Cwpan y Principality.

Ond Giovanni Savarese - dydy e ddim yn chwarae o gwbwl.

Ond dydy pethau ddim wedi mynd yn dda iddyn nhw yn erbyn Essex yn Chelmsford y bore yma.

'Maen nhw wedi cael nifer o anafiadau a mae wedi bod yn annheg i John Hollins - dydy o ddim wedi medru dewis ei dîm gora bob wythnos.

Yn ol ei fam Sharon, sy'n gweithio i Fanc y Midland ym Mangor, dydy'r profiad ddim wedi ei boeni o gwbl.

Dydy'r bachyn ddim ond modfedd neu ddwy o'r golwg.

Dydy cerddwyr ar y mynyddoedd a'r bryniau ddim yn cynllunio'r daith yn ddigon gofalus, dydyn nhw ddim yn gwrando ar ragolygon y tywydd, dydyn nhw ddim yn gwisgo dillad addas a dydyn nhw ddim yn mynd gyda chymdeithion eraill.

Ac wedi iddi fynd i'r hwyl, dyma hi'n deud peth fel hyn: "Os y bydd rhywun yn trio'ch treisio chi, dydy o ddim yn beth doeth i wrthwynebu gormod." Wrth gwrs, mae cyfla yn beth mawr, chwadal nhwtha, ac mi sylwais ar y diwadd, pan oedd pawb yn ei holi hi, na ddarfu neb feddwl gofyn a oedd hi wedi cael y profiad ei hun.

Dydy'r Gymraeg ddim yn defnyddio'r ffurfiau lluosog ar ôl rhifau.

Yn ôl Mr Thomas, mae yna bryderon ynglŷn ag iechyd a dydy'r llywodraeth ddim yn cydnabod hynny.

ie, ond dydy ein llywodraeth ni ddim mor ddiogel â'ch llywodraeth chi.

Heddiw, hefyd, bydd Lerpwl yn gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr nhw ym mhedwaredd rownd Cwpan UEFA. Dydy Lerpwl ddim ymhlith detholion y gystadleuaeth, felly medran nhw ddisgwyl y byddan nhw'n chwarae un o fawrion Ewrop, naill ai Barcelona, Roma, Celta Vigo neu Porto.

Mae'r ddadl drosodd felly yn dydy, ychwanegodd.

Dydy Killen ddim yn cael chwarae am mai chwaraewr Manchester City yw e a dyw Mardon 'chwaith ddim yn cael chwarae oherwydd na wnaeth e ymuno mewn pryd o West Brom.

Ond gwrandwch - dydy'r hen Wil ddim yn gwybod y cwbl chwaith, mae'n rhaid.

Mae o'n cydio yn Armin a Chalfin ac yn cerdded ar flaen ellyn rhyngddyn-nhw.' Dywedir rhywbeth tebyg am William Roberts: ''Does gan William Roberts ddim amcan am ddiwinyddiaeth gyfundrefnol a 'dydy o'n malio dim botwm corn am resymeg na chysondeb y Ffydd.

Dydy fy nhraed i byth yn cael ewinrhew a rydw i'n cael ocsygen yn gynt o lawer am nad yw fy ngwaed i'n gorfod cylchredeg o gwmpas cymaint o gorff.' `A beth rydych chi'n mynd i'w wneud nesaf?'

Yn Lorient y bydd y pencadlys a dydy'r gwleidyddion ddim yn siwr iawn beth fydd hyn yn ei olygu.

Ond i nifer, dydy hynny ddim yn wir.

Dydy datrys pob pôs ddim yn waith anodd bob amser.

Dydy nhw ddim digon da, yn ôl y swyddogion.

Dywedodd eu llefarydd Pete Riley: Dydy iechyd y ffarmwr ddim yn cael ei effeithio pan mae'r ffarmwr yn trochi'r defaid cymaint ond wrth drin yr hylif wedyn hefyd.