Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyfed

dyfed

Roeddwn ar y pryd wedi bod yn gweithio fel un o bedwar Cyfreithiwr Erlyn yn swyddfa'r Prif Gyfreithiwr Erlyn, Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin, ers rhyw ddwy neu dair mlynedd cyn i'r achlysur 'rwy am ei ddisgrifio ddigwydd.

Yn ystod yr amser yma roedd tad Euros yn Llywydd Cymmrodorion Llanelli a Llywydd Undeb Cymdeithasau Cymraeg Dwyrain Dyfed.

Eu cyfeiriad yw Gorslas, Ynyslas, Borth, Dyfed.

Yn wyneb y sefyllfa hon penderfynodd Awdurdod Addysg Dyfed ymateb i'r gwasgu a fu arnynt of du undebau a mudiadau tebyg i UCAC a Chymdeithas yr iaith.

Mewn siroedd megis Dyfed, lle mae cyfran uwch o dir da ceir mwy o bwyslais ar gnydau a gwartheg godro.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod wedi cael cwynion am y bachgen.

Rhoes hygrededd i Blaid Cymru yn arbennig yng Ngwynedd a Dyfed.

Mewn ymdrech ar y cyd rhwng staff ymgynghorol AALl Dyfed, Albion Concrete, Pwyllgor Tywysog Cymru, yr ysgolion ac Uned o'r Fyddin Diriogaethol, mae nifer o ysgolion yn Nyfed wedi derbyn pibellau draenio enfawr.

Bu'r pwyllgorau rhanbarth yn weithredol ym Morgannwg Ganol, De Morgannwg a De-ddwyrain Dyfed / Gorllewin Morgannwg, gan gydlynu gweithgareddau'r canghennau lleol.

Bradycha ymddiried Math a Phryderi, mae'n creu rhyfel rhwng Dyfed a Gwynedd lle collir bywydau lawer, a lleddir Pryderi gan Wydion ei hun, - hyn oll er mwyn bodloni chwant Gilfaethwy.

Mae awdurdod Pendaran Dyfed ym mater enwi'r bachgen yn amlwg, a chan fod Teyrnon a Phendaran Dyfed ill dau'n cael meithrin y bachgen, mae'n debyg fod cysylltiad arbennig rhwng Pryderi a Phendaran Dyfed.

Roedd teulu o Birmingham wedi bod ar wyliau yn y Cei Newydd yn Sir Aberteifi, ac wrth gwrs, roeddent wedi gyrru ar draws Sir Drefaldwyn er mwyn cyrraedd Sir Aberteifi, a'r cyfan ar diriogaeth Heddlu Dyfed-Powys.

Dengys ymchwil ddiweddar gan Brifysgol Cymru Abertawe ar ddefnydd y Gymraeg gan bobl ifanc (16-17 oed) yng Ngorllewin Morgannwg a Dwyrain Dyfed, fod pobl ifanc yn fwy tebygol o gadw gafael ar y Gymraeg os mai dyna yw iaith naturiol eu haelwyd.

Os dewisodd yr awdur roi lle Pendaran Dyfed i Bwyll, fe all fod y rheswm i'w gael yn ystyr yr enw, sef 'barn, synnwyr, ystyriaeth, dianwadalwch', ansoddau a ystyriai'n anhepgor i lywodraethwr.

Wedi gwallgofrwydd bargeinion Ionor yn y faelfa cafwyd egwyl gymharol dawel, a dechreuodd y staff son am eu cynlluniau ar gyfer gwyliau'r haf: bwthyn yn Sir Benfro - y - Dyfed; wythnos yn Llundain; paentio'r tŷ; Iwerddon; llynnoedd Lloegr; Cernyw; Eastbourne; a hyd yn oed Majorca.

Yn raddol, drannoeth, gwawriodd arnom ein bod wedi ein dal yn llwyr gan y Bos, a'i fod ef wedi bod yn tynnu coes yn ddidrugaredd, ond gan fod y manylion tybiedig wedi'u plethu i mewn i r cefndir a'r lleoliad dilys yn gelfydd iawn, hyd yn oed tadogi'r stori ar Mr Merfyn Morgan, y Prif Uwch-Arolygydd â gofal am Adran "D" o Heddlu Dyfed-Powys, roeddem wedi credu'r stori'n llwyr.

Gwelwyd hyn ychydig amser yn ôl pan geisiodd y cenedlaetholwyr berswadio Cyngor Dyfed i gael sistem gyfieithu ar y pryd.

Gallai Cymraes a ddymunai fod yn lleian ddewis ymuno â lleiandy bychan Sanclêr yn Nyfed neu ag un o'r ddau leiandy Sistersaidd yn Llanllyr, Dyfed, neu Lanllugan, Powys.

Mae'n debyg bod y Prif Uwch-Arolygydd â chyfrifoldeb am Faldwyn a Maesyfed a Brycheiniog, neu Adran "D" Heddlu Dyfed-Powys, â'i bencadlys yn y Drenewydd (sef Mr Merfyn Morgan), wedi esbonio'r cefndir a rhoi'r manylion am y digwyddiad ac roedd yn disgwyl cyngor gennym.

Neu hyd yn oed "y peth pwysicaf yng Ngwynedd neu Dyfed"?

Mae'r enw Pendaran, Pen Darian efallai, Prif Amddiffynnwr, Dyfed ac iddo atsain awdurdod a hynafiaeth nas ceir yn Pwyll, Pendefig Dyfed, sydd, o'i gymharu ê'r llall, yn enw tawel a modern.

Eglurodd fod i Feirdd Ynys Prydain gynt bedair Cadair - Gwynedd, Powys a Dyfed a Morgannwg - ac er mwyn pwysleisio rhagoriaeth hanesyddol Morgannwg a'i statws unigryw ef ei hunan honnai'n gyson mai Cadair Farddol Morgannwg yn unig oedd wedi goroesi i'w gyfnod ef.

Sylwyd eisoes gan W J Gruffydd a'r Dr Bromwich nad Pwyll ond Pendaran Dyfed oedd tad gwreiddiol Pryderi, ac fe ddengys y Dr Bromwich nad yw'r beirdd yn talu llawer o sylw i'r un tad na'r llall.

Ac yn awr drosodd at Glenda Dyfed am ragolygon y tywydd.

Dyma godi'r ffôn eto, a chael sgwrs â cyd-drefnydd rhanbarth Caerfyrddin, Dyfed.

Yn ol prifathro presennol ysgol Stebonheath a phennaeth Archifdy Dyfed, mae llyfrau cofrestri'r Ysgol Gynradd hon am y cyfnod y bu Euros ynddi ar goll, ac ni fedraf roi'r union ddyddiau y bu yn ei mynychu.

Ymysg y prosiectau a gymeradwywyd gan Bwyllgor Monitro Rhaglen Dyfed,Gwynedd, Powys yw'r prosiect hwn ac felly yn dilyn ystyriaeth bellach yr wyf yn falch o ddweud fod y problemau hyn wedi eu goresgyn ac y bydd yr astudiaeth yn mynd yn ei flaen yn awr.

Dyma'r sylwadau a wnaeth y rhai llai na bodlon: Do, ond dim cymaint ar ail iaith ag ar yr iaith gyntaf (Powys); Roedd y ffeil yn wag pan y'i derbyniwyd ac mae'n para'n wag (Dyfed); A bod yn onest ni ches lawer o fudd o'r deunyddiau.

Ni cheir yr un fflach yn awdl fuddugol ddiflas Dyfed.

Yn sblashio drwy byllau dŵr a phasio loris trymlwythog ar hyd ffyrdd cefn gwlad Dyfed, a dim ond mymryn o'i llais ar ôl yn y swyddaf.

Mae swyddogaeth gymunedol yr ysgol bentref wedi dod yn bwysicach yn siroedd Dyfed yn ystod y ddegawd ddiwethaf oherwydd dirywiad yr iaith yn y cymunedau ehangach a dyfodiad y polisi iaith newydd i ysgolion y siroedd.