Gelwir y dyfnant coediog hwn, a'r Rheilffordd o Gaerwen i Amlwch yn dilyn ei llwybr, yn The Dingle, ond 'does dim dwywaith mai ei henw gwreiddiol oedd Nant y Pandy." Enw arall ar y rhan hon o'r dyffryn, ac un hynod o addas ag ystyried sut y'i crewyd yn y lle cyntaf, oedd Nant y Dilyw.
Llifa tua'r de ar draws wyneb tonnog dwyrain Môn, ond pan gyrhaedda Landegfan mae'n dilyn llwybr llawer mwy serth, ac o ganlyniad, i'r de o Felin Cadnant, mae'r afon yn dilyn llwybr dyfnant sydd ag ymylon serth iawn iddo.