Look for definition of dyled in Geiriadur Prifysgol Cymru: |
Fel y caf son eto, y mae ardal Cefn Brith yn fawr iawn ei dyled iddo ef a'i briod..
Mae dyled sawl awdur iddo'n fawr.
'Mae'n rhaid i mi gael gwybod.' Beth oedd yr ysfa yma ynddi i beidio â bod mewn dyled i neb?
"Mae ein dyled yn fawr iddyn nhw," meddai'r Cyng Huws.
Hoffwn gydnabod ein dyled i weledigaeth a medrusrwydd ein Cyfarwyddwr, Siôn Meredith ac i'r Swyddog Cyswllt deinamig, Andrea Jones, am eu hymroddiad cadarn i'r mudiad.
"Talu eu dyled ichi?
Rhoddodd amlinelliad gwerthfawr iawn i ni o sut yr aeth y mudiad hwnnw - y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn un o'i gefnogwyr - ati i bwyso ar i'r llywodraeth ddileu dyled y trydydd byd.
Eto gellid gorbwysleisio dyled y llenor o Gardi i'r Americanwr, y mae'n debyg, am fod ysbrydion Meini Gwagedd yn codi'n hollol naturiol o darth y Gors fel yr oedd Kitchener yn ei chofio.
Pwrpas y rhan hon o'n llith ydyw dangos fod cytundeb rhwng ysgolheigion ynglŷn â dyled uniongyrchol neu anuniongyrchol Dafydd ap Gwilym i'r Trwbadwriaid (neu'r Trwferiaid) cyn i T Gwynn Jones sôn am ddyled y Gogynfeirdd iddynt, a bod rhai o'r ysgolheigion, megis W J Gruffydd a Lewis Jones, yn awgrymu mai trwy ddyled ei flaenorwyr yn y traddodiad llenyddol Cymraeg i'r Trwbadwriaid yr oedd Dafydd yn ddyledus.
Fe'm cyflwynodd i Tomi ac i ŵr Pen y bryn, a thra cydnabyddai ei genedl ei dyled iddo cydnabyddai yntau angen y rhai ifainc am gefnogaeth a chymorth a chalondid, megis pe bai'n barod, nage yn awyddus, i fyw drachefn yn y genhedlaeth newydd gynyrfiadau creu.
Ond fy mwriad yw nid codi crachod ond mynegi gwerthfawrogiad am gasgliad o ysgrifau sydd wedi ein gosod unwaith eto mewn dyled i'r Athro Glanmor Williams.
Pwy a all fesur ein dyled i'r Cymry hynny sy'n gwrthod gwerthu eu ffermydd i'w cyd-Gymry amharchus, gan ddewis yn hytrach ymddiried y tir sydd mor annwyl ganddynt i ddwylo'r sawl a rydd brawf digamsyniol o'i barch tuag at y tir hwnnw?
Yr oedd ein dyled iddynt yn enfawr.
Nid fod ein dyled ronyn yn llai iddo ar ôl inni wybod hynny, oblegid cryn dipyn o orchwyl oedd llywio cwrs argraffiad diwygiedig hyd yn oed pan oedd rhywun arall yn gyfrifol am y diwygio.
BYW MEWN DYLED Y mis diwethaf fe addawyd y buasem yn rhoi sylw i gwestiwn arall gan un o ddarllenwyr Tafod Elai y tro hwn, ac fel mae'n digwydd, fe welwch ei fod yn un hynod o amserol a pherthnasol: Annwyl Syr, Clywais fod Cyngor Taf Elai wedi penodi swyddog datblygu Undebau Credyd.
Cawsom ein hatgoffa am yr ail dro yn Eisteddfod Bro Madog am ein dyled i'r gorffennol.
Yn aml pris y cnydau toriethiog yw unigedd a dyled yn y banc.
Pery ein dyled yn fawr i William Owen am ei gefnogaeth gyson yntau.
Y mae ein dyled ni'r Cymry'n ddwfn i'r bobl a'r mudiadau a frwydrodd yn ddiymarbed dros y blynyddoedd i sicrhau na châi'r cyfrwng cyfathrebu pwerus a dylanwadol hwn foddi ein hiaith a'n diwylliant a'n traddodiadau cenedlaethol.
Y mae'r profion medrusrwydd wedi bod yn bwysig ac yn addysgiadol i lu mawr o fechgyn a genethod y Sir ac y mae dyled y mudiad i hyfforddwyr ymroddedig yn fawr.
Mawr yw ein dyled iddynt am y gwaith clodwiw a wnânt yn trefnu gwyliau cystadleuol ledled y wlad.
"Mae'n dyled ni'n fawr i'n ffrindiau o'r Almaen," meddai, â balchder lond ei lais.