(ch)Ceisiadau Newydd Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r ceisiadau canlynol i ddatblygu:- PENDERFYNWYD (ii) Awdurdodi'r Prif Swyddog Cynllunio i benderfynu'r ceisiadau canlynol fel a nodir gyda'r amodau priodol:- Cynghorydd IW Jones am gael cofnodi nad oedd yn dymuno cymryd rhan yn y drafodaeth).
Ond y mae hwn yn beth mentrus iawn i'w wneud oherwydd gellir priodoli i awdur syniadau nad yw'n dymuno eu harddel.
Yn anffodus, y ffasiwn erbyn hyn yw dymuno'n dda dros y ffôn.
Derbyniwyd llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysu nad oedd yn dymuno ymyrryd yn y cais ac yn gofyn i'r Cyngor hwn ei benderfynu.
"Roedd fy nhad gyda'i anffurfioldeb arferol yn dymuno i mi atgoffa Miss Davies fod perffaith ryddid iddi ddod â ffrindiau neu deulu i aros yn y fflat unrhyw adeg, ond os bydd rhywun yn dod yno i fyw ar sail fwy parhaol, efallai y byddai hi garediced â gadael iddo fo gael gwybod er mwyn iddo gael trefnu ynglŷn â'r rhent.
Ei amddiffyniad oedd iddo wneud hynny gyda'r bwriad didwyll i'w rhyddhau o boen annioddefol a hynny pan oedd hi ei hun yn dymuno marw.
Sioe Ffasiynau: Adroddodd yr Ysgrifennydd ei bod wedi llwyddo i gael Helga Morgan o Landudno i gynnal y Sioe gan nad oedd Cwmni Laura Ashley yn dymuno dod.
Os nad yw'r Cynulliad am baratoi'r ffordd i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, yna'r neges i San Steffan yw nad yw'r Cynulliad yn dymuno nac yn ewyllysio cymryd cyfrifoldeb am yr unig faes sy'n unigryw iddo. 11.
Nodir hefyd ar ddiwedd pob adran y prif gyrff y mae'r Bwrdd yn dymuno cydweithio â hwy.
Cymerwch yn ganiataol y bydd rhai yn dymuno gwneud a datgenwch fod croeso i bawb ddefnyddio'r iaith maen nhw'n dymuno ei defnyddio.
Pwy mewn gwirionedd ydi'r Eingl-Gymro bondigrybwyll yma, ond un sy'n gwybod ei fod yn Gymro, neu sy'n dymuno meddwl amdano'i hun felly, ond sy'n ymwybodol byth a hefyd ei fod yn siarad iaith estron?
Mae miloedd o bobl yng Nghymru na chawsant gyfle teg i ddysgu'r Gymraeg tra yn yr ysgol ac sy'n dymuno cael cyfle yn awr i ddysgu'r iaith.
'Doedd Karen ddim yn fodlon o gwbl i fyw fel 'roedd ei mam yn dymuno iddi wneud - gadawodd yr ysgol cyn gorffen ei lefel A gan fynd i weithio i gaffi Meic Pierce.
Pwy sy'n dymuno drwg ichi?
Y mae'r llyfr ar ei hyd yn werslyfr ardderchog i unrhyw un sy'n dymuno gwybod rhywbeth am hanes Ieithyddiaeh a deall cefndir gwaith yr ugeinfed ganrif yn y maes hwn.
CONSYRN: Mae'r Parchedig a Mrs Gordon Owen, Ficerdy, yn dymuno diolch i bawb, oddi mewn i'r gymuned ac oddi allan, am bob arwydd o gynsyrn a ddangoswyd tuag atynt mewn canlyniad i waeledd annisgwyl eu mab.
Ar y llaw arall fe fyddai llawer o'r Cynghorau, a'r Quangos a'r Llywodraeth yn ddieithriad, yn dymuno i ni ildio.
Roedd mor dalog obeithiol wrth wynebu'r dyfodol ac mor ddigyfrif o beryglon y presennol ag y gellid dymuno iddi fod.
Hwyliodd Edward am ei brynhawn i'r parlwr cynnes a'i dân braf a'i lyfr cowboi gan edrych ymlaen at ymgolli'n llwyr yn swynion a champau'r bechgyn a'r gwartheg gwyllt - credaf ei fod wedi dymuno llawer am fod yn un ohonynt ar y paith pell a gwyllt.
Dymunwn ddiolch a dymuno yn dda i weithiwr Aberconwy sydd wedi ymddeol ar ol rhoi gwasanaeth gwerthfawr trwy gasglu sbwriel o amgylch yr ardal.
Go brin y gallai gwlad fechan dlawd heb lywodraeth na llais rhyngwladol ddylanwadu ar dynged y rhain, hyd yn oed pe bai ei phobl yn dymuno hynny.
Ysgydwyd y byd barddol i'w seiliau gan ddatganiad Euros Bowen ei fod yn dymuno cadeirio'r Parch.
Pob tro mae rhywun yn dymuno iechyd da, rhaid sefyll a 'ganbei'.
Ond pa iws dymuno pethe gwirion.
Mae clwb Lazio wedi dweud na fyddan nhw'n rhwystr os yw Eriksson yn dymuno bid yn rheolwr tîm pêl-droed Lloegr.
Mae cymdeithas yn ariannu'r ymchwil y mae'n dymuno ei chael.
Yn yr un cywair dymuna ei mam, Mrs Hilda Campbell ddiolch o galon i'w ffrindiau am yr anrhegion a chardiau yn dymuno yn dda iddi pan yn gorffen ym Mrig-y-Nant yn ddiweddar.
Mae hi'n argoeli'n flwyddyn a hanner i artistiaid Cymreig felly, ac ni allwn ond dymuno pob lwc i bob un, er nad oes angen peth felly ar yr un ohonyn nhw.
Roedd yn dymuno cadw ei enw iddo'i hun a pharchwyd hynny gan y bwrdd golygyddol.
Cafwyd pryd da o fwyd yn y Springfield Hotel, Pentre Halkyn ar y ffordd adref ac y mae Pwyllgor yr Henoed yn dymuno diolch yn ddiffuant iawn i Gyngor Cymuned Y Felinheli am gyfarfod y cyfan o gostau'r wibdaith.
Penderfynodd y Gymdeithas y bydd unrhyw glwb sy'n dymuno parhau i chwarae yn Lloegr y tymor nesaf yn cael ei ddi-arddel o FA Cymru.
Nod BBC Cymru yw bod yn ddarparwr effeithiol o adnoddau addysgol pwrpasol i bawb sy'n dymuno dysgu, yng Nghymru a thu hwnt.
Mae angen datblygu'r ddarpariaeth ymhellach er mwyn sicrhau fod darpariaeth ar gael ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy'n dymuno ennill sgiliau ieithyddol neu eu gwella.
Rydym yn anfon eich dymuniadau gorau ato ac yn dymuno gwellhad buan iddo.
Peth anlwcus arall yw dymuno'n dda i geffyl neu joci cyn dechrau ras.
'Roedd Euros Bowen yn dymuno coroni Dafydd Rowlands, Waldo Williams o blaid L. Haydn Lewis a Thomas Parry yn ffafrio pryddest H. Llewelyn Williams.
Yr oedd Thomas Parry yn dymuno cadeirio Euros Bowen, ond yr oedd yn rhy dywyll gan y ddau feirniad arall.
Roedd Seimon ar fin cynnig mynd yn ei lle pan roddodd y ficer ei law ar ei fraich i fynegi ei fod yn dymuno sgwrs ag ef.
Cyn y gêm galwodd Mike Smith i'n gweld ni am eiliad a dymuno'n dda i ni a i olynydd.
Gellid dweud yn ddibetrus mai profiad sobreiddiol fyddai i brif weinidog unrhyw wlad edrych dros lawr y Tū a syllu i fyw llygaid arweinydd yr Wrthblaid gan wybod fo dhwnnw yn cynrychioli plaid sy'n dymuno arwain rhan o'r wlad i annibyniaeth.
Yn bennaf mae'r Gymdeithas yn dymuno gweld y Cynulliad yn cyflwyno Deddf Iaith i'r Senedd yn Llundain fydd yn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.
Ond chwarae teg, os sylwodd o gwbl ni ddywedodd ddim, oddieithr dymuno'n dda imi.
Dywedodd Dafydd Morgan Lewis Swyddog Ymgyrchoedd y Gymdeithas: 'Mae'n siwr y bydd nifer o fudiadau yn dymuno dathlu chwe chan mlwyddiant gwrthryfel Glyndŵr eleni.
(Nid oes rheidrwydd iddo wneud hynny, ond mae'r hawl yno os yw'n dymuno.)
Rydw i'n meddwl y basen nhw'n dymuno dod a rheolwr newydd i'r clwb.
Peidiwch â gwneud i siaradwyr Cymraeg deimlo eu bod yn niwsans am eu bod nhw'n dymuno siarad yn Gymraeg drwy ofyn cwestiynau fel 'Oes rhywun yn mynd i siarad Cymraeg yn y cyfarfod yma?'.
Er enghraifft, os oedd Sais yn dymuno cyfansoddi cerdd foliant i'w noddwr, byddai'n meddwl yn gyntaf am efelychu Pindar neu Horas.
Gorchmynion rif y gwlith: ffonio Elsie Hughes a gofyn iddi newid y rhestr am nad oedd Mem yn dymuno cludo'r ddwy Saesnes eto.
Nid yw ryfedd yn y byd, felly, ein bod ni sy'n caru Cymru fel Cymru ac sy'n dymuno gweld yr hen ddiwylliant a'r iaith yn ffynnu, yn ystyried y Cymydog Mawr yn fygythiad.
Fodd bynnag, credwn yn gryf y dylai'r Cynulliad weithredu o'r cychwyn cyntaf fel corff sydd yn dymuno ennill yr hawl i basio deddfwriaeth gynradd.
Mae'r Cyngor Darlledu yn gwerthfawrogi gorchestion BBC Cymru o dan ei arweinyddiaeth ysbrydoledig yn fawr, ac yn dymuno pob llwyddiant i'r rheolwr newydd, Menna Richards, wrth i'r byd darlledu yng Nghymru baratoi i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd digidol, ac wrth wynebu'r broses o ehangu darlledu masnachol.
Os ydych yn dymuno gwrthwynebu'r cynllun dinistriol hwn, anfonwch eich llythyrau i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Y Swyddfa Gymreig, Parc Cathays, Caerdydd.
Er nad oedd y lle ond ychydig gannoedd o lathenni allan o'i ffordd, roedd y gyrrwr yn dymuno mwy o arian gennym.
mae'r Cyngor Darlledu yn gwerthfawrogi gorchestion BBC Cymru o dan ei arweinyddiaeth ysbrydoledig yn fawr, ac yn dymuno pob llwyddiant i'r rheolwr newydd, Menna Richards, wrth i'r byd darlledu yng Nghymru baratoi i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd digidol, ac wrth wynebur broses o ehangu darlledu masnachol.
Daeth marwolaeth Damilola Taylor ar ei ffordd adre o'r ysgol yn ddiweddar ag atgofion yn ôl i mi am yr adeg pan benderfynodd y ferch hynaf ei bod yn dymuno cerdded i'r ysgol ac yn ôl ar ei phen ei hun.
Ceir darnau yn yr Ysgrythur lle y dywedir nad yw Duw yn dymuno aberthau ac offrymau; yn wir ei fod wedi hen syrffedu arnynt.
Roedd hi eisoes wedi gwneud trefn ar ei phethau, ac yn dymuno cael ei chladdu mewn man penodedig.
Y mae'n arwydd fod Duw yn dymuno, nid yn unig ymddygiad cyfiawn, ond hefyd ymroddiad absoliwt.
Yn y gorffennol, pe byddai rhywun yn dymuno chwilio, er enghraifft, am safleoedd yn ymwneud â'r 'piano' (fel teyrnged hwyrach i'n Cadeirydd, Branwen Brian Evans, sydd yn athrawes biano ac yn gyfeilyddes o fri), byddai'r we yn methu â gwahaniaethu rhwng y safleoedd Cymraeg a'r rhai Saesneg.
Am fod mesur y llywodraeth yn dymuno ehangu'r diffiniad o 'derfysgwr' i gynnwys mudiadau ac unigolion sy'n bygwth difrod difrifol yn erbyn eiddo er mwyn gwireddu amcanion gwleidyddol, crefyddol neu ideolegol.
Pryderir y gallai hyn ddigwydd am fod lleiafrif bychan o'r gymuned - rhieni lleiafrif o'r plant sydd yn digwydd bod yn mynd trwy'r ysgol ar y pryd - yn dymuno addysg Saesneg yn bennaf i'w plant.
Ac er nad ydym yn dymuno argymell iaith o'r fath, does dim diben gwadu fod y ddau fics ychwanegol a geir ar y sengl yn llawer mwy pwerus ac effeithiol na'r fersiwn lân, a hynny am nad ydynt wedi cael eu golygu o gwbl.
Y mae dyn erioed wedi dymuno ennyn bendith y duwiau, ymatal rhag herio ffawd a rhagluniaeth ('Fe ddof yfory, os byw ac iach...' ) Mae'n awyddus i ennill lwc dda a chael bod yn ffortunus neu'n ffodus mewn bywyd (ansoddair sy'n tarddu o'r gair 'ffawd').
CYMORTH CRISTNOGOL: Mae'r Cyngor Eglwysi Y Felinheli yn dymuno diolch i bawb, yn gasglwyr ac yn gyfranwyr, am eu haelioni eto eleni.
Dyna'r rheswm, mae'n debyg, paham na fu awdurdodau'r Eglwys yn yr Almaen a'r Eidal fel petaent yn dymuno gwahardd neu rwystro'r cyfieithiadau hyn rhag cael eu dosbarthu ymysg y boblogaeth yn y ddwy wlad.
Mae'n nhw'n dymuno byw'n ddi-enw, yn disgyn i sbeiral anobaith ac, oherwydd ofn unigrwydd ac ansicrwydd yn colli eu hunaniaeth."
Am nad oedd y Capten yn dymuno hwylio mwy i'r De rhag ofn rhedeg i fryniau ia - daeth y llong â'i thrwyn i'r gwynt a'r môr.
Un tro daeth bachgen ataf yn Sarn Bach, a theimlwn ei fod yn dymuno cael sgwrs.