Branwen Jarvis - Cymru, Cymraeg, a'r Dyneiddwyr.
Oherwydd, yn y pen draw, adlewyrchu y mae gweithiau a rhagymadroddion y dyneiddwyr Cymraeg deimladau ac agweddau meddwl a oedd yn cyniwair drwy Orllewin Ewrop i gyd.
At hynny, rhaid dehongli geirfa'r Dyneiddwyr.
Eithr nid myth mohono i'r dyneiddwyr, ond hanes gwirioneddol, fel y gwelir o edrych ar waith y pennaf o haneswyr Cymreig y cyfnod, Humphrey Llwyd.
Mae hynny'n sicr yn wir am ymdrechion y dyneiddwyr i hybu a chlodfori eu hiaith a'u cenedl eu hunain.
Ond mwy real iddo ef, ac i'r dyneiddwyr eraill, na'r bygythiad gwleidyddol eang a gai fynegiant yn y syniad o ymdoddi ieithyddol llwyr, yw'r difrawder a'r troi cefn a welent ymhlith unigolion, y man foneddigion yn arbennig.
Ond nid yw'r ffaith i'r Lladin barhau yn lingua franca dysg, yng Nghymru megis mewn gwledydd eraill, yn newid dim ar frwdfrydedd sylfaenol, ac egniol, y dyneiddwyr dros yr iaith Gymraeg.
Edrych ar y darlun hwnnw o safbwynt agwedd y dyneiddwyr at Gymru a'r Gymraeg fydd diben y ddarlith hon.
Yr oedd y Dyneiddwyr yn gyforiog o obaith.
Ni ellir deall gwreiddiau'r brwdfrydedd hwnnw heb ddeall agwedd y dyneiddwyr at hanes Cymru - ei gorffennol hi yn ogystal a'i hamgylchiadau presennol.
Er hyn, yr oedd y dyneiddwyr yn sicr yn ymdeimlo â bygythiad, ac yn wyneb hynny, yr oedd angen pwysleisio fwyfwy ogoniannau'r iaith Gymraeg a'r traddodiad Brytanaidd, ynghyd, wrth gwrs, a lladd ar y rhai oedd yn bradychu'r gogoniannau hyn drwy eu 'gollwng dros gof', a defnyddio ymadrodd Gruffydd Robert.
Testun ymffrost cyson gan y dyneiddwyr oedd hynafolrwydd y Gymraeg.
Yn eu rhagymadroddion a'u cyflwyniadau gadawodd y dyneiddwyr inni gorff o ysgrifennu, yn Gymraeg ac yn Lladin, sy'n allwedd, na cheir mo'i thebyg mewn cyfnodau eraill, i ddeall meddwl a chalon cyfnod.
Un o themau cyson y dyneiddwyr yw eu gofid dros dynged y Gymraeg.
'Roedd hi'n gred sylfaenol a mawr ei dylanwad ar feddylfryd y dyneiddwyr Cymreig yn gyffredinol.