Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dynnach

dynnach

Dyna sydd yn ei galluogi nid yn unig i gynnal ansawdd ei ffrwythau ymhell ar ôl y Nadolig, ond hefyd i ddal ei gafael yn dynnach nac arfer arnynt.

." Gafaelais yn dynnach yn ei fraich i geisio'i rwystro rhag ailddechrau cwyno'n uchel.

Dyma'r offeryn sy'n cael ei ddefnyddio i'n hasio'n dynnach wrth Loegr.

Toc roedd yn crynu ac yn llithro ond cydiodd yn dynnach yn ei ffon fagl i gynnal ei bwysau wrth iddo wasgu ei law arall yn erbyn y graig.

Fel yr enillai'r Saesneg dir croeso a bri ar bob llaw, haerai'r beirdd fwyfwy fod serchiadau'i chynefin yn dynnach nag erioed am y Gymraeg.

Tric y gwynt, meddai wrtho'i hun, gan droi drosodd a thynnu ei fantell yn dynnach amdano.

'Na, na, dydw i'n gwybod dim byd,' gwaeddodd Siân wrth i Mwsi wasgu ei arddwrn yn dynnach.

Ond os bydd y cwstard yn cael ei goginio'n rhy hir bydd y rhaffau protein yn cael eu gludio yn dynnach wrth ei gilydd a bydd hyn yn gwasgu'r hylif allan.

Rwyt ti'n ferch mor ddeniadol, felly mae'n rhaid iddyn nhw gael cydio'n dynnach fyth.'

Ac, yn wir, mae hi yn ffresio a phobl yn dechrau tynnu eu cotiau yn dynnach amdanynt a'r gwisgwyr ponchos yn y côr yn diolch am gynhesrwydd y dilledyn.