Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dysg

dysg

Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd yn arfer gan foneddigion a ymddiddorai mewn ysgolheictod a dysg estyn croeso i wyr galluog i'w tai.

Yr oedd gweithgarwch Humphrey Llwyd ym maes mapio - un o feysydd dysg pwysig y cyfnod - yn rhan felly o'i weithgarwch fel hanesydd yn y traddodiad dyneiddiol, corograffig.

Etifeddion oeddynt i'r deffroad ym myd dysg a diwylliant yn y ddeunawfed ganrif a gysylltwn ag enwau megis Lewis Morris ac Ieuan Fardd.

Yn ystod y Dadeni Dysg arferid mwy nag un ffordd o edrych ar hanes.

Yn ystod yr amser a dreuliodd yn Rhydychen y daeth gyntaf o dan ddylanwad y Dadeni Dysg, a dyma'r pryd y dysgodd Roeg a Hebraeg, ieithoedd a fyddai'n waelodol bwysig isso wrth geisio trosi'r Ysgrythurau.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg daeth y chwyldro diwylliannol yr ydym yn arfer cyfeirio ato fel y "Dadeni Dysg" i'w anterth.

Daeth y clas yn Llanddewi Brefi'n ganolfan dysg a diwylliant yn ogystal â bod yn gartref i lawer o weithgarwch cenhadol.

Yr oedd yn fwy o ysgolhaig nag o offeiriad Cydnabyddir ef yn un o'r tri ysgolhaig pur a gynhyrchwyd gan y Dadeni Dysg yng Nghymru y cyfnod hwnnw.

Ef o'i fyfyrgell yn rheithordy Mallwyd, oedd ysgolhaig mwyaf cyfnod olaf y Dadeni Dysg yng Nghymru.

Mae'r diddordeb hwn mewn addysg yn beth a gododd o'r Dadeni Dysg.

Trech oedd ei natur lengar na dysg chwerw y byd.

Cyfeiriodd hefyd at y drychiolaethau o brifeirdd (primitive poets) neu'r 'cyntefigion Beirdd Ynys Prydain', nid amgen, Plennydd, Alawn a Gwron, sylfaenwyr dysg y Beirdd (yn ôl Iolo Morganwg), y drindod a fyddai'n symbylu'r Awen yn ymwybod y Beirdd a ddeuai i'r cylch.

Y mae Angharad Price, fodd bynnag, yn cyfyngu ei thrafodaeth hi i rai sydd gyfuwch a hi ei hun o ran ysgolheictod a dysg gyda'i harddull, mae gen i ofn, yn academaidd anodd a thrymlwythog o derminoleg anghyfarwydd.

Ond nid yw'r ffaith i'r Lladin barhau yn lingua franca dysg, yng Nghymru megis mewn gwledydd eraill, yn newid dim ar frwdfrydedd sylfaenol, ac egniol, y dyneiddwyr dros yr iaith Gymraeg.

Ynddi impiwyd brigau ysgolheigiaeth y Dadeni Dysg ar hen gyff llenyddiaeth Cymru, a ffrwythlonwyd iaith y beirdd gan awelon y Diwygiad.

Cydfodolai'r ymchwil am wreiddiau dysg yn y traddodiad clasurol a grymoedd eraill: yr awydd am weld dysg debyg yn blodeuo yn eu hieithoedd eu hunain, a'r awydd hefyd am ledaenu dysg i'r cyffredin.

Roedd yr eglwys hon hefyd i fod yn ganolfan dysg a diwylliant; yn arbennig addysg i'r ieuenctid.

Agor meysydd dysg - dyna sylfaen dyneiddiaeth, a dyna yn y pen draw a barodd orseddu'r ieithoedd brodorol.

Nid yw'r Dadeni Dysg na'r Chwyldro Protestanaidd ond digwyddiadau bach o'u cymharu ".

Y mae y gyfrol yn byrlymu o edmygedd o'r ysgolhaig y bu ei gyfraniad yn un mor wiw yn ystod cyfnod diweddar y dadeni Dysg.

Daeth y clas yn ganolfan dysg a hefyd yn fan cyfarfod i bobl o gyffelyb anian.

Yr unig gymhwyster a fynnai Eglwys Lloegr gan ei phregethwyr oedd gradd mewn prifysgol - sef dysg, ac nid duwioldeb, a allai ddod gyda phrofiad mewnol yn unig.

A chaniata/ u na wyddom nemor ddim am y cymorth a roes dylem gofio y disgrifir ef fel un o gynrychiolwyr pwysicaf y Dadeni Dysg yng Nghymru.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymrwymo i uniaethu ag unrhyw gymuned sy'n brwydro i gadw eu hysgolion ar agor a'u datblygu fel canolfannau dysg a chyfathrebu i'r gymuned.

Yn hytrach na bod ar y clwt mi gynigiais fy ngwasanaeth yn haelfrydig i Bwyllgor Addysg Lerpwl ac mi fynegais barodrwydd i gyfrannu dysg a gwybodaeth mewn unrhyw ysgol y gwelai'r Awdurdod yn dda fy ngosod ynddi.

Y peth hanfodol yn llenyddiaeth y Dadeni Dysg oedd troi ohoni oddi wrth fyd digyfnewid y pethau tragwyddol .

Dysg ein cenhedlaeth ni i fawrygu'r fraint honno gan ddiogelu ffrwythlonder y ddaear a chydnabod mai dy drefn Di'n unig a sicrha degwch i blanhigion ac anifeiliaid ac i blant dynion.

Ystyrid yr ieithoedd brodorol yn rhy ddiffygiol mewn dysg a disgyblaeth i'w defnyddio ar gyfer gwneud trosiadau boddhaol ohono.

Gwelir rhyw gymaint o ddylanwad Lladin a Groeg yng ngwaith rhai o awduron rhyddiaith y Dadeni Dysg: meddylier, er enghraifft, am ragymadrodd Gruffudd Robert i'w Ramadeg Cymraeg, lle y mae'r awdur yn amlwg yn efelychu dulliau Plato a Cicero o ysgrifennu deialog.

Ond yr oedd yn Morris- Jones, a dysg y Brifysgol a enillasai'r genedl iddi ei hun, trwythwyd holl lenyddiaeth Cymru â moddau a meddyliau newydd.

Caiff Gwobrau Beacon eu cyflwyno i fentrau sy'n hybu a chefnogi dysg a hyfforddiant.