i) i bwysleisio parhad dysgeidiaeth uniongred a gynrychiolid gan yr esgobion;
Un o nodweddion Dyneiddiaeth oedd dechrau tanseilio'r hen gred fod y bywydsawd yn gread i'w ddeall yn ôl dysgeidiaeth Tomos Acwin fel priodas rhwng Natur a Gras.
Newydd ddod i Gymru yr oedd Anglicaniaeth (neu ryw wedd arni), ac yr oedd dysgeidiaeth a gwybodaeth grefyddol yn brin iawn yma.
Arwyddocâd hyn yw fod gwaith mawr yn ein haros i dorri trwy'r rhwystrau meddyliol a chymdeithasol sy'n atal Cristionogion yn gyffredinol rhag mabwysiadu safbwynt sydd mor amlwg gyson â dysgeidiaeth Iesu Grist.
Arferai hawlio ym mlynyddoedd ei aeddfedrwydd nad oedd yn gwneud dim ond dilyn yr hen dadau Methodistaidd yr oedd cenhedlaeth ei dad wedi gwyro oddi wrth eu dysgeidiaeth.
Eu nod hwy oedd amddiffyn Cristionogaeth yn erbyn ymosodiadau paganiaid ac arddangos rhagoriaeth ddeallusol ac athronyddol ei dysgeidiaeth a'i safon foesol uwch.
Ymddengys mai dysgeidiaeth i'w chredu oedd Cristionogaeth, a deddf i'w chadw.
Effaith gweithgarwch hereticiaid fel y Waldensiaid a'r Lolardiaid a'r Hussiaid oedd tanlinellu ofnau'r awdurdodau o ddyddiau Innocent III i lawr at drothwy'r Diwygiad Protestannaidd mai rhwygo undod a dysgeidiaeth a magu annisgyblaeth a gwrthryfel a ddeilliai o roi rhyddid i leygwyr ddarllen yr Ysgrythur.
Pan geisir olrhain dysgeidiaeth yr Hen Destament ar gwestiwn cenedl, deuir wyneb yn wyneb â'r broblem a drafodir ymhob ymgais i ddadansoddi hanfod cenedligrwydd, sef y gwahaniaeth rhwng 'pobl' a 'chenedl'.