Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyst

dyst

Byth er y dydd hwnnw y bu'n dyst anfodlon i foddi Betsan, mynnai'r hen wreigan ymwthio i'w ymwybyddiaeth, yn enwedig pan dueddai i'w gysuro ei hun fod popeth yn llaw Duw.

Ond gan iddynt fod yn dyst i wyrth porthi'r pum mil digon anodd yw deall eu syndod, ac anos yw deall eu caledwch a'u dallineb ysbrydol.

Chaiff Cadi Pierce byth roi ei throed i lawr yn Nhyddyn Bach.' Wrth iddi adael, pan ddaeth Catherine Pierce i gymryd ei lle, gofynnodd John iddi a fyddai hi'n fodlon bod yn dyst petai rhywbeth yn digwydd iddo.

Ceir cofebau a chroesau o garreg sy'n dyst i weithgarwch Cristnogol cynnar ac adlewyrchir enwau'r saint yng Nghymru mewn enwau lleoedd megis Llandeilo, Llanddewi, Llansantffraid.

Bum yn llygad dyst i'r campau hyn fwy nag unwaith.

Perthynai'r ddwy, yn eu ffyrdd gwahanol, i fudiad llenyddol pur boblogaidd yn Ffrainc tua dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg: mudiad a welai ar y naill law ymgais i gysylltu'r chwedl Arthuraidd (cyfraniad mwyaf Cymru i ddychymyg Ewrop, o bosibl) â chyfnod y Testament Newydd a sefydlu'r Greal Sanctaidd yn un o brif themâu llên Ffrainc, a mudiad a oedd yn dyst ar y llaw arall i symud pendant oddi wrth yr hen arfer Ffrengig o gyfansoddi naratif ar fesur ac odl i lunio stori%au rhyddiaith.

Bu'n dyst i fwrlwm rhyfeddol iawn: 'Yma', meddai, 'y mae fy enaid wedi teimlo ei ingau dwysaf a'i lawenydd penaf.' Y diwydiant haearn oedd yn teyrnasu yn ystod ei gyfnod ef yn Nhredegar, a rhoes Nefydd ddisgrifiad byw o brofiad beunyddiol y gweithiwr haearn yn Nyffryn Sirhywi:

Mae braint uniongyrchol gohebydd yn amlwg - cael bod yn llygaid ac yn glustiau i gynulleidfa na all fod yn dyst uniongyrchol i ddigwyddiad.

Yn wir, fe'i gosodwyd i fod yn dyst yn y byd i ddaioni a gras Duw.

Mae Shell ar brawf yma hefyd, a da yw gweld fod eu cyfreithiwr yn y llys yn dyst i'r hyn a ddigwydd yma heddiw.

Yr hyn a olygir yw'r hyn sy'n digwydd pan mae plentyn yn dysgu iaith, sef ei fod yn dyst i filoedd ar filoedd o enghreifftiau o iaith yn cael ei defnyddio i ddibenion ffwythiannol ac ystyrlawn.

Ni adawodd Duw ei Hun yn ddi- dyst yn ein heglwysi a'n hardaloedd.

Yr hyn syn nodedig am y cynhyrchiad hwn yw'r modd y mae'r gynulleidfa yn llygad dyst mor agos i'r hyn sydd yn digwydd drwy ddilyn yr actorion o amgylch yr adeilad ar gwahanol olygfeydd.

Mae nifer y copi%au llawysgrif o'r ddau destun hyn, ac eraill ar yr un thema, yn dyst i boblogrwydd eithriadol chwedlau'r Greal yn Ffrainc yn ystod y drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn ystod y ddwy ganrif hynny hefyd fe welwyd tuedd - bron na allwn alw'r peth yn ffasiwn - i gyfieithu gweithiau llenyddol o'r Ffrangeg i ieithoedd brodorol eraill gorllewin Ewrop a'r tu hwnt, a'r Gymraeg yn eu plith.

Mae geiriau syml a theimladwy'r llechen yn dyst i ddyngarwch pobl Cuba heddiw:

Yr oedd Glyn Evans o BBC Cymru'r Byd yn dyst i'r digwyddiad gwefreiddiol.

Oherwydd y mae Duw yn dyst inni ym mhob ryw fodd geisio arddangos gair yr Ysbryd Glân yn ei burdeb a'i wir ystyr er adeiladu'r brodyr mewn ffydd a chariad.

Y noson honno enillodd soprano 24 oed, Karita Mattila o'r Ffindir, a roeddem yn dyst fod seren newydd yn esgyn i ffurfafen y byd opera.

Mae'n amhosib i ni ofyn am ohiriad ar y sail ein bod ni'n gwybod am dyst a allai helpu'r amddiffyniad.

Yr oedd hefyd, meddai, yr uwch swyddog olaf i fod yn dyst i'r defnydd o'r ‘gath' i gosbi carcharorion.

Bu'r mileniwm yn dyst i ddarllediad allanol byw mwyaf y BBC gyda'r camerâu yn ymuno yn hwyl cyngerdd hanesyddol y Manic Street Preachers yn Stadiwm y Mileniwm wrth ffarwelio ag un mileniwm a chroesawu mileniwm newydd.

Roedd hi'n dalach na fi a'r diffyg braster ar ei chorff yn dyst i'w bywyd caled ymhlith y bobol gyffredin, y campesinos.

Bur mileniwm yn dyst i ddarllediad allanol byw mwyaf y BBC gyda'r camerâu yn ymuno yn hwyl cyngerdd hanesyddol y Manic Street Preachers yn Stadiwm y Mileniwm wrth ffarwelio ag un mileniwm a chroesawu mileniwm newydd.

Erbyn hyn, penderfynwyd na châi erlyn ddim pellach oherwydd iddo gael ei garcharu am oes am y llofruddiaeth: fe'i galwyd yn dyst yn erbyn Sidley, nad oedd eto wedi cyfaddef i ddim.

* "Mae gen i dyst nad oedd mymryn o fai arna i ond yn anffodus fedr o ddim darllen na sgrifennu ac mae'n ddall a byddar..." LLOCHES

Ymgais i fynegi diolch iddo am y modd y mae'n dyst i safonau ysgolheictod y Gymraeg yn y byd cydwladol hwnnw, fel mewn cynifer o feysydd eraill, yw'r ysgrif hon.