Yn ôl traddodiad, teithiodd San Ffraid yn wyrthiol dros Fôr Iwerydd ar ddarn o dywarchen.
Wedi'r fath golledion arteithiol, gwaethygodd ei iechyd a soniai fwyfwy yn y pulpud ac yn ei ysgrifau am dymhestloedd geirwon, blin gystuddiau, chwerwder marwolaeth, y dywarchen olaf, lleithder y bedd, ac angau a thragwyddoldeb.
A waeth heb a malu awyr am brydferthwch cwysi union gwŷdd main yn sgleinio yn yr haul, a siffrwd y gyllell drwy'r dywarchen, a rhugl y cwlltwr drwy'r pridd wrth i wedd o geffylau porthiannus ei dynnu, a'r certmon rhwng y cyrn yn ei ddal ag un troed yn y rhych ac un goes yn fwy na'r llall drwy'r dydd.