Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hachos

hachos

Cymerais yn ganiatol y byddant wedi paratoi eu hachos yn Gymraeg erbyn hyn.

Welwyd erioed gynifer o Gymry yn dadlau eu hachos yn Nulyn.

Gwaedai fy nghalon dros John Jones druan, am mai o'm hachos i, ar ryw ystyr, y cafodd ei gosbi.

Aeth gweddill y pnawn heibio fel pob pnawn Llun arall, ac os oedd rhyw olwg drist ar wyneb eu hathrawes ni ddaeth i feddwl yr un plentyn mai o'u hachos hwy y tarddodd y tristwch hwnnw.

'Doedd gan Ymddiriedolwyr 'Coffa' druain ddim gobaith i ddenu buddsoddwyr yn eu hachos nhw.

Mae Dafydd Rowlands yn dychwelyd at y thema o barodrwydd yr ifainc i brotestio a dioddef er mwyn eu hachos.

'Dydw i ddim yn deud nad ydi o'n gwybod rhyw ffeithiau anffafriol am Hogan ond dydi hynny ddim yn helpu'n hachos.

Yng nghanol ymosodiad ar y lleiafrifoedd ethnig yn Hwngari, enwodd Kossuth y Cymry mewn rhestr o genhedloedd bach Gorllewin Ewrop na herient iaith genedlaethol y wlad (sef y Saesneg yn ein hachos ni) ond a fodlonai ar feithrin gartref eu traddodiadau diniwed.

Mi ddadleuan nhw eu hachos yn hir ac yn faith tra bo pawb arall yn disgwyl mewn rhes hir tu ôl iddyn nhw.

Y trydydd dydd cyfododd Crist, I gyfiawnhau rhai euog trist; Ac esgyn wnaeth i'r orsedd fry, I ddadlu yno'n hachos ni.

Mae'n debyg ein bod yn dechrau anobeithio tua'r adeg yma, ond er hynny, 'r oeddem yn sicr fod ein hachos yn un cyfiawn, ac na fyddai dadl addysgol na dadl am gostau yn peri i ni newid ein meddyliau bellach.