Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hachub

hachub

Roedd y dynion druain at eu canol yn y môr yn disgwyl am long i'w hachub o Ffrainc.

nes bod ugain o bobl wedi cael eu hachub yn y ffordd hon.

`Peidiwch â phoeni,' gwaeddodd Gunnar, `fe fyddwn ni'n cael ein hachub gyda hyn.' Gwenodd ar ei wraig a'i ferch un ar ddeg mlwydd oed.

Yr hyn sy'n eu hachub yw'r stôr arbennig o eirfa ar waelod pob tudalen.

Yn y cyfamser roedd Janice wedi cael ei hachub gan dynfad.

Bu ei syniadau yn symbyliad i'r llu o wladgarwyr a droai yn ôl at ddiwylliannau gwerinol, gan ymdrechu i'w hachub rhag mynd yn angof llwyr.

Mi gafodd y pedwar eu hachub oddi ar arfordir Penfro ac aed â nhw i Ysbyty Achub Bywyd Gwyllt y Môr yn Aberdaugleddau.

Lawer o flynyddoedd wedi hynny, a minnau wedi dechrau llenydda'n Gymraeg, cymerais yr enw 'Pennar' i'm hachub fy hunan rhag cyffredinedd estron a dilewyrch fy enwau Seisnigiedig, fy nhri enw prin eu swyn.