Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hadad

hadad

Daeth un o'r garfan o hyd i ddalwasg bach mewn cerbyd Eidalaidd a adawyd yn yr anialwch ac, yn ogystal, gydaid o bethau metel amrywiol oedd yn ddirgelwch iddo fe, ond a alluogodd Hadad i wneud sawl jobyn cywrain.

Safai, a'r crwt bach yn gorffwys ar ei chlun, i wylio Dai Mandri'n gweithio ar ddarn o haearn, heb yngan gair ac heb wenu, fel pe bai Hadad yn greadur ar wahân.

Un diwrnod pan oedd Hadad a'i warchodwyr, a oedd erbyn hyn yn debycach i noddwyr, yn aros yn y wersyllfa lle gwelsai Hadad griw'r llong ddiwetha, dyma garafa/ n ramantus, estron yr olwg yn dynesu o'r bwlch creigog ac yn aros wrth ffynnon y balmwydden.

Daeth diwedd y rhyfel heb i Hadad wybod dim am y peth oherwydd fe barhaodd gwrthryfel y Senwsi nes daeth rhyfel byd arall i wthio'r Eidalwyr o'r arfordir ac o'r oasisau yr oeddynt wedi eu meddiannu.

Un noswaith cytunodd y merched i ganu a dawnsio i ddiddanu dynion y ddwy garfan, ac El Hadad yn eu plith, er mwyn dathlu cytundeb ynglŷn â thâl am ddŵr y ffynnon ac am waith y gobeithient ei gael o ddwylo'r gof.

El Hadad oedd ef mwyach roedd ganddo ei babell ei hun a hawl i'w siâr o unrhyw ffawd dda a ddigwyddai i'r llwyth, boed yn ganlyniad ffeirio neu ergyd lwcus at gase/ l.

Poenau a phleserau serch oedd byrdwn yr udo a'r cwafrio a swniai'n rhyfedd iawn i glustiau anghyfarwydd Hadad, er i'r miwsig dynnu ambell Alaah cymeradwyol o enau rhai o'r Senwsi.

Ni wyddai Hadad ddigon am ddaearyddiaeth ethnig a ieithyddol gogledd Affrica i synnu bod bagad o Dwaregiaid yn ymddangos fel hyn rhyw wyth can milltir i'r dwyrain o ffiniau eu cynefin, ac ni ddaeth fyth i ddeall y rheswm am y siwrnai.

Ar gorn ei enw da fel gof y cafodd Hadad gyfnodau byr o brofiadau rhywiol, gyda merched o'r tu allan i'r llwyth, wrth gwrs.

Ni wyddai Hadad chwaith am arfer gwragedd gwerddon Cwffra o deithio i fyny i Bengasi i elwa ar eu cyrff trwy buteinio'n agored, neu gudd, fel morwynion, efallai, i Americanwr neu Brydeiniwr oedd yn byw am ysbaid heb ei wraig ac yn hoff o gwmni yn y gwely.

Yng ngogledd Affrica fe gerdda'r newydd am grefftwr da neu ŵr hysbys dros fil o filltiroedd cyn rhwydded ag y gwna o gwm i gwm mewn gwledydd llai, a digwyddodd hyn, wrth i'r misoedd a'r blynyddoedd fynd heibio, i Hadad.

Ni allai Hadad weld arf ganddo.

Dan fwngial awgrymodd rhai gwyr oedd a gwragedd ifanc y dylid ei ysbaddu, ond roedd hynny'n rhy beryglus i un yn ei oedran ef ac ni allent fforddio ei golli Chwerthin am ben yr awgrym a wnaeth hynafgwyr y llwyth Y gwir oedd nad oedd yr un o'r gwragedd ifanc y daeth Hadad yn agos atynt yn ddeniadol iawn yn ei farn ef, a byddai'n rhaid iddynt hwy dalu â'u bywyd pe baent yn dangos ffafriaeth tuag ato.

Ac fe ddiflannodd pryder gwyr y llwyth ynghylch unrhyw gysylltiad a allai fod rhwng Hadad a'r gwragedd bron yn gyfan gwbl, gan na ddangosai unrhyw ddiddordeb ynddynt.

Gwelodd Hadad gleddyf am y tro cyntaf.