"Yr oedd yr hen orsaf wedi disgyn o dan y safon ers llawer dydd ac os oedd gorsaf newydd am gael ei hadelladu, yna'r amser gorau i wneud hynny oedd tra bod y gwaith ar yr ysbyty ei hun yn cymeryd lle." "Os buasai'r orsaf yn cael ei hadeiladu ar ôl i'r ysbyty newydd gael ei hagor, buasai ail-wneud cynlluniau, rhoi y gwaith allan i dendar a'r anhwylusder trafnidiaeth ar y safle yn golygu y buasai wedi costio mwy na'r angen.