Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hadfer

hadfer

Felly, a yw'r criw yn mentro colli ffilmiau na ellir eu hadfer trwy eu rhoi ar drugaredd yr adnoddau sy'n bodoli neu a ydynt yn dewis bod yn ofalus trwy ddod â'r holl ffilm adref heb ei datblygu?

Mae'r darnau hynny o'r Fwlgat a adawyd allan gan Feibl Mathew am nas ceid yn yr Hebraeg a'r Groeg wedi eu hadfer, ond mewn teip mân a'r tu fewn i gromfachau.

Ar ôl treulio deuddydd yn ymweld â chanolfannau bwydo Mogadishu, lle'r oedd rhywfaint o drefn - a gobaith - wedi'u hadfer, fe ddes i'r casgliad mai cyfleu cymhlethdod newyn yr o'n i am geisio'i wneud.

Yr unig fodd o adfer yr iaith yw ei hadfer o fewn cymdeithasau sefydlog a naturiol Gymraeg.

Yn bwysicach fyth, gall safleoedd mwynau sydd wedi'u gweithio, boent wedi'u hadfer neu beidio, fod o fwy o werth i'r amgylchedd na'r tir a fu yno gynt.

Felly, er fy mod yn poeni am 'safon' iaith fel ein sylwebyddion, y tu fas i'r Cynulliad Cenedlaethol / Cyngor Sir / Cymdeithas Adeiladau / Cwmni Ffôns Symudol y mae lle Cymdeithas yr Iaith i brotestio o hyd; ac nid trwy gynnal darlleniadau cyhoeddus o Ramadeg y Gymraeg yn y gobaith y bydd rhywrai'n cael eu hadfer i ddefnyddio'r treigliad llaes yn ei holl ogoniant.