Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hadnoddau

hadnoddau

Mae sefydliadau cefnogi busnes, cenedlaethol a lleol, wedi cydgyfrannu eu hadnoddau er mwyn darparu llwybr cyflym a syml ar gyfer busnesau i mewn I wybodaeth, cyngor a chefnogaeth o ansawdd uchel.

Er ei bod yn aml yn ddychrynllyd o brin ei hadnoddau ac yn gorfod wynebu anawsterau enfawr, llwyddodd i adael ei hôl yn drwm ar fywyd Cymru.

Trafodwch y ddyletswydd foesol sydd arnom i gadw harddwch naturiol y blaned a chynnal ei hadnoddau fel y gall cenedlaethau'r dyfodol eu mwynhau a chael budd ohonynt.

Mae ein hadnoddau Cyfathrebu Symudol wedi gwella gyda Cherbyd Lloeren Digidol a'n cyfleusterau Ol-gynhyrchu Clywedol wedi eu huwchraddio i gynnwys Stereo Dolby llawn.

Gwelodd y grwpiau athrawon a oedd yn gwbl ddibynnol ar eu hadnoddau eu hunain (i drefnu dyddiadau a mannau cyfarfod, dyblygu a dosbarthu cofnodion cyfarfodydd, meysydd llafur a phrofion drafft, etc.) yn eithaf buan ei bod yn amhosibl iddynt barhau.

Ceisiwyd hefyd greu cronfa ariannol newydd a elwir y GEF (Global Environmental Facility) mewn ymgais i ffynonellu arian i'r Trydydd Byd gan fod cymaint o'n hadnoddau bywydegol yn y gwledydd tlawd.

Mae'r llyfr hwn yn ychwanegiad tra gwerthfawr at ein hadnoddau brwydro.

Fe orlifodd y boilyr yn storfa'r ysgol ddydd Iau diwethaf gan ddinistrio tipyn o'n hadnoddau.

Gwyddom y pryd hynny pa mor brin yw ein nerth a pha mor dlawd yw ein hadnoddau.

Dadleuai rhai, megis yn arbennig D. J. Davies, Pantybeiliau, fod y Blaid yn gwario gormod o'i hadnoddau ar yr ardaloedd Cymraeg gan esgeuluso'r rhanbarthau poblog Seisnigedig yn y De-ddwyrain.

Yna allan ag ef i archwilio'r dref a'i hadnoddau, a synnu bod glan y mor mor atyniadol, bod y machlud mor ysblennydd, a'r tonnau bychain, anesmwyth yn sibrwd yn rhamantus wrtho.