Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hadwaith

hadwaith

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

Y gwir yw ein bod, yn ein hanwybodaeth a'n hadwaith yn erbyn oes orgrefyddol, yn tueddu i ddibrisio crefyddwyr y ganrif o'r blaen, gan eu gweld fel pobl sych, anymarferol; bu'n well gan lawer ohonom eu gadael ynghwsg rhwng cloriau cofiannau ac esboniadau llychlyd ein siopau llyfrau ail-law.

Ni ddaeth yr un deigryn (yn fy ngþydd i, beth bynnag) yn sgîl ei hadwaith call i'r penderfyniad þ er fy mod i yn wylo cawod o ddagrau y tu mewn.

Ond eu hadwaith hwy oedd gofyn iddo gwestiynau ynglŷn â gwir safle Eglwys Loegr yr oedd ef yn ei chael yn fwyfwy anodd i'w hateb.