Nid oes neb yn fwy haeddiannol o'r clod.
Yr oedd yn deyrnged haeddiannol, wrth gwrs, i weinidog Wesleaidd ac i'w statws fel Cymro a llenor ar ddiwedd y tri degau.
Cafodd fy nhipyn haerllugrwydd ei geryddu gan Gymro adnabyddus a berchir yn haeddiannol am ei ymlyniad wrth heddwch ac wrth Gymru.
Dwi ddim yn argymell chwarae budr o gwbl, a dylsai unrhyw un syn anghyfrifol ar y cae dderbyn cerydd haeddiannol.
Neil Jenkins a Peter Rogers Neil Jenkins, y sgoriwr pwyntiau heb ei ail, oedd testun Working Class Hero, teyrnged haeddiannol i'r arwr rygbi diymhongar hwn.
Pan ddeuai'r rheolwr wyneb yn wyneb â Phil gellid meddwl fod dau gydradd wedi cyfarfod â'i gilydd, a pheth cwbl haeddiannol oedd barn y rheolwr mai Phil oedd y gweithiwr gorau yn y gwaith.
Credaf mai dim ond trwy gydweithio y gallwn gynnig y cyfle cyfartal haeddiannol i holl blant Cymru.
Roedd yn fuddugoliaeth haeddiannol i dîm Arsene Wenger.
Cafwyd ail gyfres haeddiannol o Peter Karrie Unmasked ac roedd awyrgylch bywiog wedi'i warantu gyda chymysgedd difyr ac annisgwyl o westeion megis Bernard Manning a Patrick Moore.
canlyniad y llwyddiant oedd i'r mudiad heddwch gael hwb pendant a haeddiannol ymlaen ac i'r gymdeithas heddwch ennill amlygrwydd a chyhoeddusrwydd iddi hi eu hun a'i gwaith.
Mentrwn innau awgrymu fod Elphin yn yr wyth soned hyn, os nad yw'n cyrraedd uchelderau De Musset a Novalis, ac er gwaethaf ei adfeiliaeth ber-bydredig fin de siecle, wedi cyrraedd lefel o orffennedd deallus sy'n tra-rhagori ar lawer o feirdd y ganrif ddiwethaf a gyfrifir rywsut yn haeddiannol o'n sylw.
Rhwydodd prif sgoriwr Mansfield, Chris Greenacre, o'r smotyn ac yr oedd y tîm cartre wedi cael eu triphwynt haeddiannol.
'O leia roedd yr achos 'ma'n un haeddiannol, felly dydw i ddim yn cwyno.
Aeth Y Barri yn haeddiannol ar y blaen wedi dim ond wyth munud.