Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

haeddu

haeddu

Os medrwch chi gadw wyneb syth yn ystod yr eiliadau nesaf mi fyddwch chi'n haeddu clamp o fedal.

Ac y mae Gwasg Carreg Gwalch nid yn unig yn haeddu ei chanmol am ymgymryd a'r dasg enfawr hon ond hefyd am sicrhau fod y gwahanol gyfrolau yn cael eu cyhoeddi o fewn amser rhesymol i'w gilydd.

Yr oedd wedi gosod y safon iddo ef ei hun mor uchel fel yr oedd ei ddiffygion yn wastadol ger ei fron; ond edrychai ar eraill, nad oeddynt, yn ôl fy meddwl i, yn haeddu eu cymharu ag ef, gydag eiddigedd.

Fe glywsoch fod y Cynghorydd Huw Pyrs yn ymfudo i'r America?" "Do." "Wnaeth o ddim byd erioed i haeddu bod ar Gyngor y Dref.

Felly, beth bynnag a ddywedir i'r gwrthwyneb, y mae'n cyfrannu i'r diwylliant Saesneg, gan haeddu cerydd ei gyd-Gymry o'r herwydd.

Yn aml fe elwir Cymru yn 'Wlad y Cestyll' ac mae'n llawn haeddu'r enw gan ei bod yn gartref I rai o enghreifftiau mwyaf arbennig a phwysicaf Ewrop o adeiladwaith canoloesol.

Yn ol Mr Bob Owen Croesor, "Mae Betsi yn haeddu cael bod mor enwog a neb o ferched Cymru."

Bod yr ACs yn cael adeilad, crand, gwerth chweil, gennym ni ar ôl iddyn nhw ddangos eu bod nhw'n haeddu bod mewn un.

Dywed Undeb Rygbi Cymru nad oes dim a all ef ei wneud yn y mater - a dydi hynnyn synnu neb - a phenderfynodd clwb Chris Stephens, Penybont, mai dim ond dirwy yr oedd yn ei haeddu - nid gwaharddiad.

Dim ond pan fydd staff yn edrych ar ddefnyddwyr y gwasanaeth fel pobl gydradd a'u trin efo'r parch y mae pobl cydradd yn ei haeddu y byddant yn datblygu eu hunan-werth.

Dychwelodd y gynulleidfa at Peter Karrie - Unmasked yn wythnosol ac mae'r gyfres wedi haeddu cael ei hail-gomisiynu.

Roedd Ffrainc yn haeddu ennill oherwydd y gallu sy ganddyn nhw ar talent ar sgiliau - roeddwn nhw'n werth eu gwylio oherwydd roedd y gallu ganddyn nhw i fynd ymlaen.

Mae'r defnydd hwn o wahanol Foddau'r Ferf yn amrywio tôn gyffredinol y Llythur, sy'n gymysg o bendantrwydd y Mynegol ac oferedd y Dibynnol i amwyster y Gorchmynnol sy'n cyfuno'r diffyg amynedd efo'r dyn pengaled pwl ei oleuni a'r parch a'r anwyldeb y mae'n ei haeddu fel unigolyn rhydd a chanddo'r hawl i ddewis.

Dim ond ychydig iawn o bethau y gallaf eu bwyta ac mae fy nghwsg mor debyg i ddeffro fel nad yw'n haeddu'r enw bron.

Norman, y dyn camera, â pherfformiad yn haeddu Oscar, achubodd y sefyllfa.

Geisio sefydlu Fforwm Addysg i Gymru i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i ddarparu adnoddau digonol Mewn cyfnod pan fo'r Cynghorau newydd yn gyffredinol yn cael eu llesteirio gan fanylion ad-drefnu, mae cynghorwyr Ceredigion yn haeddu clod am geisio gweledigaeth o drefn addysg deg ar gyfer y dyfodol.

Ddydd Iau dywedodd yr Arlywydd Clinton bod pobol America'n haeddu canlyniad teg a thrylwyr yn yr etholiad Arlywyddol.

Dyma drydedd nofel Shoned Wyn Jones ac mae nofel sydd yn ddarllen byrlymus rhwydd fel hon yn haeddu derbyniad gwresog.

Maen fater o farn a yw'r gwr a ddaeth yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn haeddu y fath deyrnged ac y maen destun dadl air trwy gyfres deledu o'r fath y dylid talu'r deyrnged honno i arweinydd gwleidyddol, beth bynnag.

Bloeddiodd rhywun: `Da iawn Harvey.' `Dyna arwr.' `Mae e'n haeddu'r fedal.' Ni ddywedodd Harvey air.

Mae Iestyn Thomas a Deiniol Jones yn haeddu cael eu dewis, meddai Rowland Phillips.

Fe ddadleuwyd fod Senedd yr Alban yn haeddu grymoedd deddfwriaethol gan fod y wlad honno a'i chyfundrefn gyfreithiol ei hun.

Weithiau mae ganddyn nhw stori fawr pam y maen nhw'n haeddu triniaeth arbennig.

Mae ymgais llenyddol felly nid yn unig yn peri i'r Groegiaid ymddangos yn fwy fel bodau dynol ac yn nes at fyd a diwylliant y darllenydd o Gymro, ond hefyd yn rhoi tras uchel ac urddasol, fel petai, i un o ffurfiau llenyddiaeth Gymraeg, trwy ddangos ei bod, os nad yn tarddu yn uniongyrchol o'r ffurf gyffelyb mewn Groeg neu Ladin, o leiaf yn ddigon tebyg iddi i haeddu parch cyfartal.

Nid yn unig oherwydd ei lafurwaith yn cynnal colofnau cerdd dant yn Y Cymro a'r Brython y mae Dewi Mai o Feirion yn haeddu clod.

(ii) Ymdrin â phob cais cynllunio unigol sydd yn effeithio ar yr holl Ddosbarth, neu ran eang o'r Dosbarth, neu sydd mewn unrhyw agwedd arall mor anghyffredin nes eu bod yn haeddu sylw'r Cyngor.

Roedd De Affrica yn haeddu eu buddugoliaeth.

A thestun ei orfoledd yw fod Iesu Grist wedi cymryd y bai am ein pechodau a marw'r farwolaeth yr oedd ef, y pechadur, yn ei haeddu.

Disgynnodd ar ei phennau gliniau yn y fan a'r lle ac meddai, "Arglwydd, dydw i erioed wedi haeddu'r enw 'Mam'.

Hyd yn oed yn llyfrau hanes y blynyddoedd a ddaw, mae'r uwch-gynhadledd honno a'r rhai a'i dilynodd yn debyg o haeddu mwy na throed- nodyn.

Unwaith inni weld sut un ydyw a'r math o anawsterau y mae'n eu hwynebu yn feunyddiol wrth geisio crafu bywoliaeth yna daw yn gyfaill inni, neu o leiaf yn rhywun sydd oherwydd ei ymdrech i gael dau ben llinyn ynghyd yn haeddu ein cydymdeimlad a'n cymorth.

Ond mae lot o fechgyn eraill yn whare'n dda a ddim yn cael y sylw maen nhw'n haeddu.

'Felly ro'dd e'n eitha profiadol ac yn haeddu bod yma.

Ar ôl hynny ces i wythnos bant ac rwy'n meddwl i mi ei haeddu!

Nawr, os deallodd o hyn, mae on gwir haeddu bod yn Brifweinidog.

Hwyrach fod y cymhelliad hwn yn fwy anymwybodol na dim arall; ond y mae'n ffitio yn dda mewn cyfnod pan oedd nifer o feirdd ac ysgolheigion yn ceisio ailsefydlu safonau newn llenyddiaeth Gymraeg, a phrofi o'r newydd ei bod yn haeddu lle pwysig ymysg llenyddiaethau'r byd.

Y maen ardderchog ar Llyfrgell Genedlaethol yn haeddu canmoliaeth am y gwaith.

Mae'r ymdrechion hyn ynghyd â'r gwaith wnaeth y gwirfoddolwyr yn dosbarthu a chasglu amlenni o dy i dy yn haeddu'n diolch.

Cafwyd canmoliaeth fawr ganddi, fod y gwaith yn llawn haeddu mynd ymlaen i Lanelwedd.

Mewn llythyr yn Y Cymro mae'r Athro DJ Bowen (un sy'n haeddu'r anrhydedd ei hun) yn cynnig enw Meredydd Evans.

Pennu cornel arbennig yn benodol ar gyfer y bobol hyn sy'n ystyried eu hunain mor bwysig eu bod yn haeddu ffafrau arbennig.

Wnaed y nesa' peth i ddim i liniaru'r newyn yn Somalia, nes ei fod yn haeddu cael ei alw'n newyn gyda'r gwaetha' yn hanes dyn; doedd gan newyn a haeddai ei alw'r gwaetha' yn Nwyrain Affrica ddim o'r un dynfa, mae'n amlwg.

Trueni hefyd na fyddai gorsafoedd eraill yn cefnogi y criw talentog yma, oherwydd yn sicr mae nhw'n haeddu cynulleidfa yn Lloegr hefyd, yn hytrach nac yng Nghymru yn unig.

Rwyt ti'n haeddu rhyw bethau bach ychwanegol a mwynha nhw'n llawn.

Go brin bod y Gymdeithas yn haeddu'r disgrifiad o fod yn fudiad torfol ar unrhyw adeg yn ystod ei bodolaeth.

"Na," meddai gn godi'r siwt fach neilon oedd yn swp gwlyb ar y llawr, "dydw i ddim yn mynd i'ch curo chi er eich bod chi'n llawn haeddu hynny, ac fe fyddwn i wrth y modd yn crasu'ch pen ôl chi."

Cafwyd trafodaeth frwd ar y pwyntiau uchod yn y cyfarfod ar yr 2il o Chwefror, a phenderfynwyd fod y mater yn haeddu trafodaeth bellach mewn Is-Bwyllgor Ymgynghorol.

Mae'r llyfr hwn yn drysorfa o hanes eglwys, ac yn llwyr haeddu y gwarchod gofalus fu drosto ar hyd y blynyddoedd.

Bydd y rhelyw o rhain yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed, ac felly, yn haeddu cydymdeimlad a ddealltwriaeth.

Peidio mynd yno'n y lle cyntaf, ti'n dweud, ei adael yn ei dwll i edwino a phydru, fel mae e'n haeddu!

Yn sicr mae Mc Mabon yn haeddu cydnabyddiaeth am y gerddoriaeth arloesol mae o'n ei gynhyrchu.

Yr unig beth negyddol a ddwedwn i am y gyfrol yw fod rhan rhy helaeth ohoni yn yr adran "Amrywiadau", gyda nifer fawr o gerddi wedi eu seilio ar y pennill "Bachgen Bach o Felin y Wig" ond wedi dweud hynny, mae unrhyw un sydd yn gallu gwneud cywydd neu awdl ar y fath bwnc, a chodi gwen ar yr un pryd, yn haeddu canmoliaeth fawr.

Esboniodd Pamela ei bod wedi sylweddoli eu bod hwy oll yn bechaduriaid euog ac yn haeddu llid Duw a chyda hyn gwahoddodd wraig y llety i benlinio gyda nhw.

Bu Gruffydd druan yn poeni dipyn ar hyd ei oes a oedd ef wedi haeddu ennill y pryd hynny neu beidio.

Ond, ta waeth, siawns nad oedd o'n haeddu'r gorau am unwaith yn ei fywyd.