Y gwir yw fod llenorion yr ansicrwydd anwadal fel Williams Parry a Pharry-Williams wedi llwyddo i greu llenyddiaeth eneiniedig ac ysgytwol heb ddilyn na Phantycelyn na Gide, a bu Saunders ei hun yn hael ei glod iddynt.
Mae'n gyfiawn, gan ddilyn y gyfraith yn agos, mae'n hael, mae'n drugaroga ac y mae'n dewis rhyfel pan nad oes dewis arall.
Mae Gwilym a Kitty Griffiths yn gefnogol iawn i lawer mudiad ym mro'r Arwydd a diolchwn iddynt am eu diddordeb hael i'r Arwydd hefyd.
Bu'r cydweithio yn dda a rhoddwyd yn hael, a'r cyfan yn rhoi peth ystyr i'r geiriau "gwneuthurwyr y Gair".
O'r cychwyn cyntaf, mae'r bardd yn gwneud sbort am ben y rhai hynny sy'n cymryd y grefft ormod o ddifrif, a'r parchusion hynny sy'n uchel eu hael a'u hagwedd.
Os oes gennych efnogwyr hael, a'ch bod wedi colli ston o leiaf, yna gallech obeithio cael persawr, 'after-shave'.
Dymuna'r Pwyllgor ddiolch yn hael i bawb a roes gyfraniad hael mewn amrywiol ffyrdd ac am bob cydweithrediad er hwylustod y trefniadau.
Diolch byth bod yr hen roddwr hael yn cymryd ei dalu mewn darnau plastig meddyliaf wrth fy hun wrth ymuno â'r ffyliaid dyledus eraill sy'n llifo o gwmpas honglaid o warws a'i lond o deganau a rheiny res ar res o'r llawr i'r to ugain troedfedd a mwy uwch fy mhen.
Bu hefyd yn noddwr hynod o hael i rai o feirdd enwocaf ei gyfnod athroes Abergwili yn un o hafnau mwyaf croesawgar a dymunol yr oes i lenorion.
Gyda Barry John yn hynod hael ei ganmoliaeth i Arwel Thomas yn dilyn y gêm yn erbyn Samoa yr oedd yn anodd deall pam y bu Graham Henry mor grintachlyd â disgrifio perfformiad y maswr bach fel adequate yn unig.
Mae'r Cyngor Celfyddydau yn cydnabod - er nad yn hael gydnabod - hawliau diwylliant Cymraeg.
Yr un modd dangosodd ef a Mrs Davies letygarwch hael yn y mans, Tre Hywel, Ffordd y Garth Uchaf, tuag at y llu myfyrwyr a ddeuai i Fangor.
Buont yn hael eu cyfraniad i ganu corawl yn y sir yma ar hyd y blynyddoedd hefyd.
Methai Merêd â diolch digon i Mali a Robin am eu gofal a bu Dilys hithau'n ddigon hael; ei diolch cyn ymadael.
Datblyga Pryderi'n ŵr hael a charedig, gŵr sydd weithiau'n adlewyrchu balchder a thuedd i weithredu'n fyrbwyll yr hen drefn, ond eto gŵr dewr a chywir sy'n barod i roi ei fywyd ei hun er mwyn diogelu ei bobl.
"Mi glywais fod Monsieur Leblanc yn hael iawn y dyddiau yma," gwenodd, gan agor y map ar y gwely.
Eglurodd y dieithryn fod y cwmni oedd newydd gyrraedd yn barod i dalu am gyflenwad bychan o ddŵr, ac y talent yn hael am wasanaeth eu gof enwog.
Fe'i gwelaf hi'n awr, dynes fawr, afrosgo, ei ffrog ddu wedi'i lluchio'n fler amdani o dan y brat rhosynnau dilewys a groesai ei bronnau hael.
Lawer tro dros y blynyddoedd rhoes barnwyr ar y fainc fynegiant hael i'w hedmygedd o'i adroddiadau.
Ar y rhaglen, fe glywn Bryn yn talu teyrnged hael i Towyn.
Y gwir amdani oedd fod y ddarpariaeth yn afradlon o hael.
Cydnabuwyd mewn ysbryd hael iddo ymestyn dylanwad Plaid Cymru o ffiniau cyfyng y Gymru Gymraeg i weddill y wlad.
Yn yr adran ar addysg Maredudd pwysleisir unwaith eto ragluniaeth Duw yn dapraru'n hael ar ei gyfer ynghanol holl genfigen ei garennydd.
Cyfrannodd y dosbarth hwn yn hael at yr arweinyddiaeth leol ym myd busnes, diwylliant a llywodraeth leol.
Mae'r cyfryngau'n hael wrth y bobl hynny, a'r ymddiriedaeth yn un a berchir.
Roedd rheolwr dros-dro Lloegr, Peter Taylor, yn hael ei ganmoliaeth o berfformiad e dîm cymharol di-brofiad.
Mae gwybod hynny'n gysur mewn dyddiau pan fo gwaith mor brin." "Mi wn i hynny, ac yr ydw i'n ddiolchgar am gynnig mor hael.
Nid yw'r symiau'n edrych yn arbennig o hael.
Pe gofynnech pwy oedd y gwr hael hwnnw, efallai y dywedid wrthych mai Deon ydoedd a'i fod yn trigo yn Westminster, yn Llundain, ar un cyfnod.
Yr oedd yn berson hael.
Mae yna ddigon i bawb yma." Er ei fod yn swnio'n hael ac yn garedig, nid oedd golwg rhy hapus ar wyneb y tafarnwr.
Er mai pedair o ganeuon a geir ar EP gan amlaf, mae Gwacamoli yn amlwg yn teimlo'n hael, gan fod yna bump ar Clockwork; ac yn sicr mae hynny'n beth da, gan mai Cwmwl 9 ydi'r gân orau ar yr EP yma heb unrhyw amheuaeth.
Yr oedd cymaint o bethau y gallem fod wedi eu gwneud petai Annibynwyr yn fwy hael eu rhoddion.
A chawsom ddisgownt hael gan westy'r Alvear Palace, un o'r goreuon a'r drutaf yn Buenos Aires - lle bu Fergie yn aros yn ddiweddarach, mae'n debyg.
Mae caredig ferched Jeriwsalem yn arfer paratoi'r diod hwn a'i roi yn hael i'r rhai sy'n mynd i'w tranc." A synhwyrodd rhywrai o wragedd Bwlchderwin felly fod y cawr wedi rhoi un dan y belt i'r corrach?
Felly na ddyweded neb nad yw'r sawl a wertho fferm i Sais yn gwneud ei ran yn hael dros ei wlad.
Gallai fod yn anhygoel o hael a'r funud nesaf yn sbeitlyd reit.
Bu tipyn o glochdar am ben Wil Dafis o'r herwydd felly, ef a'i ragolygon carwriaethol bondigrybwyll ef a'i 'rywun annwyl'; a hael ei gwala fu'r hwyl am ei freuddwydion llancaidd pur uwchben peintiau per yng Ngwesty'r Llong.
Beth sy'n fy nghyffwrdd i bob blwyddyn yw gweld plant yn cyfrannu eu pres poced eu hunain i'r gronfa a hefyd fel mae pobol sy'n aml heb lawer o bres eu hunain yn cyfrannu'n hael i Blant Mewn Angen," meddai.
Hoffwn gydnabod ein gwerthfawrogiad i'n noddwyr hael, Y Swyddfa Gymreig, Banc Barclays, Cymdeithas Adeiladu'r Alliance and Leicester a chymorth ymarferol Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Theledu AGENDA.
'Ef yw ystor cerddorion', 'prydyddion a faeth' medd Dafydd y Coed amdano, 'ei noblau yn fau' medd drachefn am yr 'hael cerddwriaidd', a Dafydd biau'r cyfeiriad tra hysbys at y llawysgrifau a oedd yn ei feddiant: yr Elucidarium, 'Ystoryaeu Seint Greal' (yn ol pob tebyg) ac annales, sef cronicl Lladin neu Gymraeg, fe ellid barnu.
Maen nhw'n cael eu talu'n hael am berfformio a chael canlyniade da.
Rhoddwyd yn hael a diflino o'u harbenigedd a'u hamser gan bawb.
Madog yn para i ddod i'r eglwys yn gyson ac yn cyfrannu'n hael, ac yn mynychu ambell i gyngerdd, a Luned yn cadw fwy neu lai i'r bwthyn.
Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar iawn i'r plant, rhieni a staff yr ysgol am y rhodd hael hon.
Nid rhyfedd fod arweinwyr yr Eglwys yn pendilio rhwng disgyblu llym a goddefgarwch digon hael.
Pan ddechreuodd Seasons roedd Twi yn dioddef yr oerfel ar glaw ar strydoedd Caerdydd; erbyn y diwedd cynigiwyd cartref parhaol iddo gan wrandäwr hael.
Ond roedd pawb yn hael'u canmoliaeth i'r cerflunwyr o Lunden - neb yn meddwl y gellid bod wedi llunio rhywbeth mor fyw o garreg; ac fe ddywedodd y ficer, gan gyfeirio at y llyged treiddgar, y bydde fe'n siŵr y bydde o leia un par o lyged ar agor o'r dechre i'r diwedd yn ystod 'i bregethe fe o hyn allan.