Fydda Nain yn gallu rhoi rhywbeth mor syml â brechdan neu ŵy i ni efo mwy o haelioni, a byddem yn teimlo ein bod yn cael rhywbeth arbennig.
Er nad erys cyfansoddiad o waith Gruffudd ei hun i un o noddwyr y dalaith, y mae'n amlwg iddo brofi o'i chroeso a'i haelioni dirfawr - dywed na fedrai neb yno roi nag.
Erbyn diwedd Awst, fe ddaeth hi'n amlwg wrth sgwrsio â thimau newyddiadurol eraill a oedd yn gwneud yn fawr o haelioni Cronfa Achub y Plant, fod y gêm luniau wedi datblygu.
Yn ddiweddarach y clywodd Rhian am haelioni Bernard Hogan yn anfon siec sylweddol iawn i'w nai.
A gwared ninnau rhag bod yn gwta ein haelioni pan ofynnir inni gyfrannu at y gwaith hwn.
Ceir disgrifiad o fywyd y fynachlog yn y cywydd a ganodd ei gar Rhisiart ap Rhys i'r abad Dafydd, a chanmolir yr haelioni ganddo yntau yn ei foliant.
O ganlyniad i haelioni pobl Cymru, dosbarthwyd papur, pensiliau a llyfrau i naw ysgol oedd wedi eu hamddifadu bron yn llwyr o ddeunydd addysgol.
Serch y daw geiriau teg o du gweinidogion y Swyddfa Gymreig, rhaid i ni gofio mai unplygrwydd y Doctor Gwynofr Evans a roes i ni ein Pedwaredd Sianel, ac nid haelioni'r Fendigaid Fargaret.
Y mae'r Athro Glanmor Williams yn cytuno â'r farn a fynegodd y diweddar R. T. Jenkins yn y Bywgraffiadur am de Gower, "Ei haelioni a'i ysblander fel adeiladydd yw ei glod pennaf", ond y mae am ychwanegu fod Gower, yn ogystal â bod yn wr dysgedig, yn esgob cydwybodol.
Un rhinwedd a ddisgwylid gan wr bonheddig oedd haelioni at y tlawd.
Difyr oedd sylwi ar ffermwyr lleol yn cario llwythi anferth o datws mân i'r warchodfa i fwydo'r gwyddau, ond synnwyr cyffredin yw'r haelioni, ac ystryw i gadw'r adar newynog ar y warchodfa.
Gall diod a haelioni a hapchwarae wacau cadw-mi-gei yn gyflym iawn.
Roedd gan Llewellyn fwy o ddiddordeb ym mrithluniau pobl am y gorffennol nag yn yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd, ac oherwydd hynny, efallai, fe lwyddodd ef i greu darlun mythaidd o gymdeithas, yn gymysgfa o drais a haelioni, o dlodi a dioddef a brawdgarwch, a fu'n faeth i lu o ddehonglwyr ar ei ol, mewn rhyddiaieth ac mewn cerdd.
Diolchwn i Mrs Beti Emmerton am ei rhodd garedig, yr ydym yn gwerthfawrogi ei haelioni yn fawr iawn.
Moel iawn oedd y tir ond roedd yno lewyrch fel petai tonnau fyrdd yr Iwerydd i gyd yn adlewyrchu haelioni'r haul ar yr ynys fach.
CYMORTH CRISTNOGOL: Mae'r Cyngor Eglwysi Y Felinheli yn dymuno diolch i bawb, yn gasglwyr ac yn gyfranwyr, am eu haelioni eto eleni.
Fy safonau i oedd haelioni a rhadlonrwydd a storigarwch, mae'n siwr, ac er fy mod yn mwynhau gweld pobl ddieithr ac yn weddol gartrefol yn eu plith nid oeddwn ddim gwahanol i blant eraill fel na allai ambell 'chwechyn' ac wyneb siriol a stori fy ennill.