Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

haeru

haeru

Ond er haeru mawredd y peryglon o'r tu allan i'r Eglwys cyfrifai'r peryglon yn fwy oddi mewn i'r Eglwys mewn syniadau anghywir--fel meudwyaeth a syniadau diwinyddol fel Apocalyptiaeth, Ariaeth a Milenariaeth.

Ond, fel yr awgrymwyd, 'roedd carfan o'r mudiad a oedd yn barod i ddilyn Newman yn hyn, ac yn tueddu i fynd ymhellach nag ef, hyd yn oed, gan haeru fod gan Eglwys Loegr gymaint i'w ddysgu oddi wrth Rufain ag oedd gan Rufain oddi wrth yr Anglicaniaid.

Mae'n werth dyfynnu'r paragraff hwn oherwydd mae'n dweud mwy am y gwir bryder ynglŷn ag addysg academaidd ac uwchradd nag y mae cyfeiriadau Iolo Caernarfon (er enghraifft) at y Cwrdd Misol yn haeru mai 'hunan a balchder oedd wrth wraidd' dymuniad Dr Owen Thomas i fynd i Brifysgol Edinburgh.

Ond yn y cyfamser, mae'n weddol saff i haeru - saffach nag unrhyw sedd mae hi'n debyg o'i chipio yn San steffan - fod ei henw yn fwy cyfarwydd i bobol na'r un actores ffilmiau aral i Loegr ei chynhurchu yn ystod y chwarter canrif diwethaf.

Bu rhai ysgolheigion yn barod i haeru mai Selot, cenedlaetholwr Iddewig, oedd Iesu, a'i fod yn barod, yn enwedig tua diwedd ei weinidogaeth, i ddefnyddio nerth braich a chyllell i ryddhau ei wlad o afael Rhufain.

Mae haeru mai Caledfryn yn unig oedd yn ei olygu yn groes i dystiolaeth ysgrifenedig y papur ei hun, i ddechrau, lle ceir sôn diamwys am gydolygyddion.

A gallwn haeru hyn gyda chydwybod dda inni ymhob pwynt a gair .

Ond dyma beth sydd wedi fy syfrdanu - dau o weinidogion y goron yn haeru ar y teledu fod mwyafrif poblogaeth y deyrnas yn ei erbyn.

(Rhyfedd, gyda llaw, mor hawdd yw pentyrru ansoddeiriau amrywiol - gwrthgyferbyniol yn wir - wrth geisio cyfleu naws y gwaith; dramatig, telynegol, &c.) Gwiriondeb, wrth gwrs, fuasai haeru mai'r nofel hon sy'n rhoi'r darlun 'cywir'; dehongliad unigolyddol iawn a geir.

Sylwyd, er enghraifft, fod brenhinoedd y Dwyrain - a'r brenin, wrth gwrs, yn cynrychioli ei bobl - yn haeru mai hwy oedd etholedig y duwiau.

Mewn ysgrifen boenus o ddestlus, gwbl unionffurf, fe geir un cwpled gafaelgar, os braidd yn adnabyddus, a buasech yn barod i haeru bod y gŵr a'i hysgrifennodd wedi cymryd ffon fesur i wneud yn siwr ei fod yn union ar ganol y tudalen.