Ond fel bardd, roedd gan y gwybodau hyn rym a chyfaredd tu hwnt i'r hafaliadau, a cheisio mynegi hynny yr oedd.
Wrth gwrs, buasai mathemategwyr a ffisegwyr wrth eu swydd yr un mor gyfarwydd, ac yn fwy manwl gyfarwydd nag ef, yn y materion hyn ond sumbolau a hafaliadau mathemategol yw ffurf eu barddoniaeth hwy.