Yr wythnos hon cynhelir Gwyl Ryngwladol yr Haiku gyda beirdd o wledydd ledled y byd yn ymuno yn y dathliadau.
Pan ddaeth aelodaur Clwb Hiraeth - dynar enw maen nhw'n ei ddefnyddio yn Siapan - i gyfarfod yng nghastell Caerdydd rai blynyddoedd yn ôl - fe ddwedodd llywydd y clwb mai y rheswm fod cynifer o gwmniau Siapaneaidd wedi ymsefydlu yng Nghymru oedd y tebygrwydd rhwng yr Haiku ar Englyn, meddai Aled.
Maen Wythnos yr Haiku - wythnos i ddathlur mesur Siapaneaidd cryno lle costrelir eiliad mewn amser a hynny mewn 17 sill.
Yn y Gymraeg llwyddodd y Prifardd Aled Gwyn i ddwyn y gynghanedd i mewn i'r mesur pan gomisiynwyd ef i sgrifennu Haiku i gyfarch aelodau Clwb Hiraeth, clwb o brif-weithredwyr Cwmniau Siapaneaidd dreuliodd amser yng Nghymru.