Mae y Gorkys yn ôl yn y stiwdio yn gweithio ar eu halbym hir nesa ar gyfer y flwyddyn 2001 pan fyddan nhw'n dathlu deng mlynedd eu bodolaeth.
Er i Zabrinsky fod wrthi ers rhyw bum mlynedd, y llynedd y daeth eu halbym gynta Screen Memories ac ar sail hynny dewiswyd y grwp yn grwp newydd gorau.
Daeth newyddion y bydd Gogz yn cwblhau eu halbym cyn hir o dan oruchwyliaeth Richard Jackson sef cynhyrchydd Big Leaves ac mae disgwyl y bydd yr Ep yn cael ei rhyddhau yn y dyfodol agos - edrychwn ymlaen at hynny.