Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

halen

halen

Yn ddiweddar gwelwyd y pwyslais yn symud fwy tuag at fwydydd iachusol - llai o fraster, llai o halen, llai o siwgwr, mwy o fwydydd iachusol.

"Os y dyn sy'n gorffen y berthynas, byddai'n rhwbio halen yn y briw i ofyn am y fodrwy yn ôl," meddir.

Ar y llaw arall, gallai ddadlau na ddylai Undodwr gwerth ei halen fod hebddo, nid yn unig oherwydd ei waith personol, ond am ei fod yn ddolen gydiol rhwng aelodau gwasgaredig a llinyn bywyd y mudiad.

Ond yn y cyfamser, i roi halen ar y briw, bydd gwrandawiadau yn erbyn Moore a Jenkins yn digwydd rywbryd yn ystod yr wythnos hon.

Mae halen yn arafu twf y burum, ond mae'n rhoi gwell blas i'r toes.Cymysgir yr halen felly gyda'r blawd, fel nad yw'n dod i gysylltiad uniongyrchol a'r burum.

Cymeradwya y ddau Edwards roddi'r halen-chwerw Epsom hefyd pan fo annwyd ar y fuwch, ond fe gynyddid y dôs i un pwys!

Dydi fy chwaer yng nghyfraith ddim yn credu mewn rhoi siwgwr mewn teisan, ac mi wyddost, neu mi fedri ddychmygu, be' ydi teisan gwsberis hefo dyrnaid o halen ynddi hi yn lle siwgwr.

Doedd pnawn Sadwrn ar y Maes Cenedlaethol ond yn brawf pellach o gyn iseled yw pêl-droed yn ein gwlad a dathlu bod yn gyfartal yn halen ar y briw.

Ymddengys y medrai'r halen wella dyn hefyd, oherwydd credai fy nhad yn gryf iawn yn yr halen Epsom, ac fe gymerai Iwyaid ohono cyn gynted ag y teimlai'r oerfel yn disgyn arno.

Rhinweddau'r halen-chwerw Epsom

Gollyngodd ei dannedd gosod i jwg chwart o ddwr a halen, penliniodd i ddweud ei phader ac yna dringodd i'r gwely dwbl i gysgu noson arall yng nghwmni llun Cynddylan Jones a siampler ac arni'r adnod - 'Na thrysorwch i chi drysorau ar y ddaear', mewn ffrâm fahogani.

Fel enghraifft o hyn ceir hanes iddo geisio gychwyn ffatri i wneud halen trwy ymageru dþr y môr ond methiant fu hyn ac erbyn heddiw does dim o olion y gwaith ar gael.

Mae pob awdur gwerth ei halen yn manteisio ar holl amrywiol gyfrwysterau gramadeg i sicrhau'r dôn y mae am ei chyfleu.

Casâi'r wy 'di sgramblo am 'i fod yn oer a di-halen a di-bupur, adi-bopeth arall.

Mae'n arferiad gennyf roddi tair owns o'r halen Epsom mewn peint o ddwr claear i'r fuwch rhyw wythnos cyn ei hamod, gan fy mod yn meddwl ei bod yn well osgoi trafferth na'i gyweirio!

Fe ddywed John Evans yn ei lyfr "Pinsiad o halen" fod Almanac Robert Roberts wedi cael ei brintio yn Iwerddon er osgoi treth y llywodraeth.

'Mi wyddoch chi lle ma' Gilbert.' 'M...Norman ddeutsoch chi gyna',' ebe William Huws wedi cymysgu rhwng yr halen a'r pupur.

'Mae hi'n anodd, ond rydan ni'n ceisio annog bobl i dorri lawr ar fwyta braster, halen, siwgr, a chymryd mwy o ffibr, ffrwythau a llysiau.

Dywed un gohebydd Americanaidd yn un o brif bapurau Lloegr fod saith o gorau Cymreig a saith o gorau Americanaidd yn mynd i gystadlu; ac nid hynny yn unig, ond fod côr Eglwys y Mormoniaid yn mynd i ddyfod o Ddinas y Llyn Halen i gystadlu yn yr Eisteddfod yn Chicago.

Fel enghraifft o hyn ceir hanes iddo geisio gychwyn ffatri i wneud halen trwy ymageru dŵr y môr ond methiant fu hyn ac erbyn heddiw does dim o olion y gwaith ar gael.

Trodd Delwyn ati'n gyflym, 'Tasg bach iawn i unrhyw wrach gwerth 'i halen fydde gosod cynffon wrthi!' Gwyrodd y gwrachod eu pennau.

Rheolir swm yr halen yn y gwaed gan yr arennau hyn hefyd, yr hyn a wneir gan y tagellau yn y pysgodyn.

Digwyddiadau fel sylweddoli fod dy gariad di yn caru rhywun arall ac ar waethaf pob peth, ei fod yn mynd i' d'adael di am y person hwnnw." "Marc, bydd yn rhesymol..." "Rhesymol yw derbyn wedyn fod yn rhaid cael halen ar y briw - mai dy ffrind gorau di yw'r ferch arall yn y darlun." "Wrth gwrs, os oes angen beio unrhyw un, rwy i'n fwy euog na neb.

'Roedd Halen yn y Gwaed yn plymio i ddyfroedd dyfnion pechod a chydwybod yr wythnos hon, mewn pennod o actio grymus.

Mae'r alabaster (neu halen gypsum) a ddefnyddir i wneud 'plastar of Paris' i'w weld yn haenau tenau yn y clogwyn o farl coch Keuper.

Mae'n amlwg fod rhai o gwsmeriaid James Herriot yn credu'n gryf yn rhinweddau'r halen-chwerw.

Dyna a gâi hi, bellach, yn bupur a halen gyda phob pryd bwyd, ei anturiaethau ef ar y Sara Huws, fel y byddai ef yn llanc i gyd yn gwneud plym dyff i'r criw ac yn dringo'r mastiau fel mwnci.

Mae moroedd o wahaniaeth rhwng De Excidio Britanniae a Hunllef Arthur, ond yr un halen sy'n golchi'u glannau.

Nid oes gennyf amheuaeth ei bod yn ddyletswydd ar bob Undebwr gwerth ei halen ymladd deddf mor wleidyddol anghyfiawn a'r ddeddf hon.

Yn wir gellir dod o hyd i alabaster ar draeth Penarth sy'n dangos fod yr ychydig lynnoedd o ddþr oedd ar gael wedi sychu yn y gwres mawr gan adael haenau tew o'r halen gypsum pinc.