Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

halogi

halogi

Felly, cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, am i ti halogi fy nghysegr gyda'th holl bethau atgas a ffiaidd, byddaf finnau yn eillio, ac ni fyddaf yn tosturio; ni fyddaf fi yn trugarhau.

Mae ymosod ar estroniaid a halogi mynwentydd yn ddigwyddiadau beunyddiol yn yr Almaen y dyddiau yma.

Ac yr oedd dyn yn ffyrnigo a ffieiddio am fod y Philistiaid dienwaededig yn mathru'r lle sanctaidd, yn gwaredu am fod yr inffidel ddiddymwr a'i griw mor ddihidio ag a fu Antiochus Epiphanes a'i lu 'rioed, yn halogi'r cysegr a'i droi'n ffieidd-dra an~hyfaneddol yno o flaen ein llygaid:

Pregeth yn hyrddio'r meddwyn i ganol tragwyddol dân a brwmstan oedd y gyntaf, a chan fod aroglau'r ddiod felltigedig, y taranai'r diwygiwr yn ei herbyn, yn halogi'r ystafell ac yn gryf ar bob awel chwyrnol o'r gadair gyferbyn ag ef, teimlai Dan yn anghysurus wrth ei darllen.

Atebais, O Arglwydd DDUW, nid wyf erioed wedi fy halogi fy hun; o'm hieuenctid hyd yn awr nid wyf wedi bwyta dim a fu farw nac a ysglyfaethwyd, ac ni ddaeth cig aflan i'm genau.

Ac y mae Gwylfa a Menai ac Eryri yn awr i'w halogi i borthi trydan Lancashire.