Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hamdden

hamdden

Cafwyd anerchiadau ar destunau penodol, a chynhaliwyd pedwar gweithdy i daclo meysydd penodol megis ysgolion a cholegau, mudiadau ieuenctid, mudiadau a dosbarthiadau Cymraeg a chwaraeon, adloniant a hamdden.

Oes raid iti neud bob blwyddyn?' gofynnodd Robin, ei wrychyn yn codi wrth weld rhai o'i oriau hamdden prin yn cael eu dwyn oddi wrtho eto.

Papur bro Caerdydd sydd yn cynnwys newyddion am addysg, crefydd, chwaraeon a hamdden.

Dylid gorfodi Awdurdodau Addysg, Cynllunio, Tai, Hamdden Gwasanaethau Cymdeithasol i ymgynghori â'r Fforymau Ieuenctid ar faterion perthnasol i anghenion pobl ifanc.

Y mae tueddiad i ni anghofio mai grŵp bychan o blith trwch y gymdeithas yw aelodau'r mudiadau hyn a bod y rhelyw o'r Cymry Cymraeg o gyffelyb oedran yn cymdeithasu mewn cylchoedd gwahanol iawn nad ydynt o'r braidd yn dod i gysylltiad â'r diwylliant Cymraeg o gwbl yn eu cylchoedd hamdden.

Cofiwn am yr oriau maith, yr hamdden prin, a'r cyflog isel.

Cyfarwyddwr Hamdden Ipswich.

Os oes ond ychydig o batrymau ymddwyn positif ar gael, a mynediad cyfyngedig i siopau, llefydd gweithio a gweithgareddau hamdden, yna gellir gwneud hunan-ddatblygiad yn nod ffurfiol.

Ac er mwyn i'r Gymraeg ddod fwyfwy'n rhan naturiol o fywyd yng Nghymru, mae angen iddi fodoli fel iaith sy'n cael ei defnyddio'n gyson gan bobl yn eu bywyd beunyddiol: mewn gwaith a hamdden, yn ogystal ag wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus, gwirfoddol neu breifat.

Mae'r eglwys, oddi allan, yn edrych fel canolfan hamdden.

Rowland Hughes, y ddau fel ei gilydd, am DM Jones: ei fod yn hanfod o Landeilo, fod ei fam yn Saesnes, ei fod wedi ei addysgu yng Ngholeg Llanymddyfri ac wedi caei addysg glasurol dda yno ond heb ddim hyfforddiant yn y Gymraeg, ac mai yn Rhydychen wrth ddarllen yn ei oriau hamdden yr oedd wedi dod i werthfawrogi cyfoeth iaith a llenyddiaeth Cymru ac i ymserchu cymaint yn nhelynegion Ceiriog fel yr aeth ati i'w cyfieithu i'r Saesneg' Mae adroddiad OM Edwards o hanes dechrau'r Gymdeithas ychydig yn wahanol.

Mae'r ardal o gwmpas Cape Town yn un sy'n cynhyrchu gwin, a threuliais ran o'm hamser hamdden i farchogaeth trwy'r gwinllannau, a phellach ymlaen lle roedd melonau a phomgranadau yn laweroedd.

Ar ôl ymweld â mynwentydd yr ardal, chwilio cofrestri'r plwyfi cyfagos a holi rhai o ddisgynyddion y teulu yn nyffryn Aman a'r cylch, cesglais dipyn o wybodaeth am y Wythi%en Fawr, gan feddwl croniclo'r hanes mewn rhyw fodd neu'i gilydd pan ddeuai gwell hamdden yn y dyfodol.

Gan nad oedd arian ar gael i dalu rhywun i'w hadeiladu hi roedd yn rhaid gwneud hyn yn ystod oriau hamdden y bobl.

Ceir yr argraff fod yr adeilad hwn i'w gysylltu â hamdden a phleser.

Y mae meysydd addysg, hamdden, adloniant a chwaraeon er enghraifft yn feysydd lle y gellid creu peuoedd o Gymreictod fyddai'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg fel iaith fyw a pherthnasol i'r gymuned.

cyfoes, chwaraeon, hamdden, y celfyddydau ac adloniant, a chyfle arall i weld rhywfaint o'r cynnyrch gorau o'r gwasanaeth analog a rhaglenni archif gyfoethog BBC Cymru.

yr oedd ganddo hefyd ddiddordeb angerddol yn y gwyddorau ffisegol a mecanyddol, ac ar ôl treulio diwrnod o waith yn dysgu cerddoriaeth, ei arfer oedd astudio gwyddoniaeth yn ei amser hamdden.

Miwsig sy'n mynd â'i fryd yn ystod ei amser hamdden yn hytrach nag actio.

Mae hefyd yn rhestru cerddoriaeth a chanu ymhlith ei weithgareddau hamdden gan ei fod yn gyn-gadeirydd côocirc;r cymysg Godre'r Garth ac yn aelod o Barti'r Efail, parti cerdd dant sy'n cyfarfod yn Efail Isaf.

Marchnadoedd Agored - Gweler hefyd hawliau'r Pwyllgor Gwasanaethau Technegol a Hamdden.

un noson, wrth gyfansoddi darn o gerddoriaeth, daeth fflach o weledigaeth, ac o hynny ymlaen ymroddodd yr oll o'i oriau hamdden i ddatblygu ei syniad, ac i adeiladu model gweithredol.

Wedi tymor dyfal o weini ar blant gofidiau, bydded bendith ar aelwyd y meddyg mwyn yng nghyfnod yr hamdden a haedda.

Roedd hamdden i wneud rhywbeth felly yng Nghymru bryd hynny ac yn Iwerddon hyd heddiw, ni fyddai hynny'n beth anghyffredin.

Gweithgarwch ysbeidiol oriau hamdden oedd barddoni a chystadlu i'r prydyddion hyn, ac er y gallai gwobr eisteddfodol ychwanegu ryw ychydig at economi'r teulu, ni allodd yr un o'r prydyddion hyn fyw ar eu henillion cystadleuol.

Erbyn hyn esblygodd yr Adran Addysg Gorfforol yn Ysgol Chwaraeon, Addysg Gorfforol a Hamdden.

Dechreuodd fel prentis crydd, ac y mae ef a Daniel Owen yn enghreifftiau da o'r dosbarth o grefftwyr yn y ganrif ddiwethaf sydd yn eu hymdrechion i ddod o hyd i lyfrau da, i'w darllen, ac i ymddiwyllio arnynt yn gyfryw ag y dylent godi cywilydd wyneb arnom ni yn y ganrif hon gyda'n haddysg rad, ein horiau gwaith cwtogedig a'n horiau hamdden helaeth.

Wedi rhoi'r gorau i ffermio a mynd yn drethwr, bu fyw yn llawer mwy hapus ac yn eithaf cefnog ei fyd, ac roedd ei swydd yn caniata/ u iddo gryn hamdden gyda'i lyfrau; ac ni fu neb yn caru llyfrau fwy.

Yn ol ei sairter, mae gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Clwyd yn bodoli er mwyn diwallu anghenion dinasyddion Clwyd o safbwynt diwylliant, gwybodaeth, addysg a hamdden.

Yr oedd y pwyllgor wedi rhannu'r arian rhwng Canolflannau Hamdden Caernarfon a Bangor (er mwyn cael cadeiriau arbennig i'r anabl); Cangen Gwynedd o 'Headway'; Clwb Hŷn Gateway a Chlwb Strôc Ysbyty Gwynedd.

Ar yr un pryd, wrth gwrs, rhaid dweud y câi'r dychweledigion, wrth ddarllen, fwy o hamdden i ddatod y dyrnau hyn nag a gaent wrth wrando.