Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hamddena

hamddena

'Roedd mwy o amser i hamddena ar ôl i'r undebau ymladd am lai o oriau gwaith ac ar ôl cyllideb chwyldroadol Lloyd George.

Rhaid felly sicrhau fod cyfleoedd ar gael i bobl ddefnyddio'r iaith yn naturiol wrth ddelio â'i gilydd, wrth hamddena neu wrth eu gwaith.

Mae'n bwysig hefyd sicrhau fod meddalwedd pwrpasol yn parhau i gael ei ddatblygu ar gyfer y Gymraeg er mwyn hwyluso'r cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith wrth gynnal busnes ac wrth hamddena.

Y mae'n cynnig cyfleoedd di-ri ar gyfer hamddena, yn amrywio o gerdded yn dawel i farcuta.

Wrth sgrifennu nofel, mae amser i newid cywair a chyfeiriad, i grwydro ar hyd ambell lwybr cymharol ddiamcan oddi ar briffordd y stori, i hamddena a gwagswmera.

ond wedi'r adeiladu gadawyd llynnoedd newydd - ac fe ddatblygwyd y rheiny yn eu cyfnod i'w defnyddio i hamddena.

Tseineaid yn prysuro rhwng siopau bychain Chatham Road North, yn diflannu i wyll y mân weithdai sy'n agored i'r stryd, neu'n hamddena yn y parc bychan coediog sy'n gorwedd yng nghesail cilgant stryd Wo Chung ac yng nghysgod y pileri sy'n cynnal heol Fat Kong uwchlaw.

Adeiladwyd llawer o gartrefi modern, ac y mae cyfleusterau siopa a hamddena'r dref ymhlith y goreuon ym Mhrydain.