Os nad oedd eu teimladau tuag at Heledd yn ddigon i'w hatal rhag ei thrin hi fel y gwnaethon nhw yn y lle cyntaf, yna rhagrith fyddai hi iddyn nhw ymddwyn fel petai canlyniad eu hamddygiad yn mennu llawer arnyn nhw nawr." "Rwyt ti'n siarad yn ysgubol iawn - bron fel petaen nhw wedi cynllunio'r peth mewn gwaed oer." "O, mi wn i; siarad yn fy nghyfer roeddwn i.