Go wantan oedd fy ngafael ar y Gymraeg, ac felly hyd yn oed pe bawn wedi awyddu dilyn y - gwasanaeth yn ddefosiynol, 'fedrwn i ddim, am fod iaith y bregeth a'r weddi a'r llithiau y tu hwnt i'm hamgyffred fel rheol.
Ei chryfder yw ei hamgyffred eithriadol o sefyllfa a chymeriad, o gyfraniad manion bywyd i'w gyfanrwydd, a'i hymdeimlo mawr â'r elfennaidd a'r sylfaenol, yn enwedig lle mae colli o ryw fath, neu fod heb rywbeth, yn profi ac yn bychanu dyn.
Er gwrthwynebiadau gwleidyddol (ac yn aml, ansicrwydd gwyddonol), yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf, trawsnewidiwyd ein hamgyffred o'n dibyniaeth ar yr amgylchedd - tyfodd ymwybyddiaeth newydd ac, yn araf, blaenoriaethau newydd.