Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hamgylch

hamgylch

Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma Jerwsalem; fe'i gosodais yng nghanol y cenhedloedd, gyda gwledydd o'i hamgylch, ac y mae wedi gwrthryfela'n waeth yn erbyn fy marnau a'm deddfau na'r cenhedloedd a'r gwledydd o'i hamgylch, oherwydd y mae'r bobl wedi gwrthod fy marnau, ac nid ydynt yn dilyn fy neddfau.

'Arhosa i gyda chi heno, Mam-gu,' meddai Seimon, a rhoi ei fraich o i hamgylch i'w chysuro.

Tra oedd yn cerdded fel hyn, ei meddwl yn bell oddi wrth y bobl o'i hamgylch, agorodd merch ffenestr llofft tŷ cyfagos a galw allan, "Pamela, be wnei di yma?" Trodd Pamela i weld pwy oedd yno ac meddai'r ferch wrthi drachefn, "Rown i'n meddwl amdanat ti ychydig eiliadau cyn iti ddod i'r stryd.

Ar ol gadael twnel mawr pedair milltir Alvra neu Albula, mae'r trenau prysur, prydlon yn mynd trwy saith twnel sylweddol arall wrth ddisgyn dros fil o droedfeddi i Bravuogn, gan droi o'u hamgylch eu hunain bum gwaith, y rhan amlaf y tu fewn i'r graig.

Pan ddaeth yn amser i ni fynd allan i'r iard, daeth nifer o fechgyn o'm hamgylch, fel yn y bore, gan ddangos diddordeb ynof, fel pe bawn yn fod o ryw fyd arall, a dechreusant fy herio fel o'r blaen.

Fel llawer o afonydd y mae Afon Conwy weithiau yn llifo dros ei glannau ac yn gorchuddio'r tir o'i hamgylch.

Toc, mentrodd agor cil ei llygaid i edrych yn llechwraidd o'i hamgylch, gan ddisgwyl gweld rhywun yn camu o'r tywyllwch.

Edrychodd o'i hamgylch.

Gosod warchae arni, adeilada warchglawdd o'i hamgylch, cod esgynfa tuag ati, rho wersylloedd yn ei herbyn a gosod beiriannau hyrddio o'i chwmpas.

bwriodd lygad dros y meysydd o 'u hamgylch.

Mae nifer helaeth o'r cymariaethau a'r delweddau yn gymaint rhan o'r cartref ag ydyw'r tân a'r cwrdd yr eisteddai'r teulu o'u hamgylch.