Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hanafu

hanafu

Mae'n sicr fod nifer mawr wedi cael eu hanafu.

Mae rhai o'r plant yn cael eu hanafu, hefyd, gan y bomiau sy'n parhau i fod yn y tir.

56 yn cael eu lladd a 162 yn cael eu hanafu yn y galanastra yn Sharpville, Transvaal.

Cafodd y milwr ei ladd a dau arall eu hanafu ger tref Iddewig yn Llain Gaza yn ystod ymosodiad ar doriad gwawr gan un o grwpiau Fatah sydd â chysylltiad ag Arlywydd y Palesteiniaid Yasser Arafat.

Yn ôl adroddiad a gafodd ei lunio gan y grwp, mae tri o bobol ifanc - bob awr - yn cael eu hanafu wrth geisio lladd eu hunain.

Cant yn cael eu lladd a mil yn cael eu hanafu yn nherfysg Soweto, De Affrica.

Oriau yn ddiweddarach cafodd Mrs Parker, nad oedd wedi cael ei hanafu'n ddrwg, afael ar ei merch mewn ysbyty yn Zeebrugge.

Y Gwarchodlu Cymreig yn dioddef: 39 wedi eu lladd a 79 wedi eu hanafu pan ymosodwyd ar y llong Sir Galahad yn Bluff Cove.

Mae'r garfan yn cael eu hymestyn oherwydd fod rhai chwaraewyr dawnus wedi'u hanafu.

Mae Josh Low, Rhys Weston, Daniel Gabbidon a Gavin Gordon i gyd wedi'u hanafu, ac yn annhebygol o deithio gyda'r garfan.

Roedd hyn yn golygu fod y chwarren ger y stumog (spleen) wedi ei hanafu.

Mae'r garfan yn cael eu hymestyn oherwydd fod rhai chwaraewyr dawnus wediu hanafu.