'Doedd dim hanas am lo.
"Ia i hon," medda fi, a dyma fi'n dangos fy mhib iddi hi, ac mi ddeudais hanas y plisman hwnnw a phob dim - fel yr oedd o wedi gyrru dau foto i wyneba'i gilydd, a pha mor uchal oedd y trethi, i edrych fasa hynny'n tynnu deigryn o'i chalon hi.