Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hances

hances

Cadwai nhw mewn bocs pren gyda'i drysorau eraill: darlun brown a melyn o'i gariad cyntaf, y llythyrau a anfonodd ati a'i hances lês.

Sychodd y chwys berw o'i dalcen â hances fawr.

Yn y bore daeth Siôn Corn yr ysbyty heibio i bawb, ac i'r rhai a gollodd eu baban yr oedd ganddo hances boced, ychydig o siocled a gair o gydymdeimlad a chysur.

LLyncodd ei phoeri, estynnodd ei hances o'i llawes a chwythu'i thrwyn yn iawn.

'Roedd ganddi hances boced fawr, ac os oedd un o'r merched yn chwerthin yn y capel, byddai'n ei tharo'n galed efo'r hances.

Gwelai ei gŵr yn taflu ei hances boced fudr o'i boced ac yn cymryd un lân o'r drôr, a'i esgidiau yn twymo ar y ffender, yn ddu am heddiw ar fore Llun, wedi eu hiro â saim, a hwnnw heb sychu yn nhyllau'r careiau, ac yn chwysu yng ngwres y tân.

Rhannodd ei arian rhwng ei bedair poced a rhoi hances wen yn bigyn twt yn yr uchaf.

"Bombacha% a "boots" duon, cot dywyll, het ffelt ddu a hances sidan wen am eo wddf.

Yn ei cherdd Cusan Hances, sy'n un o ddwy gerdd o deyrnged i'r diweddar RS Thomas, mae Menna Elfyn yn pwysleisio'r gred mai pontio ieithoedd - ac felly pobloedd - mae cyfieithu ac nid difetha'r farddoniaeth wreiddiol.

Ydi'r hances yn dy lawes di?'

'Os ydi rhywun yn lân ac yn daclus,' aeth yn ei blaen, 'ac yn cario hances, BOB amser heb eithriad, han-ces...

Mae'n rhy boeth yma i ddyn â gwaed yn ei wythiennau." Sefais a thynnais fy ngh^ot oddiamdanaf a thynnais fy hances boced allan a sychais fy wyneb a'm gwddf a chefn fy ngarddyrnau.

Rhoddodd yr hances yn erbyn ei wyneb.