Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

handi

handi

Pan oedd pawb wedi cilio i'w cytiau, roedd un o fechgyn y Llynges yn crwydro o amgylch y gwersyll yn chwilio am hoelion a darnau o bren a sachau, ac wedi iddo lwyddo i gael digon o ddefnyddiau aeth ati i wneud gwely bach reit handi iddo'i hun.

Sam oedd "Handi-man" y swyddfa, yn glanhau'r lle (fwy neu lai), yn mynd ar negesau, ac - yn bennaf dim - yn gofalu nad oedd yr un ymwelydd yn ymyrraeth a mi pan oedd arnaf eisiau llonydd i ysgrifennu.

"Daeth fy mhrofiad o wneud colur yn handi, achos oedd angen gwneud y llygaid yn drawiadol, felly oedd e'n neis gallu gwneud hynny." Tra'n gwneud Twm Sion Cati gyda Chwmni Whare Teg, fe ddaeth i gysylltiad â Catrin Fychan - Gina yn Pobol y Cwm.

Tyrd wir, i ni gael tro reit handi.'

Handi iawn.

Efallai y gallwn ni ffeindio mas os byddai ein harian ni'n dod mewn yn handi gyda nhw yn rhywle.Sendina yn dysgu Bosnieg i mi ROEDD yr wythnos gyntaf yn amser i ni weld y gwersylloedd a chwrdd â phawb oedd angen gwrdd.

'Da, 'ngwas i, tasat ti ond yn ca'l dy dderbyn yn bregethwr cynorthwyol, William, fath â dy daid ers talwm.' 'Ydi'r cur pen yn well, Mam?' 'Dipyn bach.' 'Mi wna i banad bach o Ofaltîn i ni'n dau cyn mynd a mi fedrwch chi fynd i'ch gwely'n reit handi wedyn.'

Roedd joints plastig yn betha digon handi!

Mi goda i gwt pwrpasol iddo fo, A meddylia mor handi fydd o i fwyta sbarion yr hen blantos.

Fydd arthreitus ddim yn medru cadw pobl ddieithr allan wedyn ac mae yna dwnel newydd ac ati er mwyn i'r Romans fedru dwad yn eu holau reit handi.

Ac yn y pen arall, y ferfa ysgafn, handi, yn baent ac yn sglein i gyd ac yn symud ar le glas heb ddim ond sūn yr echel yn troi yn ei saim.

Roeddan ni'n medru codi'i sgert a'i phais i fyny mor handi, a'u rhoi nhw'n sownd wrth 'i gwasg, ac mi oedd hi'n medru dod o hyd i'r cocos mor gyflym â gwylan fôr, hefo'r hen lwy bach bren 'na Mi gawson ni andros o hwyl yn hel, er na ddaru ni ddim cael gymaint â hi.