Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

haneru

haneru

O ganlyniad i archwiliad a wnaed gan arbenigwyr ar ran y Cyfundeb a'r adroddiad a gafwyd am ddiffygion yr adeilad, yn ogystal â'r ffaith fod rhif yr aelodaeth erbyn hyn wedi'i haneru i'r hyn a fu yn y gorffennol, rhoddwyd ystyriaeth ddwys i'r priodoldeb o gwtogi ar faint y capel.

Serch hynny, gellir cynhyrchu goleuni gwyrdd o'r laser hwn drwy yrru'r goleuni is-goch drwy grisialau arbennig sy'n medru haneru'r donfedd.

Erbyn diwedd y ganrif mae'r diwydiant glo wedi diflannu i bob pwrpas, mae'r gweithfeydd dur mawr yn Shotton, Glyn Ebwy a Chaerdydd wedi cau, ac mae nifer y rhai sy'n gweithio mewn amaethyddiaeth wedi haneru.

Ers yr oes araf honno mae prisiau wedi carlamu; yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae'r bunt wedi haneru mewn gwerth.