Fy amcan i yn yr ysgrif hon yw mynd gam ymhellach,a gosod gweithiau Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr, nid er mwyn cyffredinoli ynghylch hanfodion neu ragoriaethau y naill na'r llall, ond gan obeithio y daw natur arbennig rhai gweithiau unigol yn amlycach o'r cyferbynnu.
Hanfodion Unod Gwladwriaethol
Y mae cenedlaetholdeb a cheidwadaeth yn eu hanfodion yn un.
Er fod y Llythyr Ynghylch Catholigiaeth yn ymwneud yn bennaf â daliadau crefyddol a diwinyddol yr awdur a'i feirniaid, neu hwyrach oherwydd hynny, ceir ynddo hanfodion Ewropeaeth Saunders Lewis.
Mae gwres a goleuni o'r haul yn goleuo and yn twymo eangderau mawr o dir a mor bob dydd, gan roi hanfodion bywyd iddynt.
Os na fedrwn ni heddiw hawlio'r un adnabyddiaeth gyfeillgar o gymeriadau'r Hen Destament, mae maniffesto taith Y Gohebydd yn crynhoi llawer o hanfodion crefft y gohebydd tramor.
Ar dudalennau'r Llenor, gydol y dauddegau a'r tridegau, cynhaliwyd trafodaeth ar Hanes Cymru, hanfodion Cymreictod a pherthynas Cymru ag Ewrop rhwng Saunders Lewis ac Ambrose Bebb ar y naill law, y ddeheulaw, a W. J. Gruffydd ac R. T. Jenkins, ar yr aswy.
Mae dweud fod Euros yn fab y Mans, er enghraifft, yn rhoi'r argraff ei fod wedi cael rhyw fagwraeth gysgodol a breiniol ar aelwyd na phrofodd brinder o hanfodion byw, a'i fod wedi cael pob rhwyddineb i ddilyn ei yrfa addysgol o'r cychwyn cyntaf.
Mynner o'r herwydd hanfodion llwyddiant.
Y mae disgrifiad Lingen o nos Sadwrn a nos Sul ym Merthyr yn rhyfedd o debyg yn ei hanfodion i ddisgrifiad D J Williams o'r nosau hynny yn Ferndale.
Yn ail, ei bod yn amherthnasol ac yn wir yn anfoesol, mabwysiadu polisi%au i warchod yr amgylchfyd os ydynt yn tanseilio gobeithion y tlawd a'r anghennus (yn unrhyw wlad) am hanfodion bywyd gwâr, sef bwyd llesol, cartref clyd a dillad addas, parch cymdeithasol, gwaith, a gwarchodaeth rhag gorthrwm.
Roedd iddo ymhlygiadau gwleidyddol, am fod ei ddiffiniad o lenyddiaeth ynghlwm wrth ei syniadau am hanfodion cenedl.
Dro ar ôl tro mae'n symleiddio manylion er mwyn pwysleisio'r hanfodion - y graig, y môr, y tir - gan hepgor manion amherthnasol er mwyn dal ysbryd yr olygfa fel y gwelai ef hi.
Iddo ef neges seml oedd yr Efengyl a gallai fod yn bur bigog ynglyn â diwinyddion a oedd yn sefyll yng ngoleuni gwrandawyr trwy hollti blew'n fympwyol."Take heed", meddai, "of sophisticating the Gospel." Fel y Ficer Prichard, credai Wroth fod gwerth mewn llunio penillion ar batrwm y cwndidau i wneud hanfodion y Ffydd yn gofiadwy i'w bobl.
Oherwydd bod disgyblaeth a hyfforddiant mewn llu mawr o eglwysi wedi pallu, y mae anwybodaeth yr aelodau am gynnwys y Beibl a hanfodion y Ffydd yn achos pryder mawr.
Roedd i'r gyfundrefn Sofietaidd rhyw lun o sadrwydd ac roedd yr hanfodion ar gael i hwyluso hedfan a theithio ledled yr ymerodraeth.
Pan lwyddodd Bardeen, Brattain a Shockley i fwyhau foltedd trwy ddefnyddio grisial bychan o germaniwm, yn ffodus roedd y wybodaeth o hanfodion ffiseg solidau, ac yn arbennig ffiseg lled- ddargludyddion yn weddol gyflawn, yn dilyn damcaniaethau a seiliwyd bymtheg neu ugain mlynedd ynghynt.